Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Kirsty Williams yn ymateb i adroddiad i gyfraniad dinesig Prifysgolion

Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi diolch i Ganolfan Polisi Cymru (WCPP) am ei hargymhellion ar sut y dylai prifysgolion gynorthwyo a gweithio gyda’u cymunedau lleol.
Dydd Mawrth 13 Tachwedd 2018

Daw’r argymhellion mewn adroddiad gan WCPP sy’n rhan o'i hadolygiad o sut y mae Prifysgolion Cymru yn cyflawni’u cenhadaeth ddinesig trwy gyfrannu at eu cymunedau lleol.

Wrth siarad yn y lansiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg:

"Mae'r adroddiad yn cynnig her adeiladol i mi a'r Llywodraeth, ond hefyd i'r sector ac arweinyddiaeth prifysgolion yng Nghymru.

"Mae ein sector prifysgolion yn gryf, gyda lefelau uchel o foddhad myfyrwyr ac effaith ymchwil ragorol, lle mae Cymru'n perfformio'n well na'r holl wledydd eraill yn y DU.

"Mae gweithio gyda'n gilydd ar wneud y gorau o gyfraniad dinesig yn ymdrech genedlaethol Gymreig, lle gallwn ni fod yn arweinyddion rhyngwladol.

"Rwy'n gobeithio bydd y papur polisi a gyhoeddir heddiw yn helpu i roi mwy o fomentwm ar gyfer dadlau a datblygu polisi yng Nghymru ar gyfraniad dinesig, a bod Prifysgolion, yn unigol ac ar y cyd, yn awr am gyflwyno eu syniadau eu hunain."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 13 Tachwedd 2018 Prifysgolion a cholegau Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Chwefror 2019
Ll M M I G S S
<< Ion    
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28      
I'n dilyn ni trowch i