Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Mawrth 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Nifer yr achosion o dwbercwlosis (TB) mewn gwartheg ym Mhrydain Fawr
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae datganiad Ystadegau Defra yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.
Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB
- Yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2019, cofnodwyd 730 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru.
- Dyma ostyngiad o 8% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gofnodwyd 790 o achosion.
- Mae’r duedd gyffredinol ers 2009 yn fras am i lawr. Er hynny, nid yw’n gyson a chafwyd cyfnodau pan fu’r duedd ar i fyny a chyfnodau pan fu’r duedd am i lawr.
Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB
- Yn y 12 mis hyd at fis Mawrth 2019, cafodd 11,662 o wartheg eu lladd i reoli TB Gwartheg.
- Dyma gynnydd o 14% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 10,195 o wartheg eu lladd.
- Mae’r duedd gyffredinol yn amrywio. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.
- Fel y dengys yn y siart, mae’r gyfres fisol yn hynod o amrywiol, a gellir disgwyl adegau a brigau o bryd i’w gilydd. Mae’r niferoedd yn y misoedd diweddar wedi bod yn is na’r brig ym mis Hydref 2018, ond yn uwch o gymharu â’r niferoedd y flwyddyn cynt.
- Mae misoedd y gaeaf yn draddodiadol yn gofnod profion prysur, pan gartrefir anifeiliaid. Mae'r cynnydd diweddar yn debygol o fod oherwydd profion gama cynyddol a chymhwyso dehongliad manwl y prawf croen a gwaredu Adweithyddion Amhendant yn holl Fuchesi â Chynllun Gweithredu. Buchesi â Chynllun Gweithredu yw'r rhai sydd wedi bod o dan gyfyngiad am 18 mis neu fwy. Maent yn tueddu i fod yn fawr, a fyddai'n arwain at nifer fwy o adweithyddion. Defnyddir y mesurau gyda'r bwriad i geisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto. Erys i weld ai dyma gynnydd sydyn neu gynnydd cyson am gyfnod hirach.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 062 5050
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.