Neidio i'r prif gynnwy

Data ar brofion, achosion newydd, buchesi o dan gyfyngiadau a gwartheg a laddwyd â TB buchol ar y gyfer Ionawr 2019.

Mae datganiad Ystadegau Defra yn cynnwys ystadegau ar sail yr ardaloedd TB yng Nghymru, ac mae'r pennawd ystadegol hwn yn seiliedig arno.

Nifer y buchesi ag achosion newydd o TB

Siart yn dangos y tueddiad o ran achosion mewn buchesi newydd ers 2008. Roedd 766 o achosion newydd yn ystod y 12 mis hyd Ionawr 2019, sy’n ostyngiad o 4% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

  • Yn y 12 mis hyd at fis Ionawr 2019, cofnodwyd 766 o fuchesi ag achosion newydd o TB yng Nghymru.

  • Dyma ostyngiad o 4% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gofnodwyd 796 o achosion.

  • Mae’r duedd gyffredinol ers 2009 yn fras am i lawr. Er hynny, nid yw’n gyson a chafwyd cyfnodau pan fu’r duedd ar i fyny a chyfnodau pan fu’r duedd am i lawr.

Anifeiliaid gafodd eu difa i reoli TB

Siart yn dangos y tueddiad o ran anifeiliaid a gafodd eu difa er mwyn rheoli TB yng Nghymru ers 2008. Cafodd 11,305 o anifeiliaid eu difa yn ystod y 12 mis hyd Ionawr 2019, sy’n gynnydd o 12% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol.

  • Yn y 12 mis hyd at fis Ionawr 2019, cafodd 11,305 o wartheg eu lladd i reoli TB Gwartheg.

  • Dyma gynnydd o 12% o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol pan gafodd 10,076 o wartheg eu lladd.

  • Mae’r duedd gyffredinol yn amrywio. Gellir priodoli llawer o’r cynnydd diweddar ers 2014 i’r defnydd cynyddol o brofion sensitif iawn. Er enghraifft, mae profion gama, gwaredu Adweithyddion Amhendant a dehongli manwl o’r prawf croen oll wedi’u defnyddio er mwyn ceisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto.

  • Fel y dengys yn y siart, mae’r gyfres fisol yn hynod o amrywiol, a gellir disgwyl adegau a brigau o bryd i’w gilydd. Hydref 2018 oedd y mis uchaf ar gyfer nifer yr anifeiliaid a laddwyd (1,499) ers dechrau’r cofnodion; Tachwedd 2018 oedd yr ail fis uchaf. Mae'r niferoedd yn y misoedd dilynol wedi parhau i ostwng ers y brig ym mis Hydref 2018.

  • Mae misoedd y gaeaf yn draddodiadol yn gofnod profion prysur, pan gartrefir anifeiliaid. Mae'r cynnydd diweddar yn debygol o fod oherwydd profion gama cynyddol a chymhwyso dehongliad manwl y prawf croen a gwaredu Adweithyddion Amhendant yn holl Fuchesi â Chynllun Gweithredu. Buchesi â Chynllun Gweithredu yw'r rhai sydd wedi bod o dan gyfyngiad am 18 mis neu fwy. Maent yn tueddu i fod yn fawr, a fyddai'n arwain at nifer fwy o adweithyddion. Defnyddir y mesurau gyda'r bwriad i geisio gwaredu heintiau a lleihau’r perygl y gallai’r clefyd ledu ac y gallai achosion o’r clefyd ddigwydd eto. Erys i weld ai dyma gynnydd sydyn neu gynnydd cyson am gyfnod hirach.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 062 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.