Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion e-Gaffael diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

eDendroCymru

Cyllid ar gyfer offer eGaffael FY22/23, FY23/24 a FY24/25

Cadarnhawyd y cyllid ar gyfer y darpariaethau presennol a chyflawni'r cynllun gweithredu digidol ar gyfer caffael yn y gyllideb ddrafft ar 21 Rhagfyr 2021. Mae'r cyllid yn amodol ar gymeradwyo'r gyllideb derfynol ym mis Mawrth 2022.

Cyflawni cynllun gweithredu digidol

Yn dilyn yr ymarfer darganfod tirwedd eGaffael a gynhaliwyd gan Public, rydym wedi dechrau ar gam cyflawni'r cynllun gweithredu digidol. Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a mynychu ein sesiynau grŵp defnyddwyr eGaffael, anfonwch e-bost at: ICTProcurement@llyw.cymru

Rhyngwyneb defnyddiwr newydd ar gyfer eDendroCymru ym mis Mawrth

Ym mis Mawrth, bydd fersiwn sylweddol Jaggaer 22.1 yn cael ei roi ar waith ar eDendroCymru a fydd yn gwella profiad y defnyddiwr a'r rhyngwyneb. Mae Jaggaer yn gwneud gwaith uwchraddio sylweddol bob pum mlynedd. Ni fydd y fersiwn yn newid ymarferoldeb sylfaenol eDendroCymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma (dolen allanol – Saesneg yn unig).

Gwelliannau pellach i’r Ddogfen Gaffael Sengl (SPD)

Y llynedd, gwnaethom wella'r rhyngweithio rhwng GwerthwchiGymru ac eDendroCymru (eTW) drwy alluogi mewnforio gwybodaeth o eTW i GwerthwchiGymru.

Fel rhan o'r gwelliannau parhaus i'n hoffer eGaffael, rydym yn adolygu'r banc cwestiynau rhan 3 ar gyfer y Ddogfen Gaffael Sengl yn eTW. Mae cwestiynau Rhan 3 yn benodol i brosiect/tendr; wedi’u neilltuo i dendrau unigol fesul achos. Rydym yn bwriadu categoreiddio'r cwestiynau yn grwpiau i symleiddio'r broses chwilio. Byddwn yn adolygu cwestiynau bob chwarter er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am gynnydd yn y Cylchlythyr Caffael Masnachol.

Os hoffech gyfrannu at y gwaith hwn, anfonwch e-bost at: ICTProcurement@llyw.cymru

Ymarferion darganfod dilynol i gefnogi cyflawni cynllun gweithredu digidol caffael

Cyn bo hir, byddwn yn ymgymryd â nifer o ddarganfyddiadau bach newydd, lle byddwn yn edrych ar gynllunydd llwybr caffael, offeryn cynllunio piblinellau ac offeryn mapio polisi. Os hoffech fod yn rhan o unrhyw ran o’r gwaith hwn, anfonwch e-bost at: ICTProcurement@llyw.cymru.

Nodwedd newydd ar GwerthwchiGymru er mwyn cyhoeddi hysbysiadau dyfarnu contract

Mae nodwedd newydd sy'n caniatáu i brynwyr wneud cais a chael caniatâd i ddyfarnu contract pan nad yw'r cyflenwr llwyddiannus wedi'i gofrestru ar GwerthwchiGymru wedi'i roi ar waith. Mae'r nodwedd hon yn goresgyn amrywiaeth o senarios gan gynnwys yr angen i gyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract ar ôl, er enghraifft, dyfarniad uniongyrchol. Mae chwe phrynwr-ddefnyddiwr eisoes wedi defnyddio'r nodwedd hon ers iddi fynd yn fyw ym mis Tachwedd. I gael mynediad i'r swyddogaeth newydd, cysylltwch â desg gymorth GwerthwchiGymru.

Dileu atodiadau blwch post GwerthwchiGymru sy'n hŷn na 12 mis

Ym mis Medi, roedd nodweddion newydd yn golygu y gallai prynwyr lawrlwytho atodiadau blwch post GwerthwchiGymru yn hawdd a'u cadw mewn datrysiadau storio ffeiliau penodol i brynwyr. Ers ei gyflwyno, mae 17 o brynwyr wedi defnyddio'r swyddogaeth i lawrlwytho cyfanswm o 14,655 o atodiadau blwch post. Bydd y cynllun i gael gwared ar yr holl atodiadau blwch post sy’n hŷn na 12 mis yn dechrau ym mis Gorffennaf 2022.

Safon Data Contractio Agored (OCDS)

Cyflwynwyd OCDS fel rhan o'n cynllun gweithredu digidol caffael, ac mae’n gwella'r broses o ddatgelu data a dogfennau drwy gydol y broses gontractio drwy ddiffinio model data cyffredin. Crëwyd OCDS i gefnogi sefydliadau i gynyddu tryloywder, a chaniatáu dadansoddiad dyfnach o ddata contractio gan ystod eang o ddefnyddwyr. 

Ar hyn o bryd mae GwerthwchiGymru wrthi'n diweddaru'r holl fathau o Hysbysiadau a ddefnyddir ar y porth i gyd-fynd â sgema OCDS. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno maes preimio OCDS i gysylltu gwahanol gamau'r cylch oes caffael. Cyn bo hir, byddwn yn dechrau gwella mynediad at ddata cwynion ar GwerthwchiGymru a fydd yn cynnwys datblygu Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau (API) ar gyfer gwell integreiddio ag e-offer a llwyfannau adrodd eraill.