Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r newidiadau i gymwysterau a mesurau perfformiad yn golygu nad yw’n briodol cymharu canlyniadau TGAU eleni a’r llynedd na chwaith bod y cymariaethau’n gywir, rhybuddiodd yr Ysgrifennydd Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan ymateb i’r canlyniadau arholiadau terfynol a gyhoeddwyd heddiw am 2016/17, dywedodd Kirsty Williams:

“Cenhadaeth ein cenedl yw bod pob plentyn, o ba gefndir bynnag y bo, yn cael y cyfle i lwyddo. Mae ein Grant Datblygu Disgyblion, sy’n rhoi cymorth ychwanegol i blant o gefndiroedd o dan anfantais, yn rhan hanfodol o’n cynlluniau ac rydyn ni eisoes yn gweld y manteision.

“Mae’n bwysig cael data lle gallwch gymharu data tebyg, flwyddyn ar ôl blwyddyn, er mwyn gweld pa broblemau o ran perfformiad mae angen mynd i’r afael â nhw. Ond nid yw’r canlyniadau arholiadau terfynol sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn cynnig y math yna o gymhariaeth i ni.

“Rydyn ni wedi cyflwyno nifer o newidiadau i’r system arholi yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Cyflwynwyd dau gymhwyster newydd mewn Mathemateg TGAU, TGAU llinol newydd ar gyfer Saesneg a Chymraeg Iaith, ac mae ysgolion yn symud oddi wrth BTEC Gwyddoniaeth nad oedd yn llwyddo i roi’r sgiliau cymwys i’n pobl ifanc.

“Roedd yr holl newidiadau hyn yn gysylltiedig â chodi safonau ac yn gwbl angenrheidiol ond mae hefyd yn golygu ein bod, i bob pwrpas, yn delio â dwy set wahanol o ddata.

“Yn ôl y dystiolaeth, mae’r Grant Datblygu Disgyblion yn gwneud gwahaniaeth o ran torri’r cyswllt rhwng tlodi a chyrhaeddiad a fu’n rhan ddiflino o’n system addysg. Dyna pam, yn gynharach yn y flwyddyn, y cyhoeddais gynlluniau i estyn y grant a hefyd fy mwriad i barhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau ein bod yn cyrraedd y disgyblion hynny y mae angen y cymorth gwerthfawr hwn arnyn nhw.”