Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canllawiau hyn yn anstatudol ac yn egluro'r newidiadau dros dro i Reoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 sydd wedi’u hestyn hyd at 30 Medi 2022, yn ogystal â rhoi arweiniad ar reoli apelau yn ystod argyfwng y coronafeirws (COVID-19).

Gwneir Cod Apelau Derbyn i Ysgolion 2013 o dan adran 84 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006) sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau derbyn.

Rhydd arweiniad i'r holl gyrff hynny y mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â'r Cod Apelau Derbyn i Ysgolion (y Cod), gan gynnwys: 

  • awdurdodau derbyn: awdurdodau lleol yw’r awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir, oni bai bod y swyddogaeth, o dan adran 88 (1) (a) (ii) o Ddeddf 1998, wedi’i dirprwyo i’r corff llywodraethu. Cyrff llywodraethu yw’r awdurdodau derbyn ar gyfer ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
  • cyrff llywodraethu (gan gynnwys y rheini nad ydynt yn awdurdodau derbyn)
  • awdurdodau lleol ((pan nad ydynt yn gweithredu fel awdurdodau derbyn)
  • fforymau derbyn
  • clercod ac aelodau paneli apelau derbyn

Cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddwn yn symud i Lefel Rhybudd Sero yng Nghymru o 7 Awst 2021 ymlaen. Fodd bynnag, nid yw’r Coronafeirws wedi diflannu ac rydym yn cydnabod nad yw hi efallai'n bosibl nac yn briodol i'r cyrff hyn fodloni gofynion y Cod na Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 yn ystod argyfwng presennol y coronafeirws (COVID-19).

Fe wnaethom lunio rheoliadau brys a ddiwygiodd Reoliadau 2005 dros dro er mwyn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol i awdurdodau derbyn, awdurdodau lleol a phaneli apêl wrth ddelio ag apelau yn ystod yr argyfwng, a sicrhau bod amserlenni apelio yn gweithio yn sgil cau ysgolion.

Daeth Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020 i rym ar 4 Mai 2020 a daethant i ben ar 30 Ionawr 20021. Fe wnaethant ddiwygio Rheoliadau 2005 dros dro.

Fe wnaeth Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2020, a ddaeth i rym ar 30 Ionawr 2021, estyn y newidiadau dros dro hyn hyd at 30 Medi 2021.

Rydym yn cydnabod, yn sgil y pandemig parhaus, efallai na fydd yn bosibl nac yn briodol cydymffurfio â phob un o ofynion Cod Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 pan ddaw’r Rheoliadau Diwygio i ben ar 30 Medi 2021.

O’r herwydd, rydym wedi gwneud rheoliadau newydd, sef Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) (Coronafeirws) (Diwygio) 2021 sy’n estyn ymhellach y newidiadau dros dro i Reoliadau 2005 hyd at 30 Medi 2022. Bydd hyn yn rhoi rhagor o hyblygrwydd parhaus i awdurdodau derbyn, awdurdodau lleol a phanelau apelio wrth ddelio ag apelau yn ystod argyfwng presennol y coronafeirws.

Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at y diwygiadau fel "y rheoliadau dros dro". Nid yw'r Cod Apelau wedi cael ei ddiwygio ac mae'r rhan helaeth o'i ofynion yn dal i fod yn briodol, ac mae'n rhaid parhau i gydymffurfio â nhw.

Lle mae'r rheoliadau dros dro yn cyflwyno neu'n mandadu newid dros dro i reolau apelau derbyn sy'n mynd yn groes i agwedd ar y Cod Apelau, y rheoliadau dros dro fydd yn cael blaenoriaeth. Er enghraifft, mae'r rheoliadau dros dro yn gosod rheolau newydd mewn perthynas ag amserlenni apelau derbyn.

Mae'r canllawiau hyn yn nodi lle y dylai'r rheoliadau dros dro gael eu dilyn, yn hytrach na'r hyn sy'n ofynnol yn y Cod Apelau.

Lle bydd rhwymedigaeth yn y Cod Apelau yn gymwys yn llawn, ac nad yw'r rheoliadau dros dro wedi ei newid, ni chaiff ei thrafod yn benodol yn y canllawiau hyn.

