Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion e-Gaffael diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynllun gweithredu digidol eGaffael

Cynhaliwyd cyfarfod misol e.Trading Solutions ar 23 Mehefin. Cafwyd cyflwyniad gan Gwasanaethau Masnachol y Goron (CCS) ar opsiynau fframwaith datrys mân wariant (RM6202).

Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn gwybodaeth neu fod yn rhan o'r grŵp, ebostiwch: CaffaelMasnachol.DigidolDataTGCh@llyw.cymru

Cyhoeddiad Jagger 22.2

Cynhaliodd Jaggaer weminar ar 28 Mehefin am 11:00am, a oedd yn trafod nodweddion diweddaraf datganiad 22.2.

Roedd yn cwmpasu:

  • Rheoli Categorïau
  • Rheoli Cyflenwyr
  • Cyrchu
  • Contractau
  • Gwelliannau Cyffredinol

Ni fydd pob ychwanegiad yn berthnasol i eDendrocymru. Mae recordiad ar gael ar ôl y weminar. I gael mynediad i'r recordiad, mae angen i chi fod wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad. Gellir cael mynediad i'r ddolen weminar drwy wefan Jaggaer.

I weld y nodiadau rhyddhau diweddaraf yn y llyfrgell.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag uwch-ddefnyddiwr eich sefydliad neu ebostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru.

Cymorth a hyfforddiant AWARD

Bydd Penderfyniadau Masnach yn lansio platfform dysgu gwybodaeth System Rheoli Dysgu (LMS) cyn bo hir, a fydd yn rhoi mynediad i ddefnyddwyr at fideos ac awgrymiadau yn rhad am ddim ar gyfer defnyddio'r system. Mae gan ddefnyddwyr yr opsiwn o brynu hyfforddi achrededig pellach.

Mae gan ddefnyddwyr presennol AWARD fynediad i borth cymorth i gwsmeriaid sy'n darparu archwiliadau iechyd, adolygiadau o brosiectau, cymorth dros y ffôn, hyfforddiant, cylchlythyrau a mynediad i weithdai am ddim, i'ch helpu drwy werthusiad.