Cafodd cynlluniau gwreiddiol y Dirprwy Weinidog ar gyfer system talu uniongyrchol newydd y PAC, sy’n seiliedig ar gategorïau tir, eu herio yn y llysoedd. Dywedwyd y byddai’r trefniadau yn golygu triniaeth anghyfartal i ffermwyr sydd â mathau tebyg o barseli tir ar draws rhanbarthau talu gwahanol. O ganlyniad, cafodd y rheoliadau cysylltiedig eu diddymu.
Lansiwyd ymgynghoriad 12 wythnos o hyd ar opsiynau eraill y BPS ym mis Mawrth a daeth i ben ar 23 Mehefin. Daeth dros 230 o ymatebion i law oddi wrth amrywiaeth o randdeiliaid a heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog ei phenderfyniad ynghylch pa opsiynau sy’n mynd â’i bryd.
Meddai:
“Wrth benderfynu, rwyf wedi ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng ymateb y rhanddeiliaid ac amcanion ein polisi ni, fel y’u disgrifiwyd yn yr ymgynghoriad. O fewn yr amcanion hynny, y cafwyd cefnogaeth gyffredinol iddynt gan y rheini a ymatebodd, fy mhrif flaenoriaeth yw sicrhau bod Cymru’n bodloni Rheoliadau’r UE a bod taliadau’n cael eu gwneud cyn gynted â phosib yng nghyfnod talu 2015. Y rheini yw fy mhrif amcanion o hyd.
“Opsiwn C – cyfradd safonol erbyn 2019 – yw fy hoff opsiwn am y rhesymau canlynol:
- Mae’n trin pob ffermwr yr un fath wrth anelu mewn pum cam blynyddol at sicrhau’r un gwerth i bob taliad fesul hectar erbyn 2019,
- mae’n cwrdd â’r rhan fwyaf o amcanion ein polisi gan gynnwys cynnig cyfleoedd i newydd-ddyfodiaid;
- ac mae’n rhoi sylfaen glir i ffermwyr allu paratoi’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
“Rwyf hefyd wedi dewis yr opsiwn taliadau ailddosbarthu gydag Opsiwn C. Bydd hyn yn hwyluso’r newid i lawer.
“Gydol yr adolygiad o’r PAC, rydym wedi gweithio ochr yn ochr â ffermwyr a’u cynrychiolwyr i chwilio am y trywydd gorau posibl ar gyfer ffermio yng Nghymru. Mae eu hymateb gwerthfawr trwy’r ymgynghoriad wedi’m helpu i benderfynu, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am hynny.”
Felly, er mwyn cadw’r ddysgl yn wastad rhwng gwireddu ein hamcanion a’n gofynion gweithredol ar y naill law, a mynd i’r afael ag ymateb rhanddeiliaid ar y llall, rhaid mynd am y gyfradd safonol erbyn 2019 a’r taliad ailddosbarthu ar 54 hectar cyntaf pob hawliad.
Bydd Llywidraeth Cymru nawr yn gofyn i’r Comisiwn Ewropeaidd am ei gymeradwyaeth a symud yn gyflym i roi’r model newydd hwn ar waith er mwyn inni allu talu’r rhandaliadau mor fuan â phosibl o fewn cyfnod talu’r UE.