Mae ffigurau recriwtio meddygon teulu yng Nghymru wedi cyrraedd y nifer uchaf erioed am y drydedd flwyddyn yn olynol. Cafodd 200 o ddarpar feddygon teulu eu recriwtio eleni, sydd 7% yn uwch na ffigur y llynedd, sef 186.
Mae recriwtio 200 o ddarpar feddygon teulu newydd yn gynnydd aruthrol ar y targed gwreiddiol o 136 ond hefyd yn gynnydd ar y dyraniad uwch a gytunwyd y llynedd, sef 160 o lefydd hyfforddiant.
Mae ffigurau recriwtio meddygon teulu yng Nghymru wedi cyrraedd y nifer uchaf erioed am y drydedd flwyddyn yn olynol. Cafodd 200 o ddarpar feddygon teulu eu recriwtio eleni, sydd 7% yn uwch na ffigur y llynedd, sef 186. Mae recriwtio 200 o ddarpar feddygon teulu newydd yn gynnydd aruthrol ar y targed gwreiddiol o 136 ond hefyd yn gynnydd ar y dyraniad uwch a gytunwyd y llynedd, sef 160 o lefydd hyfforddiant.
Mae’r darpar feddygon teulu wedi’u recriwtio gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sydd wedi sefydlu sawl cynllun yn ystod y blynyddoedd diwethaf i hyrwyddo Cymru fel lle gwych i hyfforddi a gweithio, gyda chymorth yr ymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw, a lansiwyd yn 2016. Mae’r ymgyrch yn cynnwys dau gynllun cymhelliant ariannol: cynllun wedi'i dargedu sy'n cynnig cymhelliant o £20,000 i hyfforddeion sy'n derbyn swyddi mewn ardaloedd penodedig lle bu'n anodd, yn y gorffennol, i lenwi swyddi, a chynllun cyffredinol sy'n cynnig taliad untro i bawb sy'n hyfforddi i dalu cost sefyll eu harholiadau terfynol. Mae’r gwaith y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi’i wneud yn cynnwys gwella presenoldeb mewn digwyddiadau gyrfaoedd ar gyfer Hyfforddeion Sylfaen a myfyrwyr meddygol a Chwrs Hyfforddi Meddygon Teulu wedi’i gynllunio o’r newydd.
Bu cynnydd amlwg yn y cyfraddau llenwi ar draws Cymru gyfan ac yn benodol yn y cynlluniau hyfforddi yn y gogledd ac yn y gorllewin. Bydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar gynyddu nifer y meddygon teulu sy’n gofalu am gleifion yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
Mae recriwtio 200 o hyfforddeion meddyg teulu newydd yn newyddion gwych mewn unrhyw flwyddyn, ond eleni yn fwy nag erioed gwelwyd y gofal hanfodol y mae gweithlu’r GIG a Gofal Cymdeithasol yn ei ddarparu a faint yr ydym yn dibynnu arnynt. Mae’r ymgyrch farchnata genedlaethol a rhyngwladol, Hyfforddi Gweithio Byw wedi gweithio gyda phartneriaid flwyddyn ar ôl blwyddyn i sicrhau bod mwy a mwy yn manteisio ar lefydd hyfforddi meddygon teulu, ac mae’r ffigurau hyn yn atgyfnerthu’r neges bod Cymru’n lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw. Rwyf wrth fy modd ein bod ni eto wedi torri recordiau yn ein niferoedd recriwtio a’n bod ni’n gwneud cyfraniad sylweddol i ddarparu gwasanaeth gofal sylfaenol cynaliadwy.
Dywedodd yr Athro Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Yn amlwg rydym wrth ein bodd ein bod wedi recriwtio mwy na’n targed a bod mwy fyth o hyfforddeion yn dewis Cymru fel y lle i hyfforddi, gweithio a byw.
Bydd ychwanegu’r unigolion hyn at weithlu GIG Cymru yn ein galluogi ni i gynyddu’r capasiti i ddarparu system iechyd a gofal cymdeithasol gynaliadwy yn y dyfodol, fel y nodwyd yn y cynllun Cymru Iachach.