Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rhwydwaith Seren Llywodraeth Cymru yn hwyluso’r ffordd i fyfyrwyr disgleiriaf Cymru fynd i rai o brifysgolion gorau’r byd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rhwydwaith o ganolfannau rhanbarthol yw Seren a’i nod yw helpu myfyrwyr chweched dosbarth disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd a chael mynediad i brifysgolion blaenllaw.

Mae’r ganolfan olaf, ym Mro Morgannwg, i gael ei lansio heddiw (16 Tachwedd) gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes mewn digwyddiad yng Ngwesty’r Fro. Rydyn ni am gynyddu’r gynrychiolaeth yng Ngrwp Russell a’r Sutton Trust 30. Dyma’r prifysgolion gorau yn y DU sy’n cael eu harwain ar sail ymchwil.

Mae dros 2000 o fyfyrwyr wedi’u dewis i fod yn rhan o un o’r 11 canolfan ranbarthol a gallant elwa ar:

  • fynediad uniongyrchol i sgyrsiau, seminarau a gweithdai mewn prifysgolion blaenllaw gan ddarlithwyr, myfyrwyr ac arbenigwyr ar dderbyniadau myfyrwyr
  • y cyfle i weithio y tu hwnt i gwricwlwm Safon Uwch
  • cymorth pynciau gan athrawon lleol yn eu hardal
  • grwp o fyfyrwyr eraill
  • yr wybodaeth a’r cyngor diweddaraf am wneud cais i brifysgolion.

Dywedodd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:

“Mae Rhwydwaith Seren wedi’i sefydlu i helpu mwy o fyfyrwyr Cymru i gael mynediad i’r prifysgolion mwyaf blaenllaw y DU lle nad ydyn nhw wedi’u cynrychioli’n ddigonol ar hyn o bryd, o gymharu â gweddill y DU.

“Rydyn ni’n gwybod bod nifer anghymesur lai o ymgeiswyr o Gymru i Rydychen a Chaergrawnt yn cael cynigion o gymharu ag ymgeiswyr eraill y DU, er eu bod yn cael graddau tebyg yn eu harholiadau TGAU a Safon Uwch.

“Y myfyrwyr hyn yw ein harbenigwyr a’n harweinwyr ar gyfer y dyfodol, felly mae’n hollbwysig ein bod ni’n datblygu amgylchedd dysgu lle gallan nhw ffynnu’n wirioneddol.

“Mae’n wych gweld bod cymaint o brifysgolion blaenllaw eisoes yn ymwneud â Seren ac yn helpu i gyflwyno’r rhaglenni rhanbarthol. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am barhau i helpu.”

Mae Seren yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chanllawiau i fyfyrwyr ar adeg pan fo’n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau mawr am eu dyfodol. Mae’r rhwydwaith yno i leihau pryder am y broses gais i brifysgolion ac i sicrhau bod myfyrwyr disgleiriaf Cymru yn cael y cymorth sydd ei angen er mwyn cyflawni eu potensial.