Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Hoffech chi ein helpu i lunio ein fframwaith newydd ar gyfer prynu cyfryngau, marchnata integredig a gwasanaethau cysylltiadau cyhoeddus? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â'n grŵp ffocws cwsmeriaid i'n helpu i gwmpasu a gwerthuso'r fframwaith newydd a fydd yn disodli'r fframweithiau presennol sy'n dod i ben ym mis Gorffennaf 2021.

Rydym wedi dechrau nodi gofynion ac yn gobeithio cynnal ein GFfC drwy Microsoft Teams ganol mis Hydref. Byddwn yn datblygu'r gofyniad a'r dogfennau tendro ar ôl i ni gynnal y cyfarfod.

Byddwn yn gofyn i aelodau'r GFfC ein helpu i werthuso'r tendrau pan fyddwn yn eu derbyn ym mis Ebrill neu fis Mai 2021.

Am wybodaeth bellach, neu i wirfoddoli, e-bostiwch: NPSCorporateServices@llyw.cymru

 

Rhannu’r dudalen hon