Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r dull profi ar gyfer COVID-19 mewn ysbytai yng Nghymru wedi cael ei ddiweddaru, gan fod y brechlynnau wedi bod yn effeithiol dros ben wrth leihau’r risg o gael salwch symptomatig, clefyd difrifol, mynd i’r ysbyty, a’r risg o farwolaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ogystal â’r brechlyn, mae triniaethau gwrthfeirol newydd wedi helpu i leihau difrifoldeb y clefyd, yn arbennig i’r rheini sydd fwyaf tebygol o’i gael yn wael.

Y gobaith yw y bydd y newidiadau yn cefnogi strategaethau lleihau risg byrddau iechyd a rhoi hwb sylweddol i ofal cyffredinol a gofal brys mewn ysbytai, yn ogystal â llif cleifion drwy driniaethau ysbyty ac, i rai, wrth eu rhyddhau i ofal cymdeithasol.

Gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar y sector iechyd a gofal cymdeithasol cyfan, sydd wedi bod dan ‘bwysau eithriadol’ yn yr wythnosau diwethaf yn ôl y Gweinidog Iechyd.

Bydd y newidiadau hyn yn cael eu gwneud i brofion cyn derbyn cleifion i’r ysbyty ar gyfer triniaethau dewisol, derbyniadau ar gyfer gofal heb ei drefnu, profion ar ôl derbyn cleifion i’r ysbyty ar gyfer cleifion asymptomatig a symptomatig, a threfniadau ar gyfer profi ar ôl rhyddhau cleifion.

Caiff y newidiadau profi hyn eu gwneud er mwyn helpu’r byrddau iechyd i gydbwyso risgiau COVID-19 gyda’r angen i ddarparu gofal iechyd cyffredinol a brys yn ddiogel, yn ogystal â’r effaith y mae trefniadau profi yn eu cael ar ofal cleifion unigol.

Mae’r canllawiau newydd yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ac arbenigol orau sydd ar gael ar hyn o bryd o ran iechyd y cyhoedd, ond mae hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw gwneud penderfyniadau’n lleol, gan ddibynnu ar risgiau megis cyfraddau trosglwyddiad nosocomiaidd, cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned, neu pa mor agored i niwed yw cleifion.

Bydd profion cyn derbyn cleifion yn parhau, ond bydd y math o brawf a ddefnyddir yn seiliedig ar risg unigol y claf o’r haint.

Bydd y newidiadau i brofion yn golygu y bydd cleifion asymptomatig sy’n cael llawdriniaeth neu gemotherapi yn cael eu profi gan ddefnyddio profion PCR neu Brofion Pwynt Gofal (POCT) 72 awr cyn iddynt gael eu derbyn, a gofynnir iddynt hunanynysu tan eu triniaeth.

I rai cleifion asymptomatig risg isel sy’n cael eu derbyn ar gyfer triniaethau risg isel, efallai y bydd Byrddau Iechyd yn penderfynu bod prawf llif unffordd negatif pan fyddant yn cael eu derbyn, neu ychydig cyn hynny, yn ddigonol.

Gwneir newidiadau hefyd i brofion adeg derbyniadau heb eu trefnu, gyda chleifion sydd â symptomau anadlol yn cael eu profi am amrywiaeth o glefydau (COVID-19, y ffliw, feirws syncytiol anadlol (RSV) o leiaf) ar un swab PCR neu POCT.

Dylai cleifion heb symptomau anadlol gael eu profi am COVID-19 yn unig, gan ddefnyddio prawf llif unffordd pan cânt eu derbyn.

Gwneir newidiadau hefyd i brofion asymptomatig. Yn unol â’r newidiadau ar gyfer cyhoedd ac mewn lleoliadau gofal, ar ôl derbyn cleifion, ni cynghorir gwneud profion asymptomatig arferol pellach oni bai y penderfynir ar lefel leol bod angen hynny.

Bydd profion i bobl symptomatic yn parhau, wrth i gleifion sy’n datblygu symptomau gael eu profi gyda phrofion PCR neu POCT ar gyfer COVID-19, y ffliw, feirws syncytiol anadlol (RSV) neu brawf amlddadansoddol clinigol llawn.

Caiff byrddau iechyd eu hannog i weithio gyda darparwyr cartrefi gofal ar drefniadau profi wrth ryddhau cleifion.

Gellir tybio nad yw cleifion a brofodd yn bositif ar gyfer COVID wrth iddynt, neu ers iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty, bellach yn heintus pan:

  • Mae’r symptomau wedi’u trin, does dim twymyn, A
  • phan bydd 10 diwrnod wedi mynd heibio NEU
  • defnyddir protocol profi a benderfynir yn lleol i leihau’r cyfnod hunanynysu o 10 diwrnod ar gyfer cleifion sy’n bodloni’r meini prawf clinigol uchod. Gall y profion hyn fod yn brofion llif unffordd neu’n brofion canfod antigenau cyflym eraill. Dylai cleifion gael dau brawf negatif 24 awr ar wahân, yn ogystal â dangos gwelliant clinigol fel y nodir uchod, cyn rhoi’r gorau i hunanynysu a chael eu rhyddhau.

Dylai cleifion asymptomatig nad ydynt wedi profi’n bositif am COVID yn flaenorol gael eu profi o fewn 24 awr o’r adeg pan y bwriedir eu rhyddhau i gyfleuster gofal. Os na fydd profion llif unffordd ar gael, gellir defnyddio profion PCR/POCT cyflym i brofi ar gyfer COVID-19.

Caiff y newidiadau i brofi mewn ysbytai eu gwneud nawr oherwydd, yn ystod cyfnodau pan ceir nifer uchel o achosion o COVID-19 yn y gymuned, effaith gymharol fach y mae hyn wedi’i chael ar nifer y derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau, ac mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â throsglwyddiad nosocomiaidd hefyd wedi gostwng yn sylweddol.

Mae staff gofal iechyd sy’n gweithio gyda chleifion yn parhau i gael eu cynghori i wneud profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos, ond mae’r cyngor hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Nid yw’r pandemig wedi diflannu, ac rydym yn dal i ddysgu i fyw gyda COVID-19, ond mae’r sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd yn ein galluogi ni i wneud newidiadau priodol i’r drefn brofi sy’n cefnogi. Byrddau Iechyd i weithredu’r strategaethau atal a rheoli heintiau angenrheidiol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ofal cyffredinol a gofal brys.

“Rydyn ni’n gwneud y newidiadau hyn ar sail y dystiolaeth wyddonol ac arbenigol orau sydd ar gael ar hyn o bryd o ran iechyd y cyhoedd; newidiadau sy’n caniatáu ar gyfer penderfyniadau lleol i gefnogi’r gofal gorau posibl i gleifion.

“Diolch i’n rhaglen frechu anhygoel, mae’r risg bod y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei orlethu bellach wedi gostwng yn sylweddol, a gallwn wneud newidiadau i’r drefn brofi o fewn cyd-destun mesurau atal a rheoli heintiau eraill.”