Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl adroddiad newydd gan gorff gwarchod cydraddoldebau'r DU, bydd polisïau trethu a diwygio lles Llywodraeth y DU yn gwthio 50,000 yn rhagor o blant i dlodi yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ddiweddar cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ei gasgliadau ynghylch effaith gronnol bosibl y diwygiadau a wnaed i'r systemau trethu a lles gan Lywodraeth y DU, ynghyd â'r rhai sydd ar y gweill, ar bobl sy'n rhannu gwahanol nodweddion gwarchodedig. 

Mae'r adroddiad yn dadansoddi newidiadau polisi a wnaed rhwng mis Mai 2010 a mis Ionawr 2018, a fydd wedi cael eu rhoi ar waith erbyn blwyddyn ariannol 2021-22. Mae'n canfod y bydd bron i hanner yr aelwydydd yng Nghymru yn dioddef oherwydd y diwygiadau, ac mai’r bobl â'r incwm isaf fydd yn teimlo'r effaith fwyaf. 

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos y canlynol:

  • bydd tlodi plant cymharol yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol - sef 50,000 o blant (neu 8 bwynt canran) erbyn 2021/22 o ganlyniad i'r diwygiadau a ddadansoddwyd i'r systemau trethu a lles
  • bydd teuluoedd mawr yn cael eu taro'n arbennig o galed gan y diwygiadau wrth i deuluoedd â thri neu ragor o blant golli tua £5,600 y flwyddyn
  • yn ôl y rhagolygon, bydd y gyfradd tlodi plant ar gyfer y rhai ar aelwydydd unig riant ym Mhrydain Fawr yn codi o 37% i dros 62% a bydd rhieni unigol yn colli £5,250 y flwyddyn ar gyfartaledd, sef bron i bumed rhan o'u hincwm blynyddol.

Mewn llythyr a ysgrifennwyd ar y cyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, mae'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies, Arweinydd y Tŷ â chyfrifoldeb dros gydraddoldebau, Julie James, a'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans wedi galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei pholisïau ar gyfer diwygio trethi a'r system les, oherwydd yr effaith ariannol negyddol y byddant yn eu cael ar y rhai mwyaf difreintiedig.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant:

"Mae ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant ac i wella bywydau teuluoedd ar incwm isel yn cael eu niweidio gan becyn o ddiwygiadau trethi a lles Llywodraeth y DU - yn enwedig felly gan newidiadau i'r system fudd-daliadau fel rhewi cyfraddau budd-daliadau i'r rhai sydd o oedran gweithio, newidiadau i fudd-daliadau anabledd a chwtogi cyfraddau Credyd Cynhwysol. 

"Mae'n gwbl annerbyniol, mewn cenedl waraidd, anwybyddu effaith y diwygiadau hyn ar gyfleoedd cyfartal. Nid yw'n iawn, yn foesol nac yn gywir bod incwm grwpiau gwarchodedig yn cael eu heffeithio mewn dull mor anghymesur. 

"Fel llywodraeth, ni allwn ac ni fyddwn yn cadw'n dawel wrth i ddiwygiadau trethi a lles niweidiol Llywodraeth y DU fygwth hyrddio 50,000 arall o blant Cymru i dlodi a chynyddu amddifadedd ein teuluoedd mwyaf bregus.

"Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau gweithredu ar frys mewn cysylltiad â'r polisïau hyn a fydd yn arwain at galedi difrifol. Mae'n hanfodol bod ailedrych ar y polisïau hyn yn cael blaenoriaeth a bod asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cynnal er mwyn amddiffyn llesiant y rhai sydd fwyaf agored i niwed."