Wrth siarad yn un o'i digwyddiadau cyntaf fel y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol newydd, bydd Eluned Morgan yn dweud:
"Ar yr adeg dyngedfennol hon pan fo'r berthynas rhwng Cymru a gweddill y byd yn cael ei phennu, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i anfon neges glir - beth bynnag fydd canlyniad y trafodaethau ar Brexit, dydy Cymru ddim yn mynd i droi ei chefn ar y byd, yn arbennig ei chymdogion agosaf yn yr Undeb Ewropeaidd."
Bydd y Gweinidog yn pwysleisio:
"Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn troi at y cyhoedd, yn arbennig y rhai sydd â swyddogaethau rhyngwladol, ac yn gofyn iddyn nhw helpu i lunio'r ddelwedd a'r neges y dylai Cymru ei chyflwyno i'r byd. Mae'r Llywodraeth yn awyddus i adeiladu ar y cysylltiadau rhyngwladol cryf sydd wedi'u datblygu dros y degawdau diwethaf, a fydd yn helpu i gyfoethogi'r wlad yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol."
Bydd Eluned Morgan egluro yn y derbyniad rhyngwladol mai Cymru yw'r man mwyaf sefydlog yn wleidyddol i fuddsoddi yn y Deyrnas Unedig, gyda Senedd San Steffan mewn anrhefn llwyr, yr Alban yn bygwth mynd yn annibynnol a Gogledd Iwerddon yn parhau i fod heb Senedd weithredol.
Bydd y Strategaeth Ryngwladol yn cael ei seilio ar gyfres glir o werthoedd a fydd yn helpu i gyflwyno delwedd Cymru yn rhyngwladol - gan gynnwys ymrwymiad at gynaliadwyedd a chenedlaethau'r dyfodol, hyrwyddo egwyddorion Gwaith Teg a chred sylfaenol yn y ffaith y byddwn yn llwyddo i gyflawni mwy i fynd i'r afael â rhai o heriau sylweddol ein hoes - technoleg ddigidol, trechu tlodi ac anghydraddoldeb, mynd i'r afael â heriau amgylcheddol a'r newid yn yr hinsawdd - drwy gydweithio ar draws ffiniau tiriogaethol.