Dengys yr adroddiad bod nifer y bobl a fu farw ar ôl dioddef strôc wedi gostwng 6% yng Nghymru ers 2011.
Dengys yr adroddiad bod nifer y bobl a fu farw ar ôl dioddef strôc wedi gostwng 6% yng Nghymru ers 2011.
Mae hefyd yn nodi gwelliannau ym mherfformiad ysbytai Cymru wrth drin cleifion strôc.
Mae mwy o ysbytai bellach yn cyrraedd y lefelau uwch "B" i "D" yn erbyn Rhaglen Archwilio Genedlaethol Strôc Sentinel (SSNAP) o gymharu â'r hyn a welwyd yn 2013-14, pan oedd y rhan fwyaf o safleoedd Cymru'n cyrraedd y radd isaf, "E".
Gall y gwelliannau o ran perfformiad fod yn gysylltiedig â nifer o lwyddiannau mewn gofal i gleifion, gan gynnwys rhag-asesiad effeithiol o gleifion strôc.
Mae cleifion strôc bellach yn cael mynediad cyflymach at sgan ar yr ymennydd wrth gyrraedd yr ysbyty. Cododd canran y cleifion sy'n cael sgan CT o fewn 1 awr yng Nghymru o 41.6% yn 2015-16 i 50.6%, yn unol â chanllawiau a osodwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Gwelwyd cynnydd ardderchog o ran sicrhau bod cleifion yn cael eu sganio o fewn 12 awr, gyda 91% o safleoedd Cymru'n perfformio'n well na chyfartaledd yr archwiliad o 94%. Cafodd dros 95% o gleifion Cymru eu sganio o fewn 12 awr.
Yn ystod 2016-17, fe gafodd 50.8% o gleifion Cymru eu derbyn yn uniongyrchol i uned strôc o fewn 4 awr yn unol â’r canllawiau a osodwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Mae cydymffurfiaeth yn erbyn y mesur hwn wedi gwella'n barhaus, gan godi 12.3% ers 2015-16, a lleihau'r tebygrwydd o gymhlethdodau eraill cysylltiedig.
Roedd adroddiad SSNAP yn dangos bod 83.4% o'r cleifion cymwys wedi derbyn cynllun iechyd a gofal cymdeithasol wrth gael eu rhyddhau o uned strôc yng Nghymru. Mae hyn o ganlyniad i gydweithrediad rhwng meddygon, nyrsys a therapyddion sy'n gweithio gyda'r cleifion a'u teuluoedd i sicrhau'r lefelau gorau posib o adferiad.
Mae Llywodraeth Cymru a'r Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc hefyd wedi buddsoddi mewn ymchwil glinigol drwy ariannu Canolfan Ymchwil Strôc. Mae'r cynllun hwn ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhoi cyfle i ysgogi ymchwil newydd a fydd yn fanteisiol i'r rhai sy'n dioddef strôc a'r rhai sydd mewn mwyaf o berygl o gael strôc.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Mae amser yn hanfodol bwysig wrth drin unrhyw un sy'n dioddef strôc. Po gyflymaf y bydd unigolyn yn cael help arbenigol, y gorau yw ei siawns o wella'n llwyr.
"Mae'n wych gweld bod mwy o bobl Cymru'n cael gofal o ansawdd uchel wrth gael triniaeth frys, ac ar ôl hynny gyda’r ddarpariaeth adsefydlu, gwasanaethau seicolegol ac, o bryd i'w gilydd, gofal cymdeithasol. Rwy'n gwerthfawrogi ymroddiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wella gwasanaethau i gleifion yng Nghymru.
"Rydyn ni'n ymdrechu i bawb gael y risg isaf bosib o ddioddef strôc neu, os yw’n digwydd, i gael siawns ardderchog o oroesi a dychwelyd i fyw bywyd annibynnol cyn gynted â phosib.
"Er mwyn adeiladu ar y momentwm hwn, rhaid i sefydliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gwasanaethau cymdeithasol a'r trydydd sector barhau i gydweithio er lles yr holl gleifion ar draws yr holl wasanaethau yng Nghymru."