Ymhlith y prosiectau llwyddiannus y mae:
- cartrefi sydd hefyd yn bwerdai, sy’n arbed arian i drigolion ac yn debygol o greu incwm wrth gynhyrchu ynni
- datblygiad yn y Canolbarth lle mae pren a dyfwyd yn lleol yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu cartrefi o ansawdd sy’n rhad-ar-ynni
- cartrefi wedi eu gwneud o ailgylchu cynwysyddion llongau fel ateb ‘dros dro’ i’r rheini sydd ei angen fwyaf
- prosiect gofal ychwanegol newydd sy’n ymwneud â chynnig 40 gwely i bobl hŷn yn y Cymoedd, sydd wedi eu hadeiladu gan ddefnyddio technegau modiwlar sy’n cynnig cyfleoedd enfawr i gynyddu cyflymder adeiladu’r tai a’u hansawdd.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at y targed o 20,000 o dai fforddiadwy y mae Llywodraeth Cymru yn anelu at eu darparu dros dymor y llywodraeth hon.
Gwnaed y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet wrth iddo ymweld â Wernick Buildings Ltd. Bydd y cwmni yn cydweithio â Chymdeithas Dai Cymoedd i'r Arfordir i greu datblygiad o gartrefi modiwlar yn Sarn ac Tondu. Bydd y cartrefi’n cael eu hadeiladu yn ffatri Wernick ar Ystad Ddiwydiannol Cynffig ac yn cael eu rhoi ar lorïau i’w cludo i’r safle. Mae hyn yn golygu y gallai’r strwythurau o ansawdd uchel gael eu cynhyrchu a’u cyflenwi yn gyflym iawn.
Dywedodd Mr Sargeant:
"Mae nifer o heriau yn wynebu’r sector tai yng Nghymru. Y rhai amlycaf yw cynyddu’r nifer sydd ar gael, y cyflymder y gellir eu hadeiladu, a’u bod yn dai fforddiadwy. Rhaid gwneud hyn i gyd wrth leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
"Bydd y prosiectau hyn a ariennir gan y Rhaglen Tai Arloesol yn rhoi cymorth i ni ddysgu beth sy’n gweithio orau a pham, o ran beth sy’n cael ei adeiladu a sut y maen nhw’n cael eu hadeiladu.
"Mae adeiladu cartrefi yn sicrhau manteision pwysig sydd yn mynd yn gam ymhellach na dim ond rhoi to uwch pennau pobl. Mae tystiolaeth helaeth bod tai o ansawdd da yn sicrhau manteision iechyd ac addysg i blant ac i deuluoedd. Mae adeiladu cartrefi ar gyfer pob deiliadaeth yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein heconomi a'n cymunedau. Bydd y prosiectau hyn hefyd yn dangos sut y gallwn ni ddefnyddio cadwyn gyflenwi Cymru i agor drysau mewn perthynas â thwf ac arloesi yn y maes tai."