Neidio i'r prif gynnwy

Data ynglŷn â nifer y bobl a gadwyd o dan Adran 135 ac 136 yng Nghymru yn ôl oedran, rhyw, ethnigrwydd, man diogel a chanlyniad yr asesiad ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022.

Y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yw'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr sy'n caniatáu i bobl gael eu derbyn i'r ysbyty, gyda neu heb eu cydsyniad, ar gyfer asesu a thrin anhwylder meddyliol.

Mae'r ystadegau hyn yn cyfrannu at ddealltwriaeth o'r defnydd o Adrannau 135 a 136 o'r Ddeddf iechyd meddwl ledled Cymru a gwaith amlasiantaeth i ymateb i ofal mewn argyfwng iechyd meddwl.

Prif bwyntiau

  • Cafwyd 20 achos o gadw pobl o dan Adran 135 ac 442 achos o gadw pobl o dan Adran 136 yng Nghymru.
  • Menywod oedd y gyfran uchaf o’r holl rai a gafodd eu cadw.  
  • Roedd 93.5% o bob achos yn 18 oed neu'n hŷn.  
  • Roedd 94.6% o'r bobl a gadwyd yn perthyn i’r grŵp ethnig Gwyn.
  • Lleoliad iechyd diogel oedd y man diogel cyntaf yr aethpwyd â 71.9% o'r bobl a gadwyd iddo, a cherbyd heddlu oedd y dull cludo mwyaf tebygol. 
  • Ar ôl cael eu hasesu, cafodd 47.4% o'r bobl a gadwyd eu rhyddhau gyda chynllun gofal iechyd meddwl yn y gymuned.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.