Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Rhagfyr 2018.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r-ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 432 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn ceisio eich barn ar y cynlluniau i newid y gyfraith sy’n gysylltiedig â maethiad yng Nghymru os bydd Brexit yn mynd rhagddo heb gytundeb.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar ddiwygiadau arfaethedig i ddeddfwriaeth ddomestig sy’n gysylltiedig â maethiad. Y rheswm dros wneud hyn yw sicrhau ei bod yn parhau’n effeithiol ar ôl i’r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE).
Nid oes unrhyw newid sylweddol yn cael ei gynnig i’r ddeddfwriaeth.
Mae’r ddeddfwriaeth a gaiff ei heffeithio fel a ganlyn:
- Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000
- Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006
- Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003
- Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007
- Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007
- Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009
- Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016