Newidiadau arfaethedig i’r gyfres o Reoliadau y mae ysgolion annibynnol yng Nghymru yn gweithredu oddi tanynt: memorandwm esboniadol
Memorandwm esboniadol y newidiadau arfaethedig i'r Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru), Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Datganiad y Gweinidog
Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru), Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru), a Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru) (“y Rheoliadau” o hyn ymlaen). Rwyf wedi fy modloni bod y manteision yn cyfiawnhau’r costau tebygol.
Jeremy Miles MS
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Rhan 1: memorandwm esboniadol
Disgrifiad
- Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi ymrwymo i adolygu a chryfhau Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 mewn ymateb i adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2020 i 2021 a hefyd mewn ymateb i’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
- Mae’r Rheoliadau drafft hyn yn gwireddu’r ymrwymiad hwnnw. Bwriedir i’r gwahanol newidiadau rheoleiddiol a drafodir yn y Memorandwm Esboniadol hwn wella ansawdd addysg a lles, iechyd a diogelwch disgyblion mewn ysgolion annibynnol yng Nghymru, a chryfhau’r trefniadau llywodraethu drwy:
- adlewyrchu polisi presennol Llywodraeth Cymru ar draws y system addysg, gan greu cydraddoldeb ym mhob lleoliad annibynnol a lleoliad a gynhelir pan fo hynny’n briodol
- ymateb i bryderon a amlygwyd gan randdeiliaid fel Comisiynydd Plant Cymru, gan gynnwys drwy Gais am Dystiolaeth
- mynd i’r afael â’r pryderon sydd wedi’u nodi ynghylch cyfyngiadau pwerau Gweinidogion Cymru
- rhoi sicrwydd ychwanegol bod dysgwyr yn y lleoliadau hyn yn cael eu diogelu
- Bwriedir i’r Rheoliadau diwygiedig wneud y canlynol:
- cryfhau’r gofynion o ran hyfforddiant diogelu ar gyfer staff ac arweinwyr ysgolion
- gwella diogelu drwy gynnal gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn fwy aml, hy bob tair blynedd
- cryfhau’r gofynion i sicrhau bod ysgolion yn mynd ati i hybu diogelu dysgwyr
- diwygio’r geiriad yn y Safonau Ysgol Annibynnol i’w gwneud yn glir mai’r perchennog sy’n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfio
- Lluniwyd y Rheoliadau drwy gydbwyso’r angen i sicrhau bod unrhyw newidiadau arfaethedig yn rhesymol ac yn gymesur ac nad ydynt yn cyfyngu’n ddiangen ar y rhyddid sydd gan ysgolion annibynnol i’w trefnu eu hunain a darparu addysg.
- Ar hyn o bryd, mae pum set o Reoliadau ac un Gorchymyn sy’n rhagnodi sut y dylai ysgolion annibynnol yng Nghymru weithredu:
- Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003
- Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003
- Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygu) (Cymru) 2003
- Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Cymeriad Crefyddol Ysgolion) (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2003
- Rheoliadau Addysg (Ysgolion Annibynnol) (Personau Anaddas) (Cymru) 2009
- Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Ysgolion Annibynnol) (Cymru) 2009
- Ers cyflwyno’r Rheoliadau hynny, mae nifer o ddiffygion wedi dod i’r amlwg yn y fframwaith deddfwriaethol. Yn hanesyddol, pan fo ysgolion yn methu â chyrraedd ansawdd y safonau addysg a ddisgwylir, gwraidd y broblem yn aml yw nad oes gan staff ddigon o wybodaeth i gynllunio’n effeithiol ar gyfer cefnogi cynnydd disgyblion mewn dysgu. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyrhaeddiad blaenorol disgyblion sy’n golygu nad yw’r ysgol yn gallu cynllunio’n ddigon da i helpu disgyblion i wneud cynnydd yn unol â’u gallu. Nid yw cynnydd yn cael ei asesu’n iawn ychwaith fel rhan o broses barhaus, ac mae angen i’r broses honno fwydo’n ôl i wersi. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, ychwanegir y materion hyn yn benodol at ofynion y safon.
