Ni fydd y gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus yn ailddechrau ar ôl ei atal am ddwy flynedd.
Ni fydd y gwasanaeth awyr Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus (PSO), sydd wedi'i atal ers mis Mawrth 2020 oherwydd effeithiau pandemig COVID-19, yn ailddechrau, yn dilyn penderfyniad gan Weinidogion Cymru.
Yn hytrach na gwario hyd at £2.9 miliwn bob blwyddyn i ariannu'r gwasanaeth awyr, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ffyrdd o fuddsoddi’r arbediad hwn i helpu i gyflwyno pecyn o fesurau i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y gogledd.
Roedd 77% o'r bobl a oedd yn teithio ar y gwasanaeth awyr yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith. Ond mae newidiadau o ran gweithio gartref bellach wedi newid trefniadau gweithio pobl. Gyda'r symudiad ar-lein, mae Gweinidogion hefyd yn cyhoeddi heddiw cyllid gwerth £4 miliwn i Brifysgol Bangor arloesi ym maes technoleg sydd ar flaen y gad i ddatblygu gwell darpariaeth band eang mewn ardaloedd gwledig.
Mae Canolfan Ragoriaeth Prosesu Signalau Digidol (DSP) y Brifysgol yn cael ei hariannu i ddod â chysylltiadau band eang 5G drwy geblau ffeibr optig i ardaloedd sy’n anos eu cyrraedd. Mae'r brifysgol yn gweithio gyda chonsortiwm o gwmnïau i gynyddu'r capasiti a gwella gallu synhwyro ceblau ffeibr optig a ddefnyddir i ddarparu band eang symudol cyflymach a mwy dibynadwy. Bydd hyn yn cael ei dreialu gyda mwy na 400 o adeiladau ar Ynys Môn nad oes ganddynt fynediad at fand eang cyflym iawn.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth:
“Mae'r pandemig wedi sbarduno newid enfawr i'r ffordd y mae pobl yn gweithio, gyda llai o deithio ar gyfer busnes dros y blynyddoedd diwethaf.
“Nid ydym yn credu y bydd lefelau teithwyr yn dychwelyd i lefel sy'n gwneud y gwasanaeth hwn yn hyfyw yn economaidd nac yn amgylcheddol. Yn hytrach, byddwn yn buddsoddi'r arian sy’n cael ei arbed o redeg y gwasanaeth i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd. Bydd hyn o fudd i fwy o bobl ac yn ein helpu i gyrraedd ein targed Sero Net erbyn 2050.
Mae'r penderfyniad yn dilyn canlyniad astudiaeth annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i effaith carbon y gwasanaeth ar yr amgylchedd. Dangosodd yr astudiaeth fod y gwasanaeth wedi cael effaith fwy negyddol ar yr amgylchedd nag unrhyw fath arall o deithio rhwng Ynys Môn a Chaerdydd, oni bai ei fod yn hedfan yn agos at gapasiti llawn bob dydd, a fyddai, o ystyried y gostyngiad sylweddol mewn teithio ar gyfer busnes ers y pandemig, yn annhebygol iawn.
Dangosodd y dadansoddiad hefyd, er gwaethaf canfyddiadau cyffredin, nad y gwasanaeth awyr oedd y cyswllt cyflymaf bob amser â Chaerdydd o'r gogledd, yn enwedig i'r dwyrain o Fangor, lle mae teithio ar y rheilffyrdd mewn gwirionedd yn gyflymach, o ddrws i ddrws. Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn cerbydau rheilffordd newydd, gyda Wi-Fi, mannau gwaith cyfforddus ac arlwyo ar y trên, yn golygu bod gwasanaeth rheilffordd Caergybi-Caerdydd bellach yn cynnig arlwy llawer mwy deniadol i'r rheini y mae dal angen iddynt deithio ar gyfer busnes rhwng y gogledd a'r de.
Mae'r penderfyniad hwn yn dilyn y newyddion ddoe, er bod Cymru ar y trywydd iawn o ran ein targedau hinsawdd, fod llawer mwy y mae angen ei wneud o hyd.
Ychwanegodd Lee Waters:
“Mae angen inni sicrhau mwy o ostyngiadau yn ein hallyriadau yn y degawd nesaf nag a gyflawnwyd gennym yn ystod y tri degawd diwethaf os ydym am osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd. Mae'n mynd i fod yn her aruthrol a bydd angen wynebu dewisiadau anodd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru sydd eisoes wedi dechrau edrych ar yr opsiynau i adeiladu cysylltiadau mwy effeithlon o ansawdd uchel ar draws y Gogledd ac i mewn i’r gogledd. Yn ogystal â hynny, mae'r rhaglen Metro gwerth miliynau o bunnoedd yn mynd rhagddi.
Mae Gweinidogion wedi penderfynu defnyddio'r £2.9 miliwn o gyllid a glustnodwyd ar gyfer y cyswllt awyr i gyflymu'r gwaith ar gysylltedd rhwng y gogledd a'r de o fewn rhaglen Metro Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynnydd cyflymach ar Uwchgynllun Caergybi, Porth Bangor a Phorth Wrecsam, ochr yn ochr â gwaith tuag at ddatblygu gorsafoedd newydd ym Mrychdyn a Maes-glas.
Mae'r cynlluniau hefyd yn datblygu gwaith i wella amseroedd teithio a gwasanaeth ar y rheilffordd rhwng Caergybi a Chaerdydd a gwella integreiddio â dulliau teithio cynaliadwy eraill ar hyd y llwybr, er mwyn cyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer pedwar trên yr awr ar Brif Linell Reilffordd Gogledd Cymru, a mynediad rheilffordd haws a chyflymach i dde Cymru. Bydd y gwaith hefyd yn edrych ar opsiynau ar gyfer dyblu amlder y gwasanaeth bysiau rhwng Caernarfon a Phorthmadog, er mwyn gwella cysylltiadau â’r rheilffordd i’r de a’r canolbarth.
Mae'r prosiectau hyn yn gamau hanfodol ar y llwybr i sicrhau bod pobl yn gallu teithio'n haws ac yn gyflymach rhwng y gogledd a'r de, gan helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.