Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol Cymru yn cael eu cadw ac na fydd eu swyddogaeth bresennol i gadw a gwella harddwch naturiol yn cael ei gwanhau.
Wrth siarad ag ACau heddiw, cadarnhaodd y Gweinidog y bydd y broses o adolygu’r tirweddau dynodedig, sydd ar waith ers 2013, yn dirwyn i ben a chaiff y datganiad polisi ei gyhoeddi yn y misoedd nesaf.
Ym mis Mai 2017, cyhoeddodd Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas adolygiad o Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru.
Sefydlwyd y Grŵp i ystyried y 69 o argymhellion amrywiol eu cwmpas ar ddyfodol tirweddau dynodedig Cymru a nodwyd yn Adroddiad Marsden.
Mewn cyfarfod llawn ym mis Mehefin y llynedd, codwyd cwestiwn ynghylch a fyddai tirweddau dynodedig Cymru yn ddiogel yn y dyfodol o dan Lywodraeth bresennol Cymru. Heddiw, yr oedd y Gweinidog yn awyddus i roi sicrwydd i’r holl bartïon sydd â diddordeb na fydd Llywodraeth Cymru yn newid dibenion y Parciau Cenedlaethol na’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Mewn Datganiad Llafar yn y Senedd, dywedodd Hannah Blythyn:
“Mae’r tirweddau dynodedig wedi bod o dan adolygiad ers ymgynghori ar ddatganiad polisi drafft yn 2013.
“Heddiw, dw i am ateb rhai o’r prif gwestiynau ynghylch safbwynt y Llywodraeth a rhoi cyfle i’r Cynulliad gael gwybod am fy mlaenoriaethau cyn imi gyhoeddi datganiad polisi yn y misoedd nesaf a fydd yn dod â’r broses adolygu i ben.
“Dw i’n croesawu’r adolygiadau a’r adroddiadau trylwyr a diddorol gan yr Athro Marsden a’i banel a’r Arglwydd Dafydd Elis Thomas a’r Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol.
“Mae’r broses adolygu wedi arwain at ffordd newydd o weithio rhwng Parciau, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a rhanddeiliaid. Bellach, maent yn deall yn well sut i gydweithio i wireddu’r blaenoriaethau cenedlaethol.
“Fy mlaenoriaeth dros y misoedd nesaf fydd cydweithio ag Awdurdodau’r Parciau a phartneriaid yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ar ein strategaeth bresennol ar gyfer ecosystemau a thirweddau gan gydnabod, ar yr un pryd, gwerth parhaus eu diben gwreiddiol.
“Dw i wedi ymrwymo i sicrhau bod ein pobl a’n cymunedau’n gwerthfawrogi prydferthwch yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r Parciau Cenedlaethol a bod ein tirweddau dynodedig yn gallu cynnal ecosystemau amrywiol, cymunedau bywiog a chadarn, a chyfleoedd i holl bobl Cymru fwynhau hamdden awyr agored.