Diweddariadau fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.
Fframwaith gwasanaethau rheoli llyfrgelloedd
Disgwylir i'r Fframwaith hwn ddod i ben ym mis Medi 2019. Rydym yn paratoi arfarniad o opsiynau i benderfynu ar yr hyn a fydd yn digwydd pan ddaw'r fframwaith i ben
Byddwn yn rhoi gwybod i gwsmeriaid am y canlyniad unwaith y byddwn wedi gwneud penderfyniad.
Adolygiad o fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG
Rydym yn ymgymryd ag ymarfer cwmpasu ar y fframwaith newydd.
Rydym wedi datblygu holiadur dienw byr i gael adborth er mwyn ein helpu i lywio'r fframwaith newydd.
Cliciwch yma i gymryd yr arolwg.
Mae'r Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw wedi cael ei gyhoeddi, os oes gennych unrhyw gyflenwyr yr hoffech iddynt fod yn rhan o'r broses dylech eu cyfeirio at GwerthwchiGymru (angen mewngofnodi). Os oes gennych ddiddordeb yn y strategaeth lefel uchel neu os hoffech gyfrannu at y broses, cysylltwch â Paul Robertson drwy NPSICTCategoryTeam@llyw.cymru.
eGaffael
Yn dilyn gweithdai eGaffael gyda Gartner, rydym yn parhau i baratoi'r achos busnes amlinellol strategol.
Rydym wedi dechrau nodi tîm y prosiect a'r strwythur llywodraethu a fydd yn ein helpu i ddarparu adnoddau eGaffael yn y dyfodol.
Cyn bo hir, byddwn yn gofyn am fewnbwn gan gynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus yng Nghymru i'n helpu i ddiffinio'r her eGaffael ar gyfer proses arloesol menter ymchwil busnesau bach (SBRI) rydym yn bwriadu ei chynnal yn ddiweddarach eleni.