Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Deunydd ysgrifennu a phapur copïo
Mae ein fframwaith ar gyfer deunydd ysgrifennu a phapur copïo (NPS-CS-0106-20) yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2021. Byddwn yn ail-dendro ac yn gwerthuso'r fframwaith hwn erbyn diwedd Mehefin 2021. Rydyn ni’n disgwyl y bydd y fframwaith newydd yn mynd yn fyw ar 1 Awst 2021.
Fframwaith gwasanaethau argraffu Cymru gyfan
Ni fyddwn yn adnewyddu ein fframwaith gwasanaethau argraffu (NPS-CS-0022-15) a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2021.
Dylai cwsmeriaid fod yn ymwybodol bod Cyngor Casnewydd yn arwain ar drefniant cydweithredol newydd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Joanne James: joanneclaire.james@newport.gov.uk.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: NPSCorporateServices@llyw.cymru