Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i broses argymell a dyfarnu’r Lwfans Myfyrwyr Anabl ar gyfer llety

Cymorth ychwanegol yw’r Lwfans Myfyrwyr Anabl y gellir ei ddefnyddio i dalu am gostau sy’n gysylltiedig ag astudio, fel offer, cymorth anfeddygol, a theithio. Gall y Lwfans Myfyrwyr Anabl hefyd ystyried unrhyw gost ychwanegol y mae myfyriwr yn ei hysgwyddo i gael llety sy’n addas i’w anghenion.

Yr arfer bresennol

Gall y rhai sy’n asesu anghenion astudio yng nghyswllt y Lwfans Myfyrwyr Anabl argymell wrth Dîm Lwfans Myfyrwyr Anabl Cyllid Myfyrwyr Cymru y dylid ystyried uwchraddio’r llety sydd ar gael i fyfyriwr fel bod y llety’n addas i’w anghenion. Rhaid i argymhelliad ynghylch y gost ychwanegol y gall hyn ei chreu gynnwys cost ystafell ‘safonol’ a chost yr ystafell sy’n addas i anghenion penodol y myfyriwr mewn perthynas â’i anabledd yn yr un adeilad neu’r un lleoliad. Bydd Tîm Lwfans Myfyrwyr Anabl Cyllid Myfyrwyr Cymru yn ystyried dyfarnu’r gwahaniaeth rhwng y ddwy gost, a hynny o Lwfans Myfyrwyr Anabl y myfyriwr. 

Yr arfer newydd

Gall y rhai sy’n asesu anghenion astudio yng nghyswllt y Lwfans Myfyrwyr Anabl barhau i argymell wrth Dîm Lwfans Myfyrwyr Anabl Cyllid Myfyrwyr Cymru y dylid ystyried cyfrannu at gost llety myfyriwr, sy’n briodol i’w anghenion penodol mewn perthynas â’i anabledd. Rhaid darparu cost ystafell ‘safonol’ o hyd. Rhaid i’r llety hwn fod o fewn pellter rhesymol i’r Brifysgol, a’r elfen resymol yn rhan o’r argymhelliad (gellir cyfuno hyn ag argymhelliad ar gyfer lwfans teithio myfyrwyr anabl).

Erbyn hyn, nid oes angen darparu’r pris am y llety sy’n briodol i anghenion penodol y myfyriwr mewn perthynas â’i anabledd gyda’r argymhelliad. Bydd Tîm Lwfans Myfyrwyr Anabl Cyllid Myfyrwyr Cymru yn dyrannu 50% yn ychwanegol at gost yr ystafell safonol i ddarparu uchafswm am gost y llety sy’n briodol i anghenion penodol y myfyriwr mewn perthynas â’i anabledd. Nid oes angen i’r llety hwn fod yn yr un adeilad ac nid oes angen iddo fod ar gael gan yr un cyflenwr tai. 

Wrth hawlio’r Lwfans Myfyrwyr Anabl, bydd angen i’r myfyriwr ddarparu tystiolaeth o’r gost a dalwyd. Bydd Tîm Lwfans Myfyrwyr Anabl Cyllid Myfyrwyr Cymru yn ad-dalu’r gwahaniaeth rhwng pris yr ystafell safonol a’r pris a dalwyd, hyd at y terfyn ychwanegol uchaf o 50%.

Er enghraifft:

  • Argymhelliad ar gyfer llety pan fo’r ystafell safonol (YS) yn £130 yr wythnos (YS = £130)
  • YS 130 * 1.5 = terfyn (T) o 195
  • Caiff uchafswm y dyfarniad ar gyfer llety ei gyfrifo’n £65 yr wythnos (T 195 – YS 130 = £65)

Os bydd myfyrwyr yn teimlo nad ydynt yn gallu cael gafael ar lety sy’n briodol i’w hanghenion penodol mewn perthynas â’u hanabledd o fewn y terfyn ychwanegol o 50%, bydd angen iddynt drafod eu hamgylchiadau unigol â’r rhai sy’n asesu eu hanghenion astudio. Gall y rhain greu achos dros ystyriaeth eithriadol i Dîm Lwfans Myfyrwyr Anabl Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Gall yr arfer hon ddod i rym o ddyddiad yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn a gellir ei gweithredu ar gyfer unrhyw gais myfyriwr am Lwfans Myfyrwyr Anabl pan na fo dyfarniad am lety sy’n ddarpariaeth anabledd wedi ei gymeradwyo hyd yma.

Ymholiadau

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am broses y Lwfans Myfyrwyr Anabl, cysylltwch â Thîm Lwfans Myfyrwyr Anabl Cyllid Myfyrwyr Cymru yn uniongyrchol: SFW_DSA_team@slc.co.uk. Sylwch nad oes gan Lywodraeth Cymru fynediad at geisiadau myfyrwyr na chyfrifon myfyrwyr, rhaid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â chais am y Lwfans Myfyrwyr Anabl at Dîm Lwfans Myfyrwyr Anabl Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn, gallwch gysylltu â’r Is-adran Addysg Uwch yn Llywodraeth Cymru drwy anfon e-bost at isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.