Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Teiars a gwasanaethau cysylltiedig

Mae'r fframwaith hwn wedi cael ei estyn am 12 mis tan 15 Tachwedd 2019 heb unrhyw opsiwn i'w estyn ymhellach. Rydym wedi derbyn enwebiadau ar gyfer grŵp ffocws cwsmeriaid a byddwn nawr yn dechrau gweithio gyda'r grŵp ar adnewyddu'r fframwaith hwn.

Llogi cerbydau II

Mae cwsmeriaid wedi cytuno ar estyniad o 12 mis tan 31 Mai 2020. 

Sylwer bod AF Rentals T/A Bayfield wedi cael ei wahardd o'r fframwaith dros dro oherwydd cyflenwad cyfyngedig.

Rydym yn helpu cwsmeriaid i ymgymryd â mini-gystadlaethau. Os gallwn eich helpu, e-bostiwch ni yn NPSFleet@llyw.cymru 

 

Darnau sbâr cerbydau

Yn ddiweddar, buom yn adolygu rhestr rhannau cyffredin a brisiwyd gan gyflenwyr i Gymru sydd wedi dangos y caiff gwerth am arian ei gyflawni gan bob cyflenwr ar y fframwaith.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch ni yn NPSFleet@llyw.cymru 

 

Mini-gystadlaethau 

Rydym yn helpu cwsmeriaid i ymgymryd â mini-gystadlaethau mewn nifer o fframweithiau, gan gynnwys tanwydd a nwyddau a gwasanaethau cysylltiedig; telemateg; llogi cerbydau ar gontract; a llogi cerbydau II.

Os hoffech gael cymorth gennym, e-bostiwch ni yn NPSFleet@llyw.cymru