- Mae’r safon sy’n ymwneud â lles, iechyd a diogelwch disgyblion yn canolbwyntio ar ba mor bwysig yw ysgol sy’n darparu amgylchedd diogel ar gyfer dysgu a datblygu. Mae rhai o’r pethau y mae ysgolion sy’n methu â chydymffurfio â’r safon hon yn eu gwneud yn cynnwys peidio â dadansoddi a lliniaru risgiau i ddisgyblion, peidio â sefydlu na gweithredu polisïau sy’n darparu ar gyfer lles disgyblion pan fyddant yn yr ysgol, a pheidio â sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at adnoddau lles y tu allan i oriau ysgol. Bydd pob un o’r rhain yn ofynion er mwyn cyrraedd y safon yn y Rheoliadau newydd.
- Mae Gweinidogion Cymru wedi cydnabod y diffygion hyn yn y fframwaith rheoleiddio a’r ffordd y gellir eu gorfodi drwy ymateb i adolygiad Comisiynydd Plant Cymru o sut mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau o dan adran 72 o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen diwygio sylfaenol i ddiweddaru’r system reoleiddio ar gyfer ysgolion annibynnol. Fel y nodwyd uchod, gwnaed yr un ymrwymiad i adolygu’r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion yn Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2020 i 2021.
- Cafwyd sawl ymgais yn y gorffennol i ddiweddaru’r Rheoliadau, ond ni chafodd y rhain eu cwblhau erioed, yn bennaf oherwydd bod gwaith arall yn cael blaenoriaeth uwch ond yn fwyaf diweddar oherwydd pandemig COVID-19. Felly mae angen diweddaru’r Rheoliadau ar frys erbyn hyn.
- Yn gryno, mae’r Rheoliadau bellach yn:
- o diwygio Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003
- o disodli Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003
- o gwneud Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru) a gafodd eu drafftio’n wreiddiol yn 2016
Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
- Dim
Cefndir cyffredinol y sector ysgolion annibynnol yng Nghymru
- Ar hyn o bryd, mae ychydig dros 80 o ysgolion annibynnol cofrestredig yng Nghymru. Mae’r nifer hwn wedi’i rannu’n weddol gyfartal rhwng ysgolion prif ffrwd a’r rhai sy’n darparu ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu anghenion addysgol arbennig (AAA). Mae’r ystod oedran y mae’r ysgolion hyn yn darparu ar ei chyfer yn amrywio o ysgol i ysgol. Mae rhai yn derbyn disgyblion hyd at 18 oed, ac eraill ond yn darparu ar gyfer ystodau oedran penodol. Ceir amrywiadau sylweddol o ran maint hefyd. Mae’r ysgol leiaf wedi’i chofrestru ar gyfer uchafswm o bedwar disgybl, a’r fwyaf ar gyfer hyd at 1,500 o ddysgwyr.
- Yn ôl y cyfrifiad ysgolion diweddaraf, sy’n cael ei gynnal ym mis Ionawr bob blwyddyn ac y mae’n ofynnol i bob ysgol yng Nghymru ei gwblhau, mae oddeutu 10,000 o ddisgyblion yn y sector annibynnol yng Nghymru. Mae’r sector yn cyflogi rhyw 850 o athrawon cymwys a 1,200 o staff cymorth megis cynorthwywyr addysgu. Yn wahanol i’r sector a gynhelir, mae rhai ysgolion annibynnol yn cynnig darpariaeth fyrddio, ac mae’r rhain weithiau’n recriwtio dysgwyr rhyngwladol.
