Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion o TB mewn gwartheg yn yr Ardal TB Isel, rydym yn gwneud newidiadau i'r ffordd mae achosion o TB yn cael eu rheoli.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae angen y newidiadau hyn er mwyn atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach.

Yn hanesyddol, mae'r Ardal TB Isel wedi llwyddo i gadw lefelau’r clefyd yn isel iawn.

Fodd bynnag, mae epidemiolegwyr TB wedi nodi mannau problemus sy'n dod i'r amlwg yn yr ardal, ac mae angen mynd i'r afael â nhw’n gyflym er mwyn cael gwared ar y clefyd.

Mae nifer yr achosion newydd o TB yn Ardal Sir Ddinbych a Dyffryn Conwy wedi mwy na dyblu yn 2020 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae'n cyfrif am 50% o'r cynnydd cyffredinol yn nifer yr achosion newydd yn yr Ardal TB Isel. Yn ôl pob golwg mae’r lefelau uwch o’r clefyd yn yr ardaloedd hyn o ganlyniad i symud gwartheg i'r ardal o ddaliadau mewn ardaloedd risg uwch, ac wedyn symud gwartheg yn lleol, yn enwedig rhwng daliadau sy’n cael eu rheoli o dan yr un busnes.

Mewn ymateb i'r lefelau uwch o heintiadau, cytunwyd ar fesurau newydd. Anfonwyd llythyr at bob ffermwr yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt yn rhoi gwybod iddynt am y newidiadau.

Y mannau problemus y bydd y mesurau hyn yn berthnasol iddynt yw ardaloedd Sir Ddinbych a Dyffryn Conwy (unedau gofodol CL1/CL2/GW1), ac ardal Pennal. Mae'r mesurau hyn wedi cael eu datblygu fel y gallent gael eu cymhwyso mewn unrhyw fan lle mae TB yn mynd yn broblem yn y dyfodol.

Mae'r mesurau hyn wedi cael eu cyflwyno fesul cam o fis Mehefin. Gyda'r mesurau nesaf yn cael eu gweithredu o 1 Tachwedd. Byddant yn rhedeg ochr yn ochr â'r mesurau newydd y cytunwyd arnynt eisoes yng Ardal TB Ganolradd y Gogledd (ITBAN). Bydd hyn yn galluogi'r clefyd i gael ei ddileu'n cyn iddo ddod yn endemig yn yr ardal.

Mae rhagor o wybodaeth yn y Cwestiynau Cyffredin.