Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gallai bwlch cyllido Brexit gael effaith ar golegau yng Nghymru

Heddiw, dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wrth gynulleidfa o arweinwyr ym maes addysg bellach, ei bod yn bwysig nad yw Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru'n colli ceiniog o gyllid oherwydd Brexit.
Dydd Mercher 06 Mehefin 2018

Roedd y Gweinidog yn siarad yn dilyn ymweliad â champws Casnewydd Coleg Gwent ddydd Llun. Bu yno’n cyfarfod â'r rhai hynny sydd wedi elwa ar gyrsiau a phrosiectau a gafodd eu hariannu gan gyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE).  

O ystyried y 10 mlynedd ddiwethaf yn unig mae sefydliadau addysg bellach yng Nghymru wedi adrodd1 eu bod wedi cyflawni prosiectau gwerth cyfanswm o bron £600m a ariannwyd gan gyllid yr UE ac arian cyfatebol gan ffynonellau cyhoeddus a phreifat.

Roedd y rhain yn cynnwys rhaglenni a phrosiectau a oedd yn derbyn cymorth ariannol gan yr UE sy'n

  • galluogi sefydliadau addysg bellach i gyflwyno hyfforddiant â chymhorthdal i gyflogwyr i gefnogi swyddi a thwf;
  • cefnogi dysgwyr mewn colegau ac ysgolion sydd mewn perygl o fynd yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET);
  • cefnogi hyfforddiant mewn sgiliau gwledig;
  • rhoi'r cyfle i ddysgwyr gael profiad gwaith neu ddysgu dramor.

Dros y degawd diwethaf, mae prosiectau sy'n cael cymorth ariannol gan gyllid yr UE yng Nghymru wedi helpu 81,400 o bobl i gael swydd, ac wedi cefnogi 282,600 o bobl yng Nghymru i ennill cymwysterau. Mae'r prosiectau hynny yn cynnwys cynllun £19m Uwchsgilio@Waith a gafodd cyllid o £10.8m gan yr UE ac sy'n cael ei arwain gan Goleg Gwent a Choleg y Cymoedd. Mae'r prosiect yn darparu rhaglenni hyfforddiant seiliedig ar waith i ddatblygu sgiliau a gyrfaoedd dros 8,000 o weithwyr mewn cwmnïau ar draws De-ddwyrain Cymru.

Yn ychwanegol, mae sefydliadau addysg bellach yn helpu i ddarparu llawer o'r hyfforddiant ar gyfer rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru. Gyda chymorth ariannol o £206m gan yr UE, mae prentisiaethau'n helpu pobl i ddysgu tra byddant yn ennill cyflog a'r sgiliau a'r cymwyseddau sydd eu hangen arnynt yn y gweithle.

Hoffai Llywodraeth Cymru gael sicrwydd gan Whitehall y bydd yn gwneud iawn am yr arian Ewropeaidd sy'n dod i ni ar ôl i'r DU adael yr UE, ac i benderfyniadau ar sut y caiff yr arian hwnnw ei fuddsoddi barhau i gael eu gwneud yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi galw ar y DU i gymryd rhan mewn amrywiaeth o raglenni cydweithredu â phartneriaid yn Ewrop yn dilyn Brexit, gan gynnwys ERASMUS+, rhaglen UE ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon – er mwyn cefnogi dysgu o arferion gorau yn Ewrop a thu hwnt.

Dywedodd Eluned Morgan:

“Mae sefydliadau addysg bellach yn ganolog i gymunedau yng Nghymru - maen nhw'n darparu'r hyfforddiant a'r sgiliau sy'n hanfodol i dwf yr economi.  Dros y degawd diwethaf, mae colegau yng Nghymru wedi elwa ar gannoedd o filoedd o bunnoedd o fuddsoddiad gan yr UE sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

“Er i'r DU bleidleisio dros adael yr UE, doedd neb yng Nghymru wedi pleidleisio dros ganiatáu i'n colegau golli cyllid sy'n cefnogi pobl, busnesau a'r economi. Rhaid i Lywodraeth y DU warantu y bydd yn gwneud iawn am y cyllid hanfodol yr ydyn ni’n ei gael gan yr UE fel bod cyllid ar gael i barhau i gefnogi pobl drwy ein colegau – ac mae nifer ohonyn nhw mewn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig.

“Mae ein sector addysg bellach yn wynebu ergyd ddwbl yn sgil Brexit – colli cyllid yr UE a gorfod derbyn yr her o lenwi bylchau posibl mewn sgiliau ac o fynd i'r afael â newidiadau yn yr economi wrth inni adael yr UE. Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector bob cam, ond rhaid i Lywodraeth y DU gyflawni'r addewid a wnaed i ni na fyddai Cymru'n colli ceiniog o gyllid oherwydd Brexit."

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr Colegau Cymru:

“Ni fu erioed adeg bwysicach i wneud yn siŵr fod Colegau Addysg Bellach yn parhau i dderbyn y lefel o gyllid sy'n caniatáu iddyn nhw fuddsoddi mewn dysgwyr, cymunedau a chyfleusterau i wynebu'r heriau sydd o'n blaenau.

“Wrth i'r DU baratoi i adael yr UE, rhaid i'r cyfleoedd hynny a allai newid bywydau dysgwyr barhau – cyfleoedd sy'n eu galluogi i brofi lleoliadau gwaith mewn gwledydd Ewropeaidd drwy Erasmus+.

“Yn niffyg unrhyw amlinelliad clir ynghylch 'Cronfa Ffyniant Gyffredin' arfaethedig Llywodraeth y DU, rhaid bod y cyllid y byddai Cymru wedi'i dderbyn gan yr UE gael ei roi a'i warantu'n llawn gan Drysorlys y DU. Yn ogystal, rhaid cael sicrwydd gan Lywodraeth y DU fod yr holl fecanweithiau sy'n gysylltiedig â'r cyllid hwn yn aros yng Nghymru er mwyn sicrhau cysondeb. Bydd hynny'n rhoi'r sicrwydd anghenrheidiol i fusnesau, sefydliadau, ac yn bwysicaf oll i ddysgwyr a phrentisiaid."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Addysg a sgiliau 06 Mehefin 2018 Yr economi Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Rhagfyr 2018
Ll M M I G S S
<< Tac    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
31            
I'n dilyn ni trowch i