- Mae llawer o’r ysgolion sy’n darparu ar gyfer dysgwyr ag ADY/AAA yn cynnig darpariaeth breswyl, ac mae disgyblion sy’n mynychu’r rhain fel arfer yn cael eu cyllido gan eu hawdurdod lleol. Fel arfer, yr awdurdod lleol sy’n gofalu am ychydig dros hanner y disgyblion hyn, ac maent yn symud i mewn ac allan o’r ddarpariaeth yn rheolaidd, yn aml ar fyr rybudd, gan fod eu gofynion gofal yn newid yn gyflym. Y disgyblion hyn felly yw rhai o’r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yng Nghymru ac mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill yn gweithredu o fewn fframwaith sy’n sicrhau eu bod yn darparu’r gofal a’r diogelu gorau posibl ar gyfer y disgyblion hyn.
- Ceir ceisiadau i gofrestru ysgol annibynnol newydd gan ddarparwyr addysg o bryd i’w gilydd. Mae cymysgedd felly o ysgolion sydd wedi’u sefydlu’n ddiweddar a’r rhai sydd â hanes cyfoethog sy’n ymestyn yn ôl dros gannoedd o flynyddoedd.
- Mae’n ofynnol i bob ysgol annibynnol yng Nghymru sy’n bodloni’r diffiniad yn adran 463 o Ddeddf Addysg 1996 gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a chydymffurfio â chyfres o Reoliadau. Yn y Ddeddf, mae ysgol yn ysgol annibynnol os nad yw’n cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol a’i bod yn darparu addysg lawnamser ar gyfer: pump neu ragor o ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol; neu o leiaf un disgybl sydd â Chynllun Datblygu Unigol; neu un sydd â datganiad AAA; neu un sydd â Chynllun Addysg, Iechyd a Gofal; neu ddisgybl sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol. Nid yw’n berthnasol p’un a ddarperir addysg lawnamser yn yr ysgol hefyd ar gyfer disgyblion sy’n iau neu’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.
Y cefndir deddfwriaethol
- Mae adran 157(1) o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau sy’n rhagnodi safonau ynghylch y materion canlynol, (a) ansawdd yr addysg a ddarperir mewn ysgolion annibynnol; (b) datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion mewn ysgolion annibynnol; (c) lles, iechyd a diogelwch disgyblion mewn ysgolion annibynnol; (d) addasrwydd perchnogion ysgolion annibynnol a staff mewn ysgolion annibynnol; (e) mangreoedd ysgolion annibynnol a llety byrddio mewn ysgolion annibynnol; (f) darparu gwybodaeth gan ysgolion annibynnol; (g) dull ysgolion annibynnol o ymdrin â chwynion.
- Mae adran 160(1) o Ddeddf Addysg 2002 yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau ynghylch y math o gais a’r wybodaeth y mae’n ofynnol eu rhoi i’r awdurdod cofrestru wrth wneud cais i gofrestru ysgol annibynnol newydd. Mae adran 168 yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchennog ysgol gofrestredig roi i’r awdurdod cofrestru, pan fo’r awdurdod yn gofyn am hynny, unrhyw fanylion sy’n ymwneud â’r ysgol a ragnodir.
- Rhoddodd adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 bwerau i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n rhagnodi ar ba seiliau y caniateir rhoi cyfarwyddyd sy’n gwahardd person rhag cymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol yng Nghymru, neu sy’n cyfyngu ar allu person i wneud hynny.
- O dan adran 165 o Ddeddf Addysg 2002, caiff yr awdurdod cofrestru (Gweinidogion Cymru) gymryd ystod o gamau gorfodi yn erbyn ysgol annibynnol pan fydd wedi’i fodloni nad yw un neu ragor o’r safonau ysgol annibynnol yn cael eu cyrraedd. Os yw’r awdurdod cofrestru o’r farn bod perygl o niwed difrifol i les disgyblion yn yr ysgol, caiff yr awdurdod benderfynu bod yr ysgol i’w thynnu oddi ar y gofrestr.
- Fel arall, bydd yr awdurdod cofrestru yn cyflwyno hysbysiad i berchennog yr ysgol yn nodi’r safon(au) dan sylw ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog gyflwyno cynllun gweithredu sy’n nodi’r camau a fydd yn cael eu cymryd i gyrraedd y safon. Caiff yr awdurdod cofrestru wrthod neu gymeradwyo’r cynllun gweithredu (gydag addasiadau neu heb addasiadau). Os bydd unrhyw gamau penodedig mewn cynllun gweithredu cymeradwy heb eu cymryd erbyn y dyddiad a bennir, caiff yr awdurdod cofrestru gymryd ystod o gamau gorfodi. Mae’r camau hyn yn cynnwys rhoi dyddiad diweddarach yn lle’r dyddiad a nodir ar gyfer cymryd y camau hynny, tynnu’r ysgol oddi ar y gofrestr (yn amodol ar apêl) neu wneud gorchymyn. Caiff gorchymyn o’r fath ei gwneud yn ofynnol i ysgol roi’r gorau i ddefnyddio unrhyw ran o fangreoedd yr ysgol at bob diben neu at ddibenion penodedig, neu gau unrhyw ran o weithrediad yr ysgol neu roi’r gorau i dderbyn unrhyw ddisgyblion newydd o ddisgrifiad penodedig.
Diben y ddeddfwriaeth a’r effaith y bwriedir iddi ei chael
- Mae’r Rheoliadau yn defnyddio’r pwerau yn adrannau 157(1) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 i ddiweddaru a chyflwyno gofynion newydd yn y Rheoliadau sy’n rhagnodi’r safonau y mae rhaid i ysgolion annibynnol gydymffurfio â hwy. Themâu allweddol y newidiadau hyn fydd cryfhau a diweddaru’r Rheoliadau yn ôl yr angen, a gwella ansawdd yr addysg a ddarperir a lles, iechyd a diogelwch disgyblion mewn ysgolion annibynnol.
- Mae’r Rheoliadau yn defnyddio’r pwerau yn adrannau 160(1), 168 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 i ddiweddaru a chyflwyno gofynion newydd sy’n ymwneud â’r wybodaeth y mae’n ofynnol i ysgol ei darparu i Lywodraeth Cymru.
- Mae’r Rheoliadau yn defnyddio’r pwerau yn adran 167A o Ddeddf Addysg 2002 ac adran 171(1) a (2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i wneud rheoliadau sy’n rhagnodi ar ba seiliau y caniateir rhoi cyfarwyddyd sy’n gwahardd person rhag cymryd rhan yn y gwaith o reoli ysgol annibynnol yng Nghymru, neu sy’n cyfyngu ar allu person i wneud hynny. Mewn perthynas ag adran 171, maent yn rhagnodi bod person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 142 i gael ei drin fel pe bai’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 167A.
- Bydd swyddogion yn cryfhau’r canllawiau i ysgolion ar sut mae datblygu cynlluniau gweithredu effeithiol. Bydd hyn yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru o ran cydymffurfio â’r fframwaith deddfwriaethol ac yn egluro’r sancsiynau a allai gael eu gosod gan Weinidogion Cymru o dan amgylchiadau penodol pan na cheir cydymffurfedd. Mae swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith ar gyfer ymyrryd a gorfodi sy’n cael ei gynnwys yn y canllawiau diwygiedig ar gyfer ysgolion annibynnol.
Y mecanweithiau bwriadedig ar gyfer gwella
- Mae’r Rheoliadau presennol yn nodi’r safonau a’r gofynion mewn saith rhan:
- i) Ansawdd yr addysg a ddarperir yn yr ysgol
- ii) Datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion
- iii) Lles, iechyd a diogelwch disgyblion
- iv) Addasrwydd perchnogion a staff
- v) Mangreoedd ysgolion a llety byrddio ysgolion
- vi) Darparu gwybodaeth
- vii) Y dull o ymdrin â chwynion
Egluro pwy sy’n gyfrifol am gydymffurfio â’r Safonau
- Mae’r Rheoliadau yn newid llawer o’r gofynion o ‘rhaid i’r ysgol’ i ‘rhaid i’r perchennog’. Diben hyn yw rhoi’r cyfrifoldeb yn glir am gydymffurfio â’r safonau i endid penodol, hy perchennog yr ysgol. Roedd yr ymatebion i’r Cais am Dystiolaeth yn cefnogi’r dull arfaethedig o finiogi’r geiriad. Roeddent hefyd o’r farn y byddai gwneud y newidiadau hyn drwy reoliadau yn sicrhau lefelau cydymffurfio na fyddai i’w gweld drwy ganllawiau. Mae’r Rheoliadau newydd felly yn darparu mai’r endid atebol yw’r perchennog.
H
Dysgu ar-lein
- Yn dilyn y profiad o symud addysgu ar-lein yn ystod pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi dod yn ymwybodol bod rhai ysgolion annibynnol yn dewis parhau i gynnig dull cyfunol o addysgu a dysgu. Mewn ymateb i’r newid sylweddol hwn i ddulliau darparu, gan ragweld y bydd hyn yn dod yn duedd fwy cyffredin mewn ysgolion annibynnol, ac i ddiogelu’r ddeddfwriaeth yn y dyfodol, bydd y Rheoliadau yn ei gwneud yn glir bod disgwyl i ysgolion fodloni gofynion y safonau, ni waeth sut y darperir yr addysg a’r dysgu.
- Er mwyn cynorthwyo’r dull uchod ac adlewyrchu na ellir darparu addysgu mewn lleoliad dosbarth bob amser, bydd unrhyw gyfeiriadau at ‘amser yn y dosbarth’, ‘ystafell ddosbarth’ a ‘dosbarth’ yn cael eu tynnu o’r Rheoliadau ym mhob safon, ac eithrio’r rhai yn Safon 5 sy’n ymwneud â mangreoedd a llety byrddio.
Effaith y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg
- Diwygiwyd y diffiniad o ysgol annibynnol gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (“y Ddeddf”) a ddaeth i rym ym mis Medi 2021 ac eithrio mewn perthynas â phersonau penodol (yn ei hanfod, y rhai na chychwynnir y Ddeddf ar eu cyfer o’r dyddiad hwnnw).
- Pan fo’n briodol, bydd y Rheoliadau yn cyfeirio at gyflwyno’n raddol ofynion y Ddeddf drwy ddiwygio’r geiriad yn y gofynion perthnasol i gynnwys disgyblion sydd â Chynlluniau Datblygu Unigol.
Safon 1: ansawdd yr addysg a ddarperir yn yr ysgol
- Bydd y Rheoliadau yn diwygio’r geiriad yn y gofynion o ‘ysgol’ i ‘perchennog’, gan gynnwys cyfeiriadau at Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Byddant hefyd yn cyflwyno gofyniad newydd i sicrhau nad yw’r addysgu yn yr ysgol yn tanseilio gwerthoedd democratiaeth, rheol y gyfraith na pharch a goddefgarwch y rhai sydd â ffydd a chredoau gwahanol at ei gilydd.
- Yn ogystal, mae’r Rheoliadau yn codi lefel y disgwyliad o ran ansawdd yr addysg a ddarperir drwy newid ansawdd a safon yr addysgu, o ‘digonol’, ‘boddhaol’ a ‘priodol’ i lefel a fydd yn cyrraedd safon ‘da’ neu ‘effeithiol’. Golyga hyn ein bod yn newid gofyniad y safon fel bod gwell darpariaeth yn ofynnol er mwyn sicrhau cydymffurfedd.
- Ni fwriedir tanseilio gallu ysgol annibynnol i ddatblygu a chyflwyno ei chwricwlwm ei hun. Fodd bynnag, bydd y Rheoliadau yn ei gwneud yn glir bod rhaid i ysgolion ddatblygu cwricwlwm sy’n dangos ei fod yn diwallu anghenion pob dysgwr unigol. Ar gyfer dysgwr ag ADY, bydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen arno yn cael ei disgrifio yn ei Gynllun Datblygu Unigol. Dylai cwricwlwm ysgol ddarparu dysgu gwahaniaethol o ansawdd uchel i bob dysgwr.
