Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Cyffredinol
Dylai pob cwsmer sicrhau ei fod yn defnyddio'r fersiynau diweddaraf o ddogfennau canllaw'r fframweithiau
Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan
Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan ar 19 Mawrth 2019. Mae Grŵp Trafnidiaeth a Pheiriannau Cymru Gyfan yn grŵp traws-sector ar y cyd. Mae'n cynnwys rheolwyr fflyd yn bennaf, ac mae'n cwrdd yn chwarterol i rannu profiadau, arfer gorau a chymorth caffael.
Cynhelir y cyfarfod hwn ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru, Llanfair-ym-Muallt.
Os hoffech ddod i'r cyfarfod, cysylltwch â thîm Fflyd y GCC: NPSFleet@llyw.cymru.
Llogi cerbydau ar gontract
Daeth y broses cyflwyno tendr ar gyfer y fframwaith hwn i ben ar 11 Chwefror 2019. Rydym wrthi'n gwerthuso'r cyflwyniadau ac yn rhagweld y bydd y fframwaith yn fyw o 1 Ebrill 2019 ymlaen.
Llogi cerbydau II
Rydym yn helpu nifer o gwsmeriaid i ymgymryd â mini-gystadlaethau. Os gallwn eich helpu chi i gynnal mini-gystadleuaeth, cysylltwch â ni.
Gwirio trwyddedau gyrwyr
Mae'r fframwaith hwn yn fyw. Mae pum sefydliad eisoes wedi ymgysylltu â'r unig gyflenwr (Admin Business Solutions), ac yn ystyried defnyddio'r gwasanaeth gwirio trwyddedau gyrwyr.
Mae dogfennau canllaw ar gael ar GwerthwchiGymru.
Darnau sbâr cerbydau
Fel rhan o'n gwaith rheoli contractau parhaus, rydym yn gweithio gyda phob cyflenwr ar y fframwaith i gytuno ar restr darnau gyffredin i Gymru.
Byddwn yn cwrdd â'r cyflenwyr yn y Drenewydd ar 7 Mawrth i gytuno ar y camau nesaf. Roeddem yn disgwyl cwrdd â nhw ar 30 Ionawr ond bu'n rhaid gohirio'r cyfarfod oherwydd yr eira.
Os hoffech fod yn rhan o'r trafodaethau hyn, cysylltwch â ni.
Tanwyddau hylif
Daeth y broses cyflwyno tendr i ben ar 21 Chwefror 2019 ac mae'r cyflwyniadau'n cael eu gwerthuso ar hyn o bryd. Rhagwelwn y bydd y fframwaith yn fyw o 1 Ebrill 2019 ymlaen.
Telemateg
Rydym yn helpu nifer o gwsmeriaid i ymgymryd â mini-gystadlaethau. Os gallwn eich helpu chi, mae croeso i chi gysylltu â ni.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag NPSFleet@llyw.cymru