Daeth yr ymgynghoriad i ben 24 Mai 2017.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 445 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael gwybod eich barn ar ein cynigion ar gyfer newidiadau i ba mor aml y cyhoeddir y diweddariadau i’r data ar Stats Cymru mewn perthynas â Chynllun Benthyciadau Ecwiti Cymorth i Brynu – Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Caiff data ar y Cynllun Benthyciadau Ecwiti Cymorth i Brynu – Cymru eu cyhoeddi ar StatsCymru yn fisol, gan gwmpasu gweithgarwch ar lefel yr awdurdod lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi pennawd ystadegol bob 3 mis a datganiad blynyddol.
Rydym yn ymgynghori ar gynigion i leihau amlder yr allbynnau data hyn o fis Mai 2017 ymlaen, a’u gwneud yn gyson â chyhoeddiadau ystadegol eraill ar gyflenwad tai.