Heddiw, mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod canlyniad yr Etholiad Cyffredinol yn golygu nad oes gan Lywodraeth y DU fandad i godi rhwystrau er mwyn atal mynediad llawn a dilyffethair i’r Farchnad Sengl, ac mae wedi galw ar Brif Weinidog y DU i alw cyfarfod brys o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion er mwyn cytuno ar safbwynt y DU wrth negodi ar Brexit.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud hefyd y dylid cynnwys arweinwyr Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd a Sinn Fein yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, hyd yn oed os bydd cyfarfod o’r fath yn cael ei gynnal cyn i Weithrediaeth newydd gael ei ffurfio yng Ngogledd Iwerddon.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
“Mae’r etholiad wedi dangos yn glir nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw fandad ar gyfer y ‘Brexit caled’ y mae Prif Weinidog y DU wedi bod yn ei hyrwyddo.
“Mae Prif Weinidog y DU wedi cymryd un siawns yn barod ‒ ac wedi colli. Fydda i ddim yn gadael iddi chwarae hap ag economi Cymru a gyda swyddi a bywoliaeth pobl. Mae’n rhaid iddi wrando bellach ar yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei ddweud o’r dechrau un; mae mynediad llawn a dilyffethair i’r Farchnad Sengl yn ganolog i ffyniant Cymru ‒ a’r DU ‒ yn y dyfodol ac mae’n rhaid iddo gael blaenoriaeth yn y trafodaethau sydd ar fin cael eu cynnal.“Rhaid i arweinwyr o bob rhan o Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon gyfarfod wyneb yn wyneb er mwyn iddyn nhw gael mynd ati ar y cyd i ystyried sut i fwrw ymlaen â phroses Brexit. Dyna pam mae angen galw cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar fyrder.
“Dw i wedi datgan yn groyw dro ar ôl tro bod fy Llywodraeth i yn barod i gydweithio gyda Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig i gytuno ar ffyrdd cyffredin o weithredu ‒ drwy drafod ac nid drwy orchymyn a ddaw oddi fry ‒ er mwyn atal gwrthdaro o fewn ein marchnad fewnol ein hunan.
“Os yw Prif Weinidog y DU yn barod i gydweithio fel hyn, fel weliff ein bod yn bartneriaid dibynadwy ac adeiladol. Os nad yw ‒ ac os bydd hi, yn lle hynny, yn ceisio sathru datganoli dan draed a gorfodi’r cenhedloedd datganoledig i dderbyn Teyrnas Unedig fwy unffurf a chanoledig, ni fydd gennym unrhyw ddewis ond gwrthwynebu camau o’r fath.
“Dw i wedi dweud wrthi’n blwmp ac yn blaen bod hon yn frwydr nad oes arni ei hangen.
“Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn cyhoeddi papur ar ein cynigion ar gyfer ymateb mewn ffordd greadigol i’r heriau a ddaw i ran y cenhedloedd datganoledig, ac i’r ffordd y bydd y DU yn cael ei llywodraethu yn y dyfodol, o ganlyniad i Brexit.”
Gofynnodd Prif Weinidog Cymru hefyd a fyddai bellach yn bosibl taro bargen ar Brexit o fewn yr amserlen o ddwy flynedd, o ystyried y sefyllfa wleidyddol sydd ohoni.
Ychwanegodd:
“O gofio’r ansicrwydd ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, bydd yn amhosibl negodi cytundeb ar adael yr UE a chytuno hefyd ar sail ein perthynas â hi yn y dyfodol, o fewn cyfnod o ddwy flynedd. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn cytuno o fewn y DU yn awr, a’n bod yn mynd ati’n gynnar yn y trafodaethau i geisio cytuno gyda’n partneriaid yn yr UE ar ffurf y trefniadau pontio a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2019.”