Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio ledled Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod rheolaeth drwy orfodaeth yn ffurf ar gam-drin. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod ymgyrch Llywodraeth Cymru, 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' yw helpu pobl i adnabod nodweddion rheolaeth drwy orfodaeth. 

Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn ffurf ar gam-drin - gall fod yn rhywbeth cynnil, sy'n ei gwneud yn anodd ei adnabod a'i gydnabod fel rhywbeth sy'n anghywir ac yn cam-drin y person arall. Yn aml, mae'n gwneud i rywun deimlo'n fach ac wedi'i ynysu.

Mae cyfyngu ar ddefnydd unigolyn o arian, penderfynu beth mae'n cael ei wisgo a gwneud i'r person dorri cysylltiad â'i ffrindiau a'i deulu/theulu yn enghreifftiau o reolaeth drwy orfodaeth.

Amcangyfrifir bod 2m o oedolion yng Nghymru a Lloegr wedi profi cam-drin domestig y llynedd - 65% yn fenywod a 35% yn ddynion. 

Mae rheolaeth drwy orfodaeth wedi bod yn drosedd ers 2015. Y llynedd, cofnodwyd 9,053 o droseddau rheolaeth drwy orfodaeth gan yr heddlu ledled Cymru a Lloegr, a charcharwyd y rhai a erlyniwyd am 17 mis ar gyfartaledd.

Mae ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' yn rhan o ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddod â thrais domestig i ben yng Nghymru. Lansiwyd y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn 2015 ac mae gwasanaeth gwybodaeth a chyngor, Byw Heb Ofn, yn cynnig help 24/7 drwy linell gymorth a chyfleuster sgwrsio byw. 
Yn nigwyddiad lansio ddoe (dydd Iau, yr 17) yn y Riverfront, Casnewydd, clywodd y gynulleidfa areithiau a chlipiau sain emosiynol gan unigolion a oroesodd reolaeth drwy orfodaeth.

Un o'r rheini a oedd yn siarad heddiw oedd Luke Hart. Llofruddiwyd Claire, mam Luke, a Charlotte, ei chwaer iau â dryll ganol dydd golau gan ei dad. Fe wnaeth ef wedyn gymryd ei fywyd ei hun.

Aeth Luke a Ryan ei frawd ati i ddechrau prosiect o'r enw CoCo Awareness. Bellach, maent yn treulio eu hamser yn codi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth ac yn siarad yn erbyn trais dynion tuag at fenywod a phlant. 

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Luke: 

“Mae ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' yn ymgyrch hanfodol bwysig. Fe gawson ni ein magu gan dad a oedd yn rheoli drwy orfodaeth, a wnaethon ni na neb arall weld yr arwyddion am 26 o flynyddoedd nes iddo lofruddio Claire, ein mam a Charlotte, ein chwaer 19 oed yn 2016. 

"Dymuniad unigolyn am reolaeth sydd y tu ôl i bob cam-drin. Mae'n rhaid inni stopio gweld cam-drin fel 'colli rheolaeth emosiynol', ond yn hytrach fel rhywbeth sy'n cael ei yrru gan systemau cred gwrywaidd, yn benodol obsesiwn am bŵer, rheolaeth a goruchafiaeth: dangos gormod o reolaeth mae unigolyn o'r fath, a dweud y gwir, nid diffyg rheolaeth. 

"Mae'r rhan fwyaf yn cael syndod a sioc pan ddaw achos o gam-drin domestig i'r golwg, ond y rheswm am hynny yw ein bod yn chwilio am y pethau anghywir. Bydd yr ymgyrch hon yn help i'n haddysgu i gyd am yr hyn y mae angen inni fod yn edrych amdano."

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:

"Mae'n gymaint o destun sioc ag o gywilydd bod 1 ym mhob 4 menyw yn profi cam-drin domestig yn ystod eu bywyd. Allwn ni ddim cadw'n dawel a wnawn ni ddim.

"Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud ledled Cymru, gan gynnwys y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol hollbwysig yn 2015, a bydd ein hymgyrch newydd ar reolaeth drwy orfodaeth yn galluogi dioddefwyr a'r rheini o'u hamgylch i sylweddoli beth yw nodweddion cam-drin a'u cydnabod. Hyd nes y cawn wared yn llwyr ar gam-drin, byddwn yn parhau i ledaenu negeseuon yn ennyn cefnogaeth ac yn codi ymwybyddiaeth, a brwydro yn erbyn y troseddau atgas hyn."

Dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip:

"Ymgyrch 'Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn' yw'r cam nesaf yn ein hymrwymiad, sy'n parhau, i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. 

"Tan yn ddiweddar, doedd rheolaeth drwy orfodaeth ddim yn cael rhyw lawer o sylw. Gyda chymorth rhyfeddol goroeswyr a chyrff partner, rydyn ni'n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn codi ymwybyddiaeth o'r ymddygiad gwenwynig hwn ac yn grymuso mwy o bobl i ddod ymlaen." 

Dywedodd Gwendolyn Sterk, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Cymorth i Ferched Cymru: 

"Mae Cymorth i Ferched Cymru yn croesawu'r sylw y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i reolaeth drwy orfodaeth fel ffurf ar drais yn erbyn menywod a merched. Rydyn ni'n teimlo ei bod yn bwysig iawn codi ymwybyddiaeth o'r broblem a'i gwneud yn hysbys ei bod yn drosedd. 

"Yn aml, y cyfan mae'n ei gymryd i fenyw sy'n cael ei rheoli neu ei cham-drin o fewn perthynas yw cael sgwrs gyda rhywun sy'n credu ynddi, yn deall yr hyn y mae'n ei brofi, ac yn gwybod i ble i'w chyfeirio am gymorth a chefnogaeth arbenigol."

Dywedodd Yasmin Khan, Cynghorydd Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: 

"Mae goroeswyr yn dweud wrthon ni eu bod nhw'n teimlo wedi'u sarhau gan y rheolaeth, ac yn waeth na hynny gall fod yn anodd iddyn nhw brofi'r hyn sy'n digwydd. Maen nhw'n dweud bod effaith gronnol i reolaeth drwy orfodaeth, a'i fod yn gwaethygu dros amser, gan arwain yn aml at gam-drin corfforol."

"P'un a yw rhywun yn profi rheolaeth drwy orfodaeth ei hun neu'n dyst iddo, fe fyddem yn pwyso arnyn nhw i ffonio ein llinell gymorth rad ac am ddim, Byw Heb Ofn, neu gysylltu â'r heddlu."

Os ydych chi wedi profi rheolaeth drwy orfodaeth neu unrhyw fath o gam-drin domestig, ffoniwch linell gymorth gyfrinachol Byw Heb Ofn yn rhad ac am ddim ar 0808 8010 800 neu ewch i bywhebofn.llyw.cymru i anfon neges at gynghorydd 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos.