Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i chi ddiweddaru eich cyfrif Cynnig Gofal Plant yng Nghymru os bydd eich amgylchiadau'n newid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw beth a allai effeithio ar eich cymhwysedd, er enghraifft:

  • eich swydd neu'r oriau rydych chi’n eu gweithio fel arfer yn newid
  • mae eich incwm gros yn uwch na'r disgwyl a gall fod yn fwy na £100,000 y flwyddyn
  • eich bod yn cael eich diswyddo
  • rydych wedi stopio astudio

Incwm gros yw cyfanswm yr incwm cyn unrhyw ddidyniadau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • cyfraniadau pensiwn
  • yswiriant iechyd
  • cynlluniau aberthu cyflog
  • bonysau neu difidendau blynyddol

Dywedwch wrthym am unrhyw newidiadau drwy ddiweddaru eich manylion yn eich cyfrif.

Pob tymor, byddwch hefyd yn cael e-bost a rhybudd yn eich cyfrif yn rhoi cyfarwyddyd i chi wirio a chadarnhau eich amgylchiadau. Efallai y bydd eich cyllid yn cael ei atal os na fyddwch yn gwneud hyn.

Os ydych yn dod yn anghymwys pan ydych yn cael y Cynnig Gofal Plant, rydych yn mynd i gyfnod eithrio dros dro am hyd at 8 wythnos.

Os yw eich amgylchiadau'n newid ar ôl gwneud cais a chyn i'ch cais gael ei gymeradwyo, cysylltwch â ni.