Mae Llywodraeth Cymru yn dathlu dyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru - gan gynnwys melin wlân uchel ei pharch - bron i ddwy flynedd yn gynt na'r disgwyl.
Heddiw, ar Ddiwrnod Perchnogaeth y Gweithwyr (dydd Gwener 21 Mehefin), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi cyrraedd ei nod o gael 74 o fusnesau yng Nghymru o dan reolaeth gweithwyr. Roedd y cyfanswm newydd hwn eisoes wedi tyfu o 37 yn 2021 i 63 y llynedd.
Gosodwyd targed 2026 gan y Gweinidog Economi blaenorol, Vaughan Gething yn 2022, law yn llaw ag ymrwymiad i gefnogi pryniant gan weithwyr a helpu i sicrhau bod cwmnïau o Gymru yn parhau i fod mewn dwylo Cymreig.
Mae gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru a Busnes Cymru a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn cynnig cyngor arbenigol i gefnogi pryniant gan weithwyr, gyda chymorth pwrpasol wedi’i ariannu’n llawn ar gael i helpu perchnogion busnesau i benderfynu ai perchnogaeth gan y gweithwyr a chynlluniau cyfranddaliadau yw’r opsiwn priodol i’w busnes.
Daeth Melin Tregwynt o Sir Benfro yn eiddo i’r gweithwyr yn 2022, gan nodi pen-blwydd y busnes yn 110 mlwydd oed.
Cafodd y felin a'r siop deuluol ei throsglwyddo i'w 42 o weithwyr gan ei pherchnogion ar y pryd, Eifion ac Amanda Griffiths. Tad-cu Eifion a sefydlodd y busnes tecstilau yn 1912 ar ôl prynu'r felin.
Mae'r berchnogaeth wedi'i throsglwyddo trwy ymddiriedolaeth ac mae'n rhoi cyfran i bob gweithiwr yn nyfodol y busnes. Bydd hyn yn cadw'r wybodaeth a'r sgiliau traddodiadol a ddatblygwyd dros y ganrif ddiwethaf ers sefydlu'r cwmni.
Mae Eifion ac Amanda yn parhau i weithio'n rhan amser ym Melin Tregwynt. Dywedodd Amanda:
Trwy basio'r baton i'n gweithwyr, nid gadael busnes yn unig ydyn ni; rydyn ni'n gadael etifeddiaeth sy'n ganrif oed i'r rhai sydd wedi cyfrannu fwyaf at ei llwyddiant.
Mae'r penderfyniad hwn wedi rhoi ymdeimlad newydd o bwrpas ac ymrwymiad i'n busnes. Mae ein gweithwyr, sydd bellach yn gydberchnogion, â mwy o ddiddordeb nag erioed yn y busnes, yn ysgogi arloesedd ac yn sicrhau bod y felin yn parhau i fod yn gonglfaen i'r gymuned. Nid cynnal traddodiadau Melin Tregwynt yn unig y maent - maen nhw'n eu datblygu, yn barod i gwrdd â heriau'r dyfodol tra'n parhau yn driw i'r gwerthoedd sydd wedi diffinio ein gorffennol.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg:
Mae perchnogaeth gan y gweithwyr yn darparu nifer o fanteision i weithwyr ac i fusnesau fel ei gilydd, gyda thystiolaeth yn dangos bod busnesau sy'n eiddo i weithwyr yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy gwydn. Mae'r rhain yn lleoedd sydd wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau, yn darparu swyddi tymor hir o safon i'r ardal leol.
Yn draddodiadol, dim ond dau neu dri chytundeb pryniant gan y gweithwyr sydd wedi digwydd bob blwyddyn yng Nghymru, ond mae'r model hwn wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cyflawni 74 o fusnesau o'r fath yng Nghymru yn gyflawniad gwych ac rwy'n edrych ymlaen at weld mwy yn y blynyddoedd i ddod.