Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion e-Gaffael diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Darganfod

Mae PUBLIC, y cyflenwr sy'n ymgymryd â'r cyfnod darganfod ar gyfer eGaffael yng Nghymru ar ein rhan, wedi bod yn gweithio gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Maent eisoes wedi cynnal nifer o gyfweliadau gyda rhanddeiliaid ar draws sector cyhoeddus Cymru. Maent hefyd wedi cynnal 32 o gyfweliadau gyda chyflenwyr, gan gynnwys gyda darparwyr offer cyfredol. Cyhoeddwyd arolwg o gyflenwyr ganddynt ddiwedd mis Gorffennaf a hyrwyddwyd hefyd drwy GwerthwchiGymru. Hyd yma mae PUBLIC wedi derbyn a dadansoddi dros 80 o ymatebion – 30% ohonynt yn dod o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru. Os ydych chi’n gwybod am gyflenwr nad yw efallai wedi cofrestru ar GwerthwchiGymru, ac yr hoffech iddynt gymryd rhan a chyfrannu at y darganfyddiad, gofynnwch iddynt gwblhau'r arolwg drwy fynd i:

Fe wnaethant hefyd gynnal profion defnyddioldeb mewn amgylchedd prawf ar gyfer offer presennol drwy gydol mis Awst.

Bydd PUBLIC yn cynnal sesiwn adborth Defnyddwyr ar 18 Ebrill 2022 – os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cysylltwch â ICTProcurement@llyw.cymru. Os na allwch ddod i'r sesiwn, bydd yn cael ei recordio – gofynnwch am gopi gan ICTProcurement@llyw.cymru.

Contractau eGaffael: Dyddiadau Dod i Ben

Mae'r dyddiadau gorffen /adolygu ar gyfer ein contractau eGaffael fel a ganlyn:

eDendroCymru Jaggaer 31 Mawrth 2022 (opsiwn i ymestyn wedi’i ymgorffori yn y contract)
eFasnachu Cymru Basware 31 Mawrth 2023 (opsiwn i derfynu wedi’i ymgorffori yn y contract os nad yw'r cyllid ar gael y tu hwnt i 31 Mawrth 2022)
GwerthwchiGymru Millstream / Proactis 31 Hydref 2022
eDaluCymru Barclaycard 22 Rhagfyr 2023

Nid yw cyllidebau ar draws Llywodraeth Cymru wedi'u cadarnhau eto ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond rydym wedi cyflwyno'r gwaith papur priodol i'n tîm Cyllid ac rydym yn awr yn aros i broses y gyllideb gael ei chwblhau. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y canlyniad pan allwn.

Cadw data

Os ydych chi’n defnyddio eDendroCymru a GwerthwchiGymru, cofiwch y dylech dynnu dogfennau o'r system a'u storio yn system storio dogfennau eich sefydliad eich hun, yn unol â'ch polisi cadw dogfennau. Ni fwriedir i'n systemau eGaffael fod yn systemau storio dogfennau. Mae angen i unrhyw ddata yr hoffech ei gadw gael ei echdynnu a'i storio'n briodol ar gyfer pob caffaeliad.

Hysbysiadau preifatrwydd: GwerthwchiGymru

Mae cyfran fawr o hysbysiadau Preifatrwydd ar goll o broffiliau prynwyr yn GwerthwchiGymru. Er mwyn sicrhau bod y dolenni hyn yn parhau i fod yn gyfredol ac yn gywir, a fyddech cystal â gwirio a diweddaru/ychwanegu dolen at Hysbysiad Preifatrwydd eich sefydliadau o fewn eich proffil prynwr ar GwerthwchiGymru. Ar ôl ei gwblhau, e-bostiwch y ddolen hon i flwch post TGCh (ICTProcurement@llyw.cymru) fel y gallwn sicrhau bod eich sefydliad yn cael ei ychwanegu at GwerthwchiGymru.

Dogfen Gaffael Sengl

Mae SPD yng nghamau olaf gwelliannau UAT. Rydym yn rhagweld y bydd ar gael i'w ddefnyddio ar eDendroCymru erbyn diwedd mis Medi. Unwaith y bydd ar gael, byddwn yn anfon manylion at yr holl brynwyr a chyflenwyr sydd wedi'u cofrestru o fewn y systemau. Bydd SQuID yn cael ei dynnu o GwerthwchiGymru erbyn diwedd 2021.

Cyhoeddiad JAGGAER 21.1

Mae cyhoeddiad JAGGAER 21.2 wedi bod ar gael ers 26 Gorffennaf 2021. Gellir dod o hyd i nodiadau rhyddhau ar gyfer y fersiwn hon yma.

Mae'r datganiadau nesaf wedi'u trefnu fel a ganlyn:

  • 21.3 - Tachwedd 15 2021
  • 22.1 - Ebrill 4 2022

Dun & Bradstreet

Bydd dogfen Polisi Defnydd Teg newydd yn cael ei dosbarthu yn ystod y dyddiau nesaf yn amlinellu'r broses ddiweddaraf o reoli defnyddwyr a thrwyddedau wrth symud ymlaen.

Bydd yn ofynnol i bob defnyddiwr cymeradwy sy'n defnyddio'r offeryn gadw at y polisi wedi'i ddiweddaru er mwyn sicrhau defnydd teg a chymesur ar draws yr holl sefydliadau.

Bydd y Polisi yn ein galluogi i wneud y defnydd gorau o D&B ar draws pob sefydliad.

eFasnachu ar gyfer ysgolion

Sefydlwyd eFasnachu ar gyfer ysgolion yn 2010 o dan raglen Cyfnewidcymru, gyda'r nod o ddarparu cyfres o gatalogau a reolir yn ganolog i ysgolion er mwyn creu arbedion effeithlonrwydd ym maes caffael. Daeth y cymorth ar gyfer y gwasanaeth i ben yn 2017 ac er bod nifer fach o gatalogau yn parhau'n fyw ar y porth, nid yw'r cynnwys (gan gynnwys opsiynau a phrisiau) bellach yn cael ei fetio na'i asesu. O ganlyniad i'r diffyg rheolaeth a'r defnydd isel hwn, byddwn yn cau'r porth o fis Mawrth 2022. Gall ysgolion gael eu cefnogi gan ateb Cerdyn Prynu Cymru yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, cysylltwch â'r Tîm Caffael TGCh ar ICTProcurement@llyw.cymru neu janet.reed@barclaycard.co.uk yn Barclaycard.

Dyfynbrisiau Cyflym GwerthwchiGymru

Oeddech chi'n gwybod bod gan GwerthwchiGymru gyfleuster dyfynbris ar-lein hawdd a chyflym? Mae Dyfynbrisiau Cyflym yn caniatáu i brynwyr gael dyfynbrisiau cystadleuol yn electronig ar gyfer gofynion gwerth isel. Mae canllaw defnyddiwr a fideo ar gael ar GwethwchiGymru.