Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog Brexit, yn dweud heddiw y bydd gadael yr UE mewn modd afreolus, di-drefn yn fygythiad dirfodol i’r Deyrnas Unedig ei hun.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Conwy, bydd y Gweinidog Brexit yn rhybuddio nad oes amheuaeth y gallai Brexit caled neu un heb gytundeb chwalu’r Undeb.

Bydd yn galw ar Lywodraeth y DU i gydnabod yr angen am newid radical yn nhrefniadau cyfansoddiadol y DU er mwyn ei gwneud yn addas ar gyfer y 21ain ganrif os byddwn yn gadael yr UE neu beidio, a bydd yn dweud y bydd Cymru ar ei hennill o fod yn rhan o Undeb ddiwygiedig.

Bydd Jeremy Miles yn dweud:

“Mae’n ymddangos i mi mai prif flaenoriaeth y Prif Weinidog newydd yw paratoi i adael heb gytundeb. Ond mae’n ymddangos nad yw’n ymwybodol o’r ffaith na all unrhyw baratoadau wir liniaru effeithiau ymadael trychinebus heb gytundeb.

“Mae ei daith fawreddog o’r cenhedloedd datganoledig, a’r ffocws cyhoeddus amlwg a’r cyflymdra y mae’n paratoi ar gyfer ymadawiad y DU, wedi hoelio sylw nid yn unig ar y Brexit caled neu’r un heb gytundeb y mae’n ei arddel, ond hefyd ar gwestiwn dyfodol yr undeb. 

“Yn gynyddol – yn bendant yma yng Nghymru, a nawr yn ehangach i raddau – gwelwyd diddordeb newydd yn yr hyn fyddai Cymru yn ei wneud petai Brexit caled yn golygu y byddai cenhedloedd eraill yn gadael yr Undeb, ac yn wir mewn unrhyw sefyllfa ôl-Brexit – petai canlyniadau Brexit heb gytundeb mor drychinebus ag yr ydym yn credu y byddant.

“Rydym yn credu mai cymdeithas wirfoddol o genhedloedd yw’r DU, ac felly mae’n dilyn ein bod hefyd yn cydnabod bod rhai cydrannau o’r Deyrnas Unedig efallai yn dewis peidio â bod yn rhan ohoni bellach. A phetai hynny’n digwydd, byddai’n rhaid i unrhyw lywodraeth synhwyrol ailasesu safle Cymru yn y DU newydd.

”Felly gadewch i mi fod yn glir ynglŷn â sefyllfa Llywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i gredu yn yr Undeb. 

“Mewn byd sy’n globaleiddio fwy a mwy, nid ydym yn credu ei fod yn synhwyrol i roi’r gorau i wneud i’r berthynas rydym wedi’i hetifeddu gyda’n cymdogion agosaf weithio er lles pob un ohonom – rydym yn credu bod rhannu’r peryglon a’r gwobrau rhwng y pedair cenedl er lles i’n holl ddinasyddion. Rydym am i’r Undeb weithio, a gweithio’n well.

“Ein blaenoriaeth yw aros a diwygio, – o fewn undeb y Deyrnas Unedig ac o fewn yr Undeb Ewropeaidd  - i wneud y defnydd gorau o’r pwerau datganoledig sydd gennym, i bwyso o blaid rhai newydd, ond y cyfan o fewn y Deyrnas Unedig sy’n parhau i gynnig i Gymru y manteision rydym yn eu derbyn ar hyn o bryd drwy fod yn aelod ohoni. 

“Mae hyn yn gofyn am raglen helaeth o newid.” 

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod ar y blaen yn dadlau dros y newid hwnnw.

Dwy flynedd yn ôl, cyhoeddwyd ‘Brexit a Datganoli’ gan Weinidogion Cymru, ymateb Llywodraeth Cymru i oblygiadau Brexit ar y setliad datganoli, i’r cysylltiadau rhwng llywodraethau, ac i gyfansoddiad y DU. Mynegodd eu gweledigaeth ar gyfer dyfodol datganoli a chysylltiadau rhynglywodraethol.

Galwodd y Gweinidogion am y canlynol:

  • Cyngor Gweinidogion y DU, ac am well trefn o ddatrys anghydfod;
  • Ysgrifenyddiaeth annibynnol, efallai wedi’i seilio ar yr hyn sydd eisoes yn bodoli gyda Chyngor Prydain ac Iwerddon;
  • Confensiwn cyfansoddiad y DU, i roi sylw i’r cwestiwn sut mae angen i gyfansoddiad y DU newid.

Bydd y Cwnsler Cyffredinol hefyd yn dweud:

“Hyd yn oed heb Brexit, mae’n amlwg bod yn rhaid i agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli newid yn sylfaenol. Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos ei bod yn hynod ansicr o hyd ynghylch datganoli. Neu yn waeth, agwedd os byddwn ni’n bihafio, bydd Llywodraeth y DU oherwydd ei mawrfrydigrwydd, yn caniatáu ychydig o bwerau cyfyngedig o hunan lywodraeth i ni. Rhyw fath o ddatganoli ‘cymerwch beth sy’n cael ei gynnig’.

“Rhaid i hynny newid. Rhaid ymdrin â datganoli ar sail parch at ein gilydd, cydraddoldeb parch a chyfranogi rhwng yr amrywiol lywodraethau, yn hytrach na’r datganoli “gras a ffafr” sydd gennym ar hyn o bryd. 

“Os yw’r Undeb am oroesi ac os mai’r Undeb fydd yn parhau y dewis gorau er lles Cymru – nawr yw’r amser i egwyddorion cydraddoldeb rhwng y cenhedloedd a chyfrifolaeth gael eu hymgorffori’n gwbl ganolog yn ein cyfansoddiad.”