Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion e-Gaffael diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Grŵp defnyddwyr e-Gaffael nesaf

Mae'r cynllun gweithredu digidol caffael wedi dechrau ar ei gyfnod cyflawni. Os ydych chi'n brynwr ac yn dymuno cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd, cynhelir ein grŵp defnyddwyr eGaffael nesaf ddydd Mercher, 16 Mawrth. 
Os hoffech fynychu'r grŵp defnyddwyr nesaf, anfonwch e-bost at: ICTProcurement@llyw.cymru

Cronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr (SQuID)

Mae'r swyddogaeth SQuID yn cael ei dileu o GwerthwchiGymru ym mis Ebrill ar gyfer pob tendr newydd. Dylai unrhyw dendrau newydd nawr ddefnyddio'r Ddogfen Gaffael Sengl (SPD).

eFasnachu ar gyfer ysgolion

Ni fydd eFasnachu ar gyfer ysgolion ar gael mwyach ar ôl 31 Mawrth 2022. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru

Rhyngwyneb defnyddiwr newydd ar gyfer eDendroCymru

Ym mis Mawrth, bydd fersiwn sylweddol Jaggaer 22.1 yn cael ei roi ar waith ar eDendroCymru a fydd yn gwella profiad y defnyddiwr a'r rhyngwyneb. Ni fydd y fersiwn yn newid ymarferoldeb sylfaenol eDendroCymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Tryloywder a safon data contractio agored (OCDS)

Rydym yn gweithio ar nodyn polisi caffael Cymru i gefnogi cyflwyno tryloywder fel rhan o'n gwaith o weithredu'r OCDS. Byddwn yn diweddaru cwsmeriaid wrth i ni symud ymlaen drwy'r broses ddrafftio.

Cynllunio piblinellau ac offer mapio polisi

Cyn bo hir, byddwn yn cynnal sesiynau ymchwil defnyddwyr i gynorthwyo gyda gwaith sy'n ymwneud â'r cynllun gweithredu digidol. Yn benodol, bydd hyn yn ymwneud â gwella gwelededd ein piblinellau caffael, a gwella'r ffordd yr ydym yn mapio ac yn adrodd ar ganlyniadau polisi.

Byddwn yn adeiladu dau brototeip i ddangos ymarferoldeb posibl cynllunio piblinellau a mapio polisi. Defnyddir y prototeipiau hyn yn ystod sesiynau ymchwil defnyddwyr i gasglu adborth ar gyfer y fanyleb derfynol.

Os hoffech fod yn rhan o'r ymchwil defnyddwyr hwn, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru

Hyfforddiant Award

Mae hyfforddiant ar gael i gwsmeriaid sy'n defnyddio Award ar gyfer gwerthusiadau. Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at: ICTProcurement@llyw.cymru