Newidiadau allweddol

Y prif egwyddorion sy'n llywodraethu pob apêl yw tegwch gweithdrefnol a chyfiawnder naturiol.

Dylai awdurdodau derbyn, clercod a phaneli gydymffurfio â chanllawiau'r llywodraeth sy'n gymwys ar adeg trefnu a gwrando'r apêl.

Lle na ellir cynnal gwrandawiadau wyneb yn wyneb oherwydd effaith y Coronafeirws, dylai gwrandawiadau gael eu cynnal dros y ffôn neu drwy fideogynadledda. Lle na ellir cynnal gwrandawiadau dros y ffôn na thrwy fideogynadledda, bydd apelau a gynhelir ar sail ysgrifenedig yn gyfan gwbl yn dderbyniol.

Mae'r rheoliadau dros dro yn estyn y rheolau dros dro mewn perthynas ag amserlenni apelau. Dylai apelau gael eu penderfynu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac yn unol â'r terfynau amser a bennir gan y rheoliadau dros dro. Dylai awdurdodau derbyn benderfynu apelau a wneir fel rhan o'r prif gylch derbyn cyn dechrau tymor mis Medi, lle bynnag y bo modd.

Lle bydd angen i aelod o banel dynnu'n ôl hanner ffordd drwy'r broses apelio, ac nad yw'n rhesymol ymarferol i'r panel gael ei ailgyfansoddi yn y ffordd arferol am reswm yn ymwneud â mynychder y coronafeirws (COVID-19) neu ei drosglwyddo, gall panel sy'n cynnwys o leiaf ddau aelod barhau i ystyried a phenderfynu'r apêl.

Awdurdodau derbyn sy'n parhau i fod yn gyfrifol am wneud trefniadau ar gyfer apelau yn erbyn gwrthod lle yn eu hysgol. Bydd angen iddynt adolygu unrhyw drefniadau maent wedi eu rhoi ar waith eisoes er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau dros dro.

Dylai awdurdodau derbyn sicrhau bod pawb sy'n rhan o'r apêl yn deall yn glir sut y bydd y broses apelio yn mynd rhagddi, gan gynnwys sut y caiff apelau eu cynnal a'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer pob rhan o'r broses.

Rhaid i baneli apêl fod yn dryloyw, yn hygyrch, yn annibynnol ac yn ddiduedd, a gweithredu yn unol ag egwyddorion cyfiawnder naturiol. Rhaid i'r clerc gadw cofnod cywir o'r trafodion.

Ceidw rhieni yr hawl i gwyno am achos o gamweinyddu gan y panel apêl.

Diwedd y rheoliadau dros dro

Daw'r rheoliadau dros dro i rym ar 29 Medi 2021 a byddant yn gymwys:

  • i unrhyw apelau a wneir rhwng y dyddiad hwnnw a 30 Medi 2022

Ni fydd y rheoliadau dros dro yn gymwys mwyach yn y rhan fwyaf o achosion ar 30 Medi 2022 a bydd yr hyn sy'n ofynnol o ran apelau yn unol â'r rheolau o dan y Cod Apelau a Rheoliadau 2005.

Er mwyn sicrhau nad yw diwedd y rheoliadau dros dro yn effeithio ar apelau sydd eisoes yn mynd rhagddynt ar 30 Medi 2022, bydd y rheoliadau dros dro yn parhau i fod yn gymwys i:

  • apelau sydd eisoes wedi'u cyflwyno cyn 30 Medi 2022 ond nas penderfynwyd eto

Mae hyn er mwyn sicrhau:

  • y gall unrhyw banel apêl sydd wedi'i gyfansoddi fel panel o ddau orffen yr apêl ar y sail hon
  • lle mae panel apêl wedi dechrau ystyried apêl ar sail gwybodaeth ysgrifenedig yn unig, y gall barhau i benderfynu'r apêl ar y sail honno
  • y bydd unrhyw derfynau amser a osodir neu a ragnodir o dan y rheoliadau dros dro yn parhau i fod yn gymwys

Argymhellir y dylai awdurdodau derbyn a'r rhai sydd ynghlwm wrth apelau baratoi i gynnal apelau yn y ffordd arferol ar ôl diwedd mis Medi 2022. Yn arbennig, dylai amserlenni 2023 gael eu paratoi yn y ffordd arferol.