Safon 2: datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion
- Bydd y Rheoliadau yn diwygio’r geiriad yn y gofynion o ‘ysgol’ i ‘perchennog’ i’w gwneud yn glir pwy sy’n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfio; yn cyflwyno gofynion newydd i annog disgyblion i barchu gwerthoedd democratiaeth, cyfraith sifil a chyfraith trosedd, rhyddid yr unigolyn a pharch a goddefgarwch y rhai sydd â ffydd a chredoau gwahanol at ei gilydd; yn eithrio hybu safbwyntiau gwleidyddol pleidiol wrth addysgu; a phan fo’n ymarferol, yn yr ysgol, yn sicrhau bod safbwyntiau gwleidyddol croes yn cael eu cyflwyno’n gytbwys i ddisgyblion.
- Yn ogystal, bydd cryfhau’r Rheoliadau ymhellach yn canolbwyntio ar y gymuned a’r gymdeithas y tu allan i’r ysgol ar draul unrhyw gyfeiriad at gymuned yr ysgol. Bydd y gofyniad hefyd yn cynnwys gweithio gyda chymuned yr ysgol i annog a helpu disgyblion i ddeall sut y gallant gyfrannu at fywyd cymunedol yr ysgol.
Safon 3: lles, iechyd a diogelwch disgyblion
- Nod sylfaenol pob diwygiad rheoleiddiol yn y safon hon yw cryfhau diogelu a llesiant dysgwyr drwy sicrhau bod pob aelod o staff yn cael hyfforddiant diogelu ac yn cydymffurfio â’r holl ofynion statudol a gorfodol eraill i ddiogelu lles, iechyd a diogelwch disgyblion. Un agwedd bwysig ar hyn yw gwneud yn siŵr bod dysgwyr yn gwybod ac yn deall sut mae polisïau diogelu’r ysgol yn effeithio arnynt a beth yw eu hawliau statudol a’u bod yn teimlo’n hyderus i godi unrhyw bryderon sydd ganddynt.
- Bydd hi’n ofynnol i’r perchennog sicrhau bod pawb sydd â chyfrifoldebau arwain a rheoli yn yr ysgol yn mynd ati i hybu llesiant y dysgwyr, gan wella eu hiechyd, eu diogelwch a’u lles yn ogystal â threfniadau llywodraethu’r ysgol. Bydd cyflwyno’r gofyniad newydd hwn yn helpu i fynd i’r afael â bwlch yn y Rheoliadau presennol ac yn sicrhau bod y rhai sydd â chyfrifoldebau arwain a rheoli yn cymryd rôl fwy gweithredol wrth gyflawni eu cyfrifoldebau i hybu llesiant disgyblion.
- Bydd y canllawiau a gyhoeddir i ysgolion annibynnol yn egluro bod hyn yn cynnwys aelodau o’r corff llywodraethu a’r corff perchnogol yn ogystal â gweithwyr sydd mewn swyddi rheoli. Mae hefyd yn ymwneud ag unrhyw un sydd â chyfrifoldebau arwain neu reoli mewn ysgol, ni waeth beth yw teitl eu swydd na’u safle. Bydd cyflwyno’r gofyniad yn caniatáu i Weinidogion Cymru weithredu os yw’n ymddangos bod methiannau yn nhrefniadau rheoli, arwain neu lywodraethu’r ysgol sy’n arwain at roi dysgwyr mewn perygl o niwed.
- Gall fod yn ofynnol i berchennog ysgol nodi mewn cynllun gweithredu pa gamau y bydd yn eu cymryd i fynd i’r afael â phryderon bod arweinyddiaeth yr ysgol yn methu yn ei dyletswydd i hybu lles, iechyd a diogelwch a llesiant dysgwyr. Amlygwyd diffyg gofyniad o’r fath yn y camau gweithredu cyfyngedig a oedd ar gael i Weinidogion Cymru i fynd i’r afael ag ymateb y cyngor rheoli i bryderon diogelu mewn ysgol yn y Gogledd. Roedd y pryderon hyn yn canolbwyntio ar honiadau ynghylch ymddygiad y pennaeth.
