Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion e-Gaffael diweddaraf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Darganfod

Mae PUBLIC a’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol wedi bod yn gweithio ar yr ymarfer darganfod ar gyfer eGaffael yng Nghymru.  Mae'r cam darganfod bellach wedi'i gwblhau, ac mae map digidol drafft yn cael ei ystyried. Cyflwynodd PUBLIC eu hargymhellion yn y grŵp defnyddwyr eGaffael ar 13 Hydref.

Dogfen Gaffael Sengl (SPD)

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n darparwyr gwasanaeth, GwerthwchiGymru ac eDendroCymru, ar wella defnyddioldeb yr SPD rhwng y ddwy system.

Ers 30 Medi, mae prynwyr wedi gallu allforio SPD wedi'i greu o GwerthwchiGymru a mewnforio tendr i eDendroCymru. Gall cyflenwyr nawr ymateb i gwestiynau yn eDendroCymru a bydd ymatebion yn cael eu storio yn erbyn eu proffiliau, gan ddarparu swyddogaeth debyg i’r Gronfa Ddata Gwybodaeth am Gymwysterau Cyflenwyr (SQuID).

Byddwn yn rhoi gwybod i gyflenwyr am y newidiadau hyn, ac yn argymell bod prynwyr yn cyfleu'r newidiadau hyn i'w cyflenwyr eu hunain.

Dylid defnyddio'r SPD yn ddiofyn erbyn hyn. Bydd SQuID yn cael ei dynnu o GwerthwchiGymru erbyn diwedd 2021. Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn maes o law.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.DigidolDataTGCh@llyw.cymru

Dun & Bradstreet (D&B)

Dosbarthwyd dogfen Polisi Defnydd Teg newydd i ddefnyddwyr D&B, sy’n defnyddio’r system trwy gytundeb Llywodraeth Cymru, yn amlinellu'r broses ddiweddaraf o reoli defnyddwyr a thrwyddedau wrth symud ymlaen. O dan y polisi hwn, rydym wedi datgan na ddylid cael mwy na phum defnyddiwr i bob awdurdod, er mwyn aros o fewn 500 o ddefnyddwyr. Bydd hyn yn ein hatal rhag mynd y tu hwnt i'n lwfans data o dan y contract.

Bydd yn ofynnol i bob defnyddiwr cymeradwy sy'n defnyddio'r offeryn gadw at y polisi wedi'i ddiweddaru er mwyn sicrhau defnydd teg a chymesur ar draws yr holl sefydliadau.

Bydd y polisi yn ein galluogi i wneud y defnydd gorau o D&B ar draws pob sefydliad.