Heddiw, cyhoeddodd Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg fod y rheolau newydd ar gyfer y cyrsiau sy’n hyfforddi athrawon yng Nghymru yn rhan o’r ymgyrch i ddenu’r talent gorau i’r proffesiwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu newidiadau sy’n mynd i gael eu cyflwyno ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon. Mae’r newidiadau yn cynnwys cryfhau sut mae ysgolion a phrifysgolion yn cydweithio a chynyddu rôl gwaith ymchwil.
Mae’r meini prawf achredu diweddaraf yn rhan o ymgyrch genedlaethol Llywodraeth Cymru i ddiwygio addysg. Maent yn cynnwys:
- Rôl fwy i ysgolion.
- Rôl gliriach i brifysgolion.
- Cyfleoedd strwythuredig i gysylltu dysg ysgolion a phrifysgolion.
- Mwy o bwyslais ar waith ymchwil.
Daw’r newidiadau hyn yn sgil y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Dwi am i addysgu fod yn ddewis cyntaf i bobl wrth ystyried gyrfa, er mwyn inni allu denu’r goreuon. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i’r addysg gychwynnol rydyn ni’n ei chynnig i athrawon fod yn iawn.
“Mae’r safonau achredu newydd yn rhan o’n hymgyrch genedlaethol i godi safonau a statws y proffesiwn.
“Dim ond os yw ein hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn cynnig y sgiliau a’r wybodaeth ofynnol, ac yn ennyn y dymuniad i arwain y newid sy’n ofynnol, y gall y proffesiwn addysgu gyfrannu’n briodol at y broses o godi safonau addysg yn ein hysgolion.
“Mae angen i’n hysgolion a’n prifysgolion gydweithio, gan ddefnyddio’r gwaith ymchwil gorau sydd ar gael, fel bod gan ein hathrawon y sgiliau iawn i gyflwyno ein cwricwlwm newydd er budd ein holl ddisgyblion.”
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg hefyd y bydd Cyngor y Gweithlu Addysg, drwy sefydlu Pwyllgor Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Ysgol (y Bwrdd), yn achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon (AGA) unigol.
Ychwanegodd:
“Dwi wrth fy modd yn cael dweud bod swyddi Cadeirydd a Dirprwy Gadeiryddion ‘Bwrdd’ Cyngor y Gweithlu Addysg wedi’u cyhoeddi bellach. Bydd sefydlu’r Bwrdd yn golygu bod modd ystyried yn fwy penodol sut y bydd y rhaglenni AGA yn codi safon y ddarpariaeth – gan ddenu’r bobl iawn i’r proffesiwn, sydd â’r cymwysterau iawn a’r ddawn i addysgu.”
Mae’r Ysgrifennydd Addysg am i dystiolaeth ac arferion gorau rhyngwladol helpu i lywio ein gwaith diwygio addysg yng Nghymru. O heddiw ymlaen, bydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn cynnal gweithdy rhyngwladol yng Nghaerdydd i helpu i ddatblygu AGA ymhellach yng Nghymru.