Cyfansoddiad paneli apêl

Mae adran 2 o'r Cod Apelau yn parhau i fod yn gymwys yn llawn, oni bai bod y rheoliadau dros dro yn ymlacio rhai rheolau penodol mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws (COVID-19).

Aelodaeth

Mae paragraff 2.2 o'r Cod Apelau yn adlewyrchu gofyniad Atodlen 1 i’r Rheoliadau, sef bod rhaid i'r panel gynnwys cadeirydd ac o leiaf ddau aelod arall. Rhaid i'r panel gynnwys o leiaf un aelod o bob un o'r categorïau a restrir.

Mae paragraff 2.18 yn adlewyrchu gofyniad Atodlen 1 i’r Rheoliadau, sef, lle bydd aelod o'r panel yn tynnu'n ôl o banel o dri aelod, fod yn rhaid gohirio'r trafodion hyd nes y bydd yr aelod hwnnw wedi dychwelyd, neu rhaid penodi aelod arall ac ailwrando'r apêl.

Mae'r rheoliadau dros dro yn diwygio'r gofynion hyn.

Lle nad yw'n rhesymol ymarferol i awdurdod derbyn gydymffurfio â pharagraff 2.18 o'r Cod Apelau am reswm yn ymwneud â mynychder y coronafeirws (COVID-19) neu ei drosglwyddiad, caiff y panel barhau i ystyried a phenderfynu'r apêl lle bydd aelod yn tynnu'n ôl, hyd yn oed os mai dim ond dau aelod sydd ar ôl, ac ni waeth beth yw cefndir yr aelodau hynny.

Rhaid i'r panel bob amser gael ei gyfansoddi yn unol â pharagraff 2.2 o'r Cod Apelau o'r cychwyn. Yng nghofnod y trafodion dylai'r clerc nodi'r rheswm pam mae aelod o'r panel wedi tynnu'n ôl a bod y panel yn parhau â dau aelod.

Os bydd angen i fwy nag un aelod dynnu'n ôl, gan adael panel â llai na dau aelod, dylai aelodau newydd gael eu penodi fel bod y panel wedi'i gyfansoddi yn y ffordd arferol (hynny yw, fel panel ag o leiaf dri aelod sy'n cydymffurfio â pharagraff 2.2 o'r Cod Apelau). Rhaid ailwrando unrhyw apelau sydd wedi'u gwrando'n rhannol.

Hyfforddiant

Mae paragraff 2.8 o'r Cod Apelau yn nodi na ddylai aelodau panel na chlercod gymryd rhan mewn gwrandawiadau apêl cyn cael hyfforddiant priodol. 

Mae paragraff 3.3 o'r Cod Apelau yn nodi bod yn rhaid i glercod ddeall y gyfraith sy'n ymwneud â threfniadau derbyn yn dda a bod wedi cael hyfforddiant priodol sy'n cynnwys y gyfraith cydraddoldeb. 

Mae hyn yr un mor gymwys i wrandawiadau apêl a gynhelir o bell, neu a benderfynir ar sail ysgrifenedig yn unig.

Lle na fydd aelodau panel wedi cael hyfforddiant eto, efallai na fydd modd rhoi'r pecyn hyfforddiant llawn arferol iddynt, er enghraifft, os darperir hyfforddiant mewn sesiynau wyneb yn wyneb. Dylai awdurdodau derbyn ddod o hyd i ffyrdd amgen o sicrhau bod aelodau panel a chlercod yn cael hyfforddiant sy'n cyrraedd y safonau gofynnol a nodir ym mharagraffau 2.8 a 3.3 o'r Cod Apelau, sy'n dal i fod yn gymwys yn llawn.

Er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau paragraffau 2.8 a 3.3 o'r Cod Apelau, dylai awdurdodau derbyn hefyd sicrhau bod y panel a'r clerc yn deall yn llawn y rheoliadau dros dro, y canllawiau hyn, a sut y bydd y broses newydd yn gweithio, boed hynny dros y ffôn neu drwy fideogynadledda, neu ar sail ysgrifenedig yn unig.