- Cafwyd cefnogaeth glir yn yr ymatebion i’r Cais am Dystiolaeth i gryfhau’r gofynion o ran hyfforddiant diogelu. Nodwyd bod hyn yn fwlch difrifol yn y gofynion ar gyfer ysgolion annibynnol gyda rhai ymatebwyr yn datgan y dylai’r gofynion hyfforddi i staff mewn ysgolion annibynnol fod yr un fath ag ar gyfer y sector a gynhelir, gan gynnwys hyfforddiant diogelu gorfodol. Mae’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol hefyd wedi mynd i’r afael â hyfforddiant yn Argymhelliad 4: Hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth, drwy ddweud er enghraifft, “The Department for Education and the Welsh Government should set nationally accredited standards and levels of safeguarding training in schools; and make the highest level of safeguarding training mandatory for headteachers, designated safeguarding leads in England or designated safeguarding persons in Wales, designated safeguarding governors, or the proprietor or head of the proprietorial body.”
- Er mwyn mynd i’r afael â’r gwendidau yn y gofynion presennol ac ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol uchod, bydd y Rheoliadau yn gosod gofynion newydd o dan Safon 3, i greu amgylchedd ym mhob ysgol lle mae gan bawb y lefel briodol o hyfforddiant fel eu bod yn deall polisi diogelu’r lleoliad addysg; yn deall eu cyfrifoldebau ac yn gwybod sut mae ymateb yn effeithiol pan fydd ganddynt bryderon neu pan fydd gwybodaeth yn cael ei datgelu iddynt. Bydd y Rheoliadau yn rhagnodi hynny a bod pob aelod arall o staff, gwirfoddolwyr a dysgwyr yn cael hyfforddiant diogelu priodol. Dylai fod yn ofynnol hefyd i ysgolion roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â diogelu a hyfforddiant diogelu.
- Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod yr angen am hyfforddiant priodol yn ymestyn y tu hwnt i ddarparu hyfforddiant diogelu. Rydym yn ystyried bod llywodraethu da a gweithlu gwybodus sydd wedi’i hyfforddi’n dda yn allweddol i sicrhau lles, iechyd a diogelwch dysgwyr a chodi safonau’n fwy cyffredinol mewn ysgol. Bydd rhagor o gyngor am y mathau o hyfforddiant fyddai i’w disgwyl, a ffynonellau hyfforddiant, yn cael ei ddarparu yn y canllawiau.
- Bydd y Rheoliadau yn gosod gofyniad ar y perchennog i gynnal cofnodion er mwyn dangos bod polisïau’r ysgol yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau a pholisïau perthnasol. Mae polisïau sy’n cael eu hadolygu a’u haddasu’n rheolaidd yng ngoleuni profiad ac arferion da yn sail i ddiogelu effeithiol yn yr ysgol.
Safon 4: addasrwydd perchnogion a staff
- Ar hyn o bryd, ar ôl i wiriadau cychwynnol manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gael eu gwneud ar berchnogion a staff, nid oes gofyniad i ailadrodd y gwiriadau hyn tra byddant yn aros yn eu swyddi. Roedd y mwyafrif o’r ymatebion i’r Cais am Dystiolaeth yn cytuno y byddai cynnal y gwiriadau hyn yn fwy aml yn cyfrannu at wella diogelwch pob dysgwr. O ganlyniad, mae’r Rheoliadau yn cyflwyno gofyniad i ddiweddaru gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bob tair blynedd. Mae swyddogion yn credu y bydd cyflwyno gwiriadau rheolaidd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn rhoi ffocws ar ddiogelu a phwysigrwydd cael mesurau rheolaidd ar waith sy’n cryfhau diogelwch dysgwyr yn barhaus. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ysgolion byrddio, lle mae’r risgiau yn uwch gan fod y disgyblion sy’n byrddio yn aml yn byw yn bell oddi wrth eu teuluoedd, o dan awdurdod oedolion yn yr ysgol, ac yn ddibynnol arnynt am eu lles.
