Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ysgolion uwchradd yn cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf

Wrth i Gymru nodi 100 mlynedd ers Diwrnod y Cadoediad, mae’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi lansio adnoddau dwyieithog newydd i ysgolion yn seiliedig ar ffilm hirddisgwyliedig Peter Jackson am y Rhyfel Byd Cyntaf, ‘They Shall Not Grow Old’.
Dydd Gwener 09 Tachwedd 2018

Gan ddefnyddio technegau cynhyrchu modern, mae’r prosiect celfyddydol 14-18 NOW wedi bod yn cydweithio â’r Imperial War Museums (IWM), y BBC a Peter Jackson i adfer a lliwio ffilmiau nas gwelwyd o’r blaen o archif helaeth yr IWM.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r prosiect trwy ei rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers1914-1918 ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf gyda grant o £25,000. Mae hyn wedi helpu i sicrhau y byddai deunyddiau ategol ar gyfer y ffilm ar gael yn Gymraeg.

Bu Ysgol Gymunedol Aberdâr yn profi’r adnoddau dysgu yn eu gwersi Hanes, gan alluogi 14-18 NOW i’w haddasu a’u cwblhau cyn eu dosbarthu i bob ysgol yng Nghymru.

Heddiw, ymunodd Kirsty Williams â disgyblion yn Ysgol Gymunedol Aberdâr i ddysgu mwy am eu cyfraniad at y prosiect ac i weld y ffilm newydd.

Wrth siarad yn y lansiad heddiw, meddai:

“Mae’r ffordd mae pobl wedi ymgysylltu â digwyddiadau cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn enwedig yr amryw o brosiectau sy’n cael eu cyflawni gan bobl ifanc ledled Cymru, wedi bod yn galonogol iawn.

“Rwy’n hynod falch ein bod ni wedi gallu cefnogi prosiect 14-18 NOW i ddatblygu adnoddau sy’n cyd-fynd â’r ffilm ddogfen hon ac ennyn diddordeb ysgolion. Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i gydnabod yr aberth a wnaed gan y dynion ifanc hynny ganrif yn ôl.”

Bydd They Shall Not Grow Old yn cael ei dangos mewn sinemâu ac ysgolion ledled y DU, cyn cael ei darlledu ar BBC2 ddydd Sul 11 Tachwedd am 9.30pm.

Rydym wedi cefnogi’r prosiect er mwyn datblygu adnoddau i ysgolion i gyd-fynd â’r ffilm:

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 09 Tachwedd 2018 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Tachwedd 2018
Ll M M I G S S
<< Hyd    
      1 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30    
I'n dilyn ni trowch i