Adran 4: gwrandawiadau apêl

Rhaid cydymffurfio ag adran 4 o'r Cod Apelau yn llawn, oni bai bod y rheoliadau dros dro yn gosod rheolau gweithdrefnol newydd o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws (COVID-19).

Terfynau amser ac amserlenni newydd

Mae'r rheoliadau dros dro yn nodi terfynau amser ac amserlenni diwygiedig ar gyfer apelau. Mae hyn yn golygu y gall y rhai sydd ynghlwm wrth apelau anwybyddu, dros dro, yr amserlenni a gyhoeddwyd a'r terfynau amser a bennwyd yn unol â pharagraffau 4.3, 4.4, 4.9, a 6.1 o'r Cod Apelau. Yn hytrach, dylent ddilyn y gofynion newydd o ran amserlenni yn y rheoliadau dros dro.

Diben y rheoliadau dros dro yw sicrhau y gall y broses apelio barhau tra bydd ysgolion ar gau drwy ddileu cyfeiriadau at 'ddiwrnodau ysgol'. Diwygiwyd rhai terfynau amser penodol yn ymwneud ag apelau gwrandawiadau a rhaid ystyried apelau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Lle bydd awdurdod lleol neu awdurdod derbyn yn hysbysu rhiant na roddir lle i'w blentyn mewn ysgol y mae wedi gwneud cais amdani, mae'r gofynion i roi'r wybodaeth a nodir ym mharagraff 4.2 o'r Cod Apelau yn dal yn gymwys.

Fodd bynnag, mae'r rheoliadau dros dro yn golygu bod yn rhaid i'r awdurdod lleol neu'r awdurdod derbyn gynnwys terfyn amser ar gyfer apelio sydd o leiaf 28 diwrnod o'r dyddiad hysbysu ac sy'n cyfeirio at ddyddiad neu ddiwrnodau calendr, yn hytrach na gwneud unrhyw gyfeiriad at ddiwrnodau ysgol.

Mae'r rheoliadau dros dro yn nodi bod yn rhaid i apelyddion gael o leiaf 14 diwrnod calendr o rybudd ysgrifenedig o wrandawiad apêl (er y gall apelyddion ildio eu hawl i hyn yn ysgrifenedig).

Bydd llawer o deuluoedd dan bwysau ar hyn o bryd, boed hynny oherwydd salwch neu am eu bod yn weithwyr hanfodol neu'n ceisio cydbwyso cyfrifoldebau gofal plant a gwaith. Efallai y bydd awdurdodau derbyn yn am ystyried hyn wrth osod unrhyw derfynau amser ar gyfer gwneud apêl tra bo'r rheoliadau dros dro ar waith.

Mae'r rheoliadau dros dro yn golygu y gall awdurdodau derbyn osod terfynau amser newydd neu ddiwygiedig rhesymol yn ymwneud â chyflwyno tystiolaeth ac i'r clerc anfon y papurau apêl perthnasol at y panel apêl a phawb arall dan sylw. Gall y terfynau amser hyn gael eu gosod fesul achos a gallant ystyried amgylchiadau pob apêl. Argymhellir y dylai pawb dan sylw gael gwybod am derfynau amser newydd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Mae'r rheoliadau dros dro yn golygu bod y terfynau amser ar gyfer gwrando apelau wedi cael eu diwygio. Bellach, dylai gwrandawiadau gael eu cynnal (lle y caiff gwrandawiad ei gynnal), a dylai achosion gael eu penderfynu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Mae'r rheoliadau dros dro yn golygu y dylai llythyrau penderfyniadau gael eu hanfon o fewn 7 diwrnod calendr i'r gwrandawiad neu, yn achos apêl a gynhelir ar sail ysgrifenedig yn unig, o fewn 7 diwrnod calendr i wneud penderfyniad gan y panel apêl, lle bynnag y bo modd.

Effaith y rheoliadau dros dro ar wrando apelau

Mae paragraffau 4.13 a 7.5 o'r Cod Apelau yn ei gwneud yn ofynnol i apelwyr a swyddogion cyflwyno gael y cyfle i fod yn bresennol eu hunain a chyflwyno'u hachos ar lafar. 

