Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd dros dro i fand cyfradd sero’r Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl yng Nghymru o 27 Gorffennaf 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r newid hwn yn golygu, o 27 Gorffennaf 2020:

  • Bydd y band cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfradd yn cynyddu o £180,000 i £ 250,000, dylai'r holl drafodiadau sy'n cwblhau cyn hynny ddefnyddio'r cyfraddau a'r bandiau cyfredol
  • Bydd y cyfraddau a'r bandiau newydd yn berthnasol tan 31 Mawrth 2021

Nid yw’r dreth a delir ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch neu drafodiadau amhreswyl wedi newid.

Cyfraddau a Bandiau

Gweinidogion Cymru sy'n pennu'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir. Maent yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.

Gallwch ddefnyddio'r tabl isod i weithio allan faint o TTT sy'n ddyledus o 27 Gorffennaf 2020. Rydym hefyd wedi diweddaru’n tudalen gyfraddau a bandiau TTT.

Gallwch gyfrifo faint o TTT rydych yn ei thalu ar hyn o bryd drwy ddefnyddio’n cyfrifiannell dreth swyddogol.

Rydym yn diweddaru ein cyfrifiannell dreth, yn ogystal â gwasanaethau ar-lein eraill fel blaenoriaeth. Byddwn yn cadarnhau pan fydd ein gwasanaethau wedi’u diweddaru.

Trothwy pris Prif Gyfradd Breswyl

Y gyfran hyd at
a chan gynnwys £250,000

0%

Y gyfran dros £250,000
hyd at a chan gynnwys £400,000

5%

Y gyfran dros £400,000
hyd at a chan gynnwys £750,000

7.5%

Y gyfran dros £750,000
hyd at a chan gynnwys £1,500,000

10%

Y gyfran dros £1,500,000

12%

Trothwy pris Cyfradd Breswyl Uwch

Y gyfran hyd at
a chan gynnwys £180,000

3%

Y gyfran dros £180,000
hyd at a chan gynnwys £250,000

6.5%

Y gyfran dros £250,000
hyd at a chan gynnwys £400,000

8%

Y gyfran dros £400,000
hyd at a chan gynnwys £750,000

10.5%

Y gyfran dros £750,000
hyd at a chan gynnwys £1,500,000

13%

Y gyfran dros £1,500,000

15%

Trothwy pris Cyfradd Amhreswyl

Y gyfran hyd at
a chan gynnwys £150,000

0%

Y gyfran dros £150,000
hyd at a chan gynnwys £250,000

1%

Y gyfran dros £250,000
hyd at a chan gynnwys £1,000,000

5%

Y gyfran dros £1,000,000

6%

Trothwy gwerth presennol net (NPV) Cyfradd rhent amhreswyl

Y gyfran hyd at
a chan gynnwys £150,000

0%

Y gyfran dros £150,000
hyd at a chan gynnwys £2,000,000

1%

Y gyfran dros £2,000,000

2%

Gwybodaeth a chefnogaeth

I gael mwy o wybodaeth am TTT, darllenwch ein Canllaw Treth Trafodiadau Tir neu gallwch gysylltu â ni.