Y newyddion e-Gaffael diweddaraf gan y Gwasanaethau Caffael Cymru.
ESPD: Newid enw
Yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr 2020, mae Dogfen Gaffael Sengl Ewrop (ESPD) bellach yn cael ei hadnabod yn ffurfiol fel y Ddogfen Gaffael Sengl (SPD). Nid ydym yn disgwyl i unrhyw newidiadau eraill, fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda'r darparwyr gwasanaethau (Jaggaer a Proactis) i ddatblygu'r SPD, fel y gellir ei mewnforio'n uniongyrchol o GwerthwchiGymru i dendr o fewn eDendroCymru.
Grŵp defnyddwyr e-Gaffael
Bydd y grŵp defnyddwyr eGaffael nesaf ar gyfer prynwyr yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams ddydd Iau 11 Chwefror 13:30pm -15:00pm. Os ydych chi’n brynwr, ac yr hoffech ymuno, anfonwch neges e-bost i fewnflwch TGCh.
Mae gennym siaradwyr gwadd o Barclaycard, Jaggaer a thimau Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg, a byddwn yn trafod y camau nesaf ar gyfer dyddiadau dod i ben contractau sydd i ddod.
Mae cyfarfodydd y grŵp defnyddwyr eGaffael i brynwyr ar gyfer 2021 wedi'u trefnu fel a ganlyn:
- 13 Mai - 11:00am - 12:30pm
- 19 Awst - 11:00am -12:30pm
- 18 Tachwedd - 11:00am - 12:30pm
Contractau eGaffael - dyddiadau dod i ben
Mae'r dyddiadau gorffen ar gyfer ein contractau eGaffael fel a ganlyn:
Offeryn | Cyflenwr | Dyddiad gorffen |
---|---|---|
eDendroCymru | Jaggaer | 31 Mawrth 2022 |
eFasnachu Cymru | Basware | 31 Mawrth 2022 |
GwerthwchiGymru | Millstream / Proactis | 31 Hydref 2022 |
eDaluCymru | Barclaycard | 31 Mawrth 2024 |
Caiff data ei gadw o fewn y systemau nes ein bod yn rhoi rhybudd i'r darparwyr gwasanaeth i derfynu ein contractau. Cyfrifoldeb pob sefydliad defnyddiwr yw sicrhau eu bod yn cadw eu cofnodion eu hunain o ddata a gedwir yn y systemau hyn.