Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn pwysleisio pwysigrwydd parhau i gydweithio â'r UE i ymchwilio a datblygu ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad mewn cynhadledd ymchwil a datblygu yng Nghasnewydd, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn trafod nod Llywodraeth Cymru o barhau i sicrhau mynediad at raglenni ymchwil ac arloesi hanfodol yr UE, gan gynnwys Horizon 2020.

Dro ar ôl tro, mae Gweinidogion Cymru wedi nodi'n glir na ddylai cymuned wyddonol ac ymchwil Cymru gael ei hynysu oddi wrth ein partneriaid Ewropeaidd, ac maent wedi pwysleisio pa mor bwysig ydyw i Gymru barhau i fod yn rhan o raglenni dan arweiniad yr UE.

Bydd Mark Drakeford yn dweud:

"Yn ogystal â chydnabod heriau cyni a galw cynyddol, rhaid inni hefyd gydnabod her Brexit a'r cyfnod ansicr sy'n ein hwynebu.

"Rydyn ni'n gwybod bod gwledydd a rhanbarthau ledled y byd yn wynebu yr un heriau iechyd a gofal sylweddol. Nid yw clefydau'n ystyried ffiniau cenedlaethol, ac nid oes modd inni fynd i'r afael â'r heriau wrth ein hunain. Mae parhau i gydweithio ar draws ffiniau wrth ymchwilio, datblygu ac arloesi (yn benodol drwy raglen Horizon 2020 ar hyn o bryd), yn bwysig iawn a dylai hyn barhau ar ôl i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd."

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn pwysleisio pwysigrwydd parhau i gydweithio â'r UE i ymchwilio a datblygu ar ôl Brexit.