Lle nad yw'n rhesymol ymarferol cynnal gwrandawiad apêl yn bersonol am reswm yn ymwneud â mynychder y coronafeirws (COVID-19) neu ei drosglwyddo, mae'r rheoliadau dros dro yn caniatáu ar gyfer y canlynol:

  • cynnal gwrandawiadau apêl o bell (hynny yw, dros y ffôn neu drwy fideogynadledda)
  • penderfynu apelau ar sail ysgrifenedig yn unig

Yn unol â'r rheoliadau dros dro, lle nad yw apêl wyneb yn wyneb yn bosibl, dylai'r apelydd gael cynnig gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideogynadledda lle bynnag y bo modd.

Gall y panel apêl benderfynu cynnal y gwrandawiad o bell os yw wedi'i fodloni:

  • y gall y sawl dan sylw gyflwyno eu hachos yn llawn
  • y gall pawb sy'n cymryd rhan gael mynediad at gyfleusterau fideo neu ffôn sy'n eu galluogi i gymryd rhan lawn yn y gwrandawiad
  • y gall y gwrandawiad apêl gael ei wrando'n deg ac yn dryloyw yn y ffordd hon

Os na ellir sicrhau hyn, mae'r rheoliadau dros dro yn caniatáu i banel apêl wneud ei benderfyniad ar sail gwybodaeth ysgrifenedig yn unig. Er mwyn i'r panel wneud penderfyniad sy'n deg ac yn dryloyw, rhaid iddo sicrhau y gall pawb dan sylw gyflwyno eu hachos yn llawn yn ysgrifenedig.

Lle y gwrandewir apêl o bell neu ar sail gwybodaeth ysgrifenedig, nid oes angen i'r gofynion yn ymwneud â lleoliad apêl a nodir ym mharagraffau 4.19 a 4.20 o'r Cod Apelau gael eu dilyn.

Argymhellir y dylai'r clerc gysylltu ag apelyddion cyn gynted ag y bo modd er mwyn egluro'r trefniadau newydd dros dro ar gyfer apelau, a gweld a oes ganddynt y cyfarpar angenrheidiol ar gyfer cynnal gwrandawiad dros y ffôn neu drwy fideogynadledda. Lle y bo modd, dylai'r clerc gysylltu â'r apelydd dros y ffôn.

Apelau a gynhelir dros y ffôn neu drwy fideogynadledda

Argymhellir y dylai awdurdodau derbyn ystyried pa mor ddiogel yw'r llwyfannau mynediad o bell a ddefnyddir ganddynt. Dylent ddarllen y telerau ac amodau preifatrwydd a sicrhau, lle y bo modd, eu bod yn actifadu unrhyw nodweddion diogelwch. Os bydd ganddynt unrhyw bryderon, dylent siarad â'u staff neu ddarparwr TG i gael cymorth.

Lle y gwrandewir apelau dros y ffôn neu drwy fideogynadledda, argymhellir mai dim ond os oes ganddynt y cyfarpar a'r cyfleusterau angenrheidiol, neu y gellir eu rhoi iddynt, y caiff aelodau panel eu penodi.

Rhaid i'r awdurdod derbyn ddarparu swyddog cyflwyno ar gyfer gwrandawiad mynediad o bell, ond os na fydd unrhyw swyddog cyflwyno yn bresennol yn y gwrandawiad, gall y panel benderfynu'r achos gan ddefnyddio'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr awdurdod derbyn os wedi'i fodloni na fydd gwneud hynny yn rhoi'r apelydd dan anfantais.

Fel y nodir ym mharagraff 4.13 o'r Cod Apelau, os bydd apelydd yn methu â chymryd rhan mewn gwrandawiad ar yr amser a drefnwyd, ac nad yw'n ymarferol cynnig dyddiad amgen, gall yr apêl fynd rhagddi a chael ei phenderfynu ar sail y wybodaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd. Ceidw'r apelydd yr hawl i gyfaill, dehonglydd/cyfieithydd neu arwyddwr ddod gydag ef neu ei gynrychioli mewn gwrandawiad mynediad o bell.

