Neidio i'r prif gynnwy

“Nid yw trefniadau cyfiawnder Cymru yn addas i’r diben” yw neges y Cwnsler Cyffredinol mewn digwyddiad Cymdeithas y Cyfreithwyr

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch cynulleidfa o ymarferwyr cyfreithiol bydd y Cwnsler Cyffredinol yn dweud:

"Mae'n rhaid i ni wireddu gweledigaeth ar gyfer Cymru sy'n adlewyrchu gwerthoedd a nodweddion penodol cymdeithas Cymru, gweledigaeth sydd wedi'i seilio ar degwch, ac ar gyfiawnder cymdeithasol ac economaidd, a hynny drwy greu system gyfiawnder nodweddiadol i Gymru.

"Un o'r heriau mwyaf i system gyfiawnder deg a chyfartal yw’r pwysau cynyddol a ddaw yn sgil y toriadau parhaus i gyllid. Yng Nghymru rydym wedi gweld toriadau anghymesur o uchel i gymorth cyfreithiol o'u cymharu â'r toriadau a welwyd ar gyfer Lloegr a Chymru. Mae'r ddarpariaeth Cymorth Cyfreithiol yn wynebu argyfwng yn y DU heddiw ac mae'n rhaid i ni weithredu.

Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn dadlau nad yw'r trefniadau cyfiawnder presennol yn addas i'r diben, a bod angen datganoli plismona a chyfiawnder er mwyn sicrhau system deg a chyfartal yng Nghymru.

Bydd yn dweud;

"Her fawr arall sy'n wynebu'r system gyfiawnder yng Nghymru yw integreiddio cyfiawnder â gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein system lywodraethu bresennol yn gymhleth, yn ddryslyd ac yn anghyson â gweddill y Deyrnas Unedig a deddfwrfeydd datganoledig ar draws y byd. Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i'r gwahaniaeth cynyddol rhwng y cyfreithiau yng Nghymru a Lloegr a dymuniad Llywodraeth y DU i ddiogelu un awdurdodaeth gyfreithiol. Caiff hyn effaith ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus cydgysylltiedig, effeithlon ac effeithiol i Gymru.

Wrth sôn am yr Wythnos Cyfiawnder, dywedodd: 

Mae'n bwysig sicrhau lle blaenllaw i gyfiawnder a rheol y gyfraith yn wleidyddol ac yn gyhoeddus, yn enwedig yn ystod cyfnod o newid sylweddol. Bydd sawl un o'r digwyddiadau yn ystod yr wythnos hon yn gyfle i drafod datrysiadau arloesol ac rwy'n annog pob un sydd â diddordeb yn y maes i gymryd rhan."