Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg yn cyhoeddi newidiadau mawr i gyrff llywodraethu ysgolion yn ddiweddarach heddiw (Dydd Mawrth 28 Mehefin).

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Llywodraeth Cymru'n ymgynghori ynghylch amrywiaeth o gynigion newydd i roi hyblygrwydd i gyrff llywodraethu benodi llywodraethwyr sy'n meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i fod yn effeithiol, a hefyd i benderfynu ar eu cyfansoddiad er mwyn bodloni eu hanghenion penodol eu hunain. Mae'r rheolau presennol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion wedi bod mewn grym ers 1996.

Mae'r diwygiadau a gynigir yn cynnwys y canlynol:

  • Rhagor o hyblygrwydd o ran penderfynu ar eu strwythur a'u haelodaeth eu hunain, gan ganolbwyntio ar lywodraethwyr sydd â sgiliau.
  • Lleiafswm o saith o lywodraethwyr ym mhob ysgol heblaw ysgolion gwirfoddol ac ysgolion sefydledig. Bydd yn rhaid i gyrff llywodraethu gynnwys llywodraethwyr sy'n cynrychioli'r rhieni, y staff, yr awdurdod lleol a’r gymuned, yn ogystal â phennaeth yr ysgol.
  • Cyflwyno categori newydd o 'lywodraethwyr cyfetholedig' a fydd yn cael eu penodi'n benodol oherwydd eu sgiliau. Ni fydd uchafswm ar nifer yr aelodau ar unrhyw fath o gorff llywodraethu. 
  • Asesu’r aelodau i nodi unrhyw fylchau o ran y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol. 
  • Ymestyn categori'r rhiant lywodraethwyr fel bod rhiant lywodraethwyr yn cael eu penodi ar gyrff llywodraethu yn ogystal â’r rheini a etholwyd.
  • Rhoi'r hawl i ysgolion gael cynifer o riant lywodraethwyr ag y mynnant, cyn belled nad oes mwy o riant lywodraethwyr a etholwyd na rhiant lywodraethwyr a benodwyd.
  • Caniatáu i rieni cyn-ddisgyblion gael eu penodi'n rhiant lywodraethwyr a dileu'r system bresennol sy'n gosod cyfyngiadau ar nifer y rhiant lywodraethwyr a geir ar gyrff llywodraethu.
  • Rhoi'r gallu i gyrff llywodraethu gynyddu neu leihau nifer eu haelodau'n rhwyddach, gan gynnwys penodi 'aelodau cyswllt' neu rai nad ydynt yn llywodraethwyr i bwyllgorau, pryd bynnag y bo angen arbenigedd neu brofiad penodol.
  • Bydd y gofyniad i gynnwys unigolyn annibynnol yn cael ei estyn i bob pwyllgor disgyblu neu ddiswyddo staff, yn ogystal â phwyllgorau penodi penaethiaid a dirprwy benaethiaid. Ar hyn o bryd, dim ond pan fo pwyllgor disgyblu neu ddiswyddo staff yn ymdrin â mater yn ymwneud a niwed i blentyn y mae'r gofyniad hwn yn gymwys.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Mae'r byd wedi newid yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, ond nid felly ein system ar gyfer llywodraethu ysgolion. Rydw i eisiau newid hyn fel bod gan lywodraethwyr ysgolion y sgiliau a'r gallu i chwarae rhan bwysig yn y broses o wella'r addysg rydyn ni'n ei darparu i'n disgyblion.

"Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, gan roi'r hyblygrwydd iddyn nhw benderfynu ar eu cyfansoddiad ac i gael defnyddio cefnogaeth arbenigol pan fo'i hangen. Er enghraifft, efallai y byddai corff llywodraethu'n dymuno penodi archwilydd neu gyfrifydd yn aelod cyswllt o'i bwyllgor cyllid am gyfnod penodol.

"Yn bwysicaf oll, rydw i eisiau parhau i roi lle canolog i lais y rhiant yn ein hysgolion, fel aelodau allweddol o'r cyrff llywodraethu.

"Mae cyrff llywodraethu ysgolion yn rhan hanfodol o lwyddiant ein hysgolion. Y nhw sy'n gosod y trywydd ar gyfer yr ysgol, ac yn dwyn y pennaeth i gyfrif am berfformiad addysgol ac ariannol yr ysgol. Rydw i eisiau sicrhau eu bod nhw mewn sefyllfa i gyflawni eu swyddogaeth yn y modd gorau un."