Rhaid i baneli apêl gydymffurfio â'u dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn enwedig Adran 29, darparu gwasanaeth a chan gynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, wrth gynnal apelau mynediad o bell, gan gynnwys wrth ystyried presenoldeb a chynrychiolaeth apelydd yn y gwrandawiad. Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i ystyried unrhyw addasiadau rhesymol y gall fod eu hangen. Argymhellir y dylai'r clerc sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir mewn perthynas â cheisiadau am addasiadau rhesymol yn cael eu cofnodi fel rhan o gofnod yr apêl ac yn cael eu cadarnhau â'r apelydd yn ysgrifenedig cyn y gwrandawiad apêl.

Mae paragraffau 5.2 o'r Cod Apelau yn parhau i fod yn gymwys o ran apelau mynediad o bell. Dylai'r cadeirydd sicrhau bod yr apêl mynediad o bell yn cael ei chynnal yn breifat, bod pawb sy'n bresennol yn gallu clywed popeth a ddywedir, a bod gan bawb gyfle cyfartal i gymryd rhan. Argymhellir y dylai paneli apêl gadw mewn cof y gall apelwyr fod yn llai cyfarwydd â'r math hwn o gyfarfod.

Lle bydd sawl apêl ar gyfer yr un ysgol, mae'r egwyddorion a nodir ym mharagraffau 5.18 i 5.26 o'r Cod Apelau yn dal i fod yn gymwys o ran apelau mynediad o bell. Dylai'r egwyddorion hyn gael eu hystyried gan yr awdurdod derbyn, y clerc a'r panel apêl wrth benderfynu a yw'n bosibl gwrando sawl apêl ar sail mynediad o bell, a sut y dylent gael eu trefnu.

Apelau a benderfynir ar sail ysgrifenedig yn unig

Rhaid i'r gofynion a'r egwyddorion sy'n berthnasol i wrandawiadau apêl yn adran 5 o'r Cod Apelau gael eu cymhwyso gymaint â phosibl at apelau a benderfynir ar sail ysgrifenedig yn unig. Fodd bynnag, gall y gofynion hynny sydd ond yn gallu bod yn gymwys i wrandawiadau lle mae'r sawl dan sylw yn bresennol (naill ai'n bersonol neu o bell) gael eu diystyru a/neu gellir gwneud addasiadau er mwyn eu cymhwyso at apelau a benderfynir ar sail ysgrifenedig yn unig.

Adran 7: apelau gan gyrff llywodraethu yn erbyn penderfyniadau awdurdodau lleol i dderbyn plant sydd wedi'u gwahardd ddwywaith

Rhaid cydymffurfio ag adran 7 o'r Cod Apelau yn llawn, oni bai bod y rheoliadau dros dro yn gosod rheolau gweithdrefnol newydd o ganlyniad i argyfwng y coronafeirws (COVID-19).

Mae'r rheoliadau dros dro yn nodi terfynau amser diwygiedig ar gyfer apelau gan gyrff llywodraethu yn erbyn penderfyniadau awdurdodau lleol i dderbyn plant sydd wedi'u gwahardd ddwywaith. Mae hyn yn golygu y gall y rhai sydd ynghlwm wrth apelau anwybyddu, dros dro, y terfynau amser a nodir ym mharagraffau 7.1, 7.3 a 7.10 o'r Cod Apelau. Yn hytrach, dylent ddilyn y terfynau amser newydd yn y rheoliadau dros dro.

Terfynau amser ac amserlenni newydd

Rhaid i gyrff llywodraethu wneud yr apelau hyn yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod calendr i'r diwrnod y caiff wybod y derbynnir plentyn sydd wedi'i wahardd ddwywaith i'r ysgol.

Rhaid penderfynu'r apelau hyn cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Mae'r diwygiadau i'r dull o benderfynu apêl a wneir gan y rheoliadau dros dro (megis apêl y gellir ei phenderfynu o bell neu ar sail ysgrifenedig yn unig) hefyd yn gymwys i apelau gan gyrff llywodraethu yn erbyn penderfyniadau awdurdodau lleol i dderbyn plant sydd wedi'u gwahardd ddwywaith.

O ganlyniad, gall y gofyniad i'r sawl sydd ynghlwm wrth apêl ymddangos a gwneud cyflwyniadau llafar fel y'i nodir ym mharagraff 7.5 o'r Cod Apelau gael ei ddiystyru mewn rhai amgylchiadau.