Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyllid ychwanegol i gynorthwyo Mudiad Meithrin i gyfrannu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg

Dyfarnwyd miliwn o bunnoedd y flwyddyn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf i Fudiad Meithrin, i gynorthwyo’r sefydliad i feithrin gallu ychwanegol a chyfrannu tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dydd Gwener 29 Rhagfyr 2017

Bydd y sefydliad yn cael £3.031 miliwn y flwyddyn am y ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cynnwys £2.031 miliwn o gyllid blynyddol a £1 miliwn y flwyddyn  yn ychwanegol yn rhan o’r fargen rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r gyllideb.

Daw’r cyllid ar ôl i’r sefydliad gyhoeddi’r papur ‘Meithrin Miliwn’ yn nhymor yr haf 2017, yn amlinellu’r camau y mae angen eu cymryd i alluogi Mudiad Meithrin i ymateb yn gadarnhaol i’r uchelgais o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Bydd y cyllid ychwanegol yn caniatáu i Fudiad Meithrin:

  • gynnig cymorth ychwanegol i sefydlu lleoliadau newydd mewn mannau â blaenoriaeth ledled Cymru lle nad oes digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
  • datblygu modelau gwahanol ar gyfer cylchoedd meithrin newydd.
  • cryfhau strwythurau rhanbarthol a chenedlaethol Mudiad Meithrin i gefnogi’r cynnydd yn nifer yr aelodau.

Meddai Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, wrth gyhoeddi’r cyllid:

“Mae miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn. Mae addysg, ac addysg y blynyddoedd cynnar yn arbennig, yn allweddol yn hyn o beth a dyna pam yr ydym wedi gosod targedau i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy sefydlu 40 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol erbyn 2021 a 150 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol dros y degawd sydd i ddod.

“Gan mai Mudiad Meithrin yw’r arbenigwr ym maes gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg, mae gan y sefydliad gyfraniad hollbwysig i’w wneud. Rwyf wrth fy modd felly yn cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn i’w gynorthwyo i gyfrannu at y targed.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:

“Bydd buddsoddiad ariannol ychwanegol Llywodraeth Cymru yn galluogi Mudiad Meithrin i sicrhau agor Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi o’r newydd er mwyn cyfrannu at dargedau uchelgeisiol strategaeth iaith ‘Cymraeg 2050’. Mae’r berthynas rhwng cynnydd yr iaith a gofal plant yn allweddol i lwyddiant y cynllun hwn.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Y Gymraeg 29 Rhagfyr 2017 Y Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ebrill 2018
Ll M M I G S S
<< Maw    
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
I'n dilyn ni trowch i