- Mae gofynion y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn amrywio yn dibynnu ar statws y person sy’n cael ei wirio. Er hynny, yn gyffredinol, mae’n ofynnol i’r perchennog gael cadarnhad ysgrifenedig bod pob unigolyn perthnasol wedi cael y gwiriadau priodol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Safon 5: mangreoedd ysgolion a llety byrddio ysgolion
- Bydd y Rheoliadau yn diwygio’r geiriad i’w gwneud yn glir mai’r perchennog sy’n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfio â’r safon hon.
- Mae’r cyfeiriad at ‘anghenion arbennig’ yn y safonau presennol yn cyfeirio at ddisgyblion ag amhariadau, nid disgyblion ag AAA nac ADY. Felly, bydd y geiriad yn newid i “gofynion arbennig” a bydd yn canolbwyntio ar yr angen i adeiladau a’r holl gyfleusterau yn yr ysgol fod yn hygyrch ac yn strwythurol gadarn. Bydd hyn yn sicrhau y gall pob dysgwr ddefnyddio’r adeiladau a’r cyfleusterau yn gyfartal. Dylai dysgwyr ag amhariadau hefyd gael mynediad at ddysgu a gweithgareddau allgyrsiol ar sail gyfartal â phob dysgwr arall.
Safon 6: darparu gwybodaeth
- Bydd y Rheoliadau yn newid y math o fanylion cyswllt y mae’n rhaid i berchnogion ysgolion eu darparu i Lywodraeth Cymru. Maent yn cyflwyno gofyniad i sicrhau bod gwybodaeth benodol ar gael i rieni. Maent hefyd yn mynnu bod rhaid cyhoeddi adroddiadau arolygu ar wefan yr ysgol a’u rhoi ar gael i rieni ac i awdurdodau lleol os ydynt yn gyfrifol am ofalu am ddisgybl yn yr ysgol, cyllido disgybl yn yr ysgol neu gynnal Cynllun Datblygu Unigol neu ddatganiad ar gyfer disgybl yn yr ysgol. Bydd hyn yn gwella tryloywder i ddisgyblion a rhieni ynghylch ansawdd yr addysg a ddarperir gan ysgolion annibynnol.
- Bydd y Rheoliadau yn ei gwneud hi’n ofynnol bod ysgolion yn cyhoeddi dyddiadau tymhorau ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol ar eu gwefan. Os na all ysgolion gyhoeddi dyddiadau eu tymhorau am nad oes ganddynt wefan, dylai fod yn ofynnol iddynt ddarparu’r wybodaeth hon i Lywodraeth Cymru fel y gellir ei rhannu ag Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
Safon 7: y dull o ymdrin â chwynion
- Bydd y Rheoliadau yn cryfhau trefniadau llywodraethu’r ysgol ac yn gwella lefel yr wybodaeth sydd ar gael i ddisgyblion a rhieni drwy ddiwygio’r geiriad i’w gwneud yn glir mai’r perchennog sy’n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfio â’r safonau. Mae hyn yn cynnwys gofyniad ar berchennog ysgol i gyhoeddi ei weithdrefn gwyno ar wefan yr ysgol neu, pan na fo hynny’n bosibl, i ddarparu copi o’r weithdrefn i ddisgyblion, disgyblion sy’n byrddio a’u rhieni a’i roi ar gael i ddarpar ddisgyblion, darpar ddisgyblion sy’n byrddio a rhieni darpar ddisgyblion neu ddarpar ddisgyblion sy’n byrddio. Yn ogystal, rhaid cadw cofnod o unrhyw gamau a gymerwyd gan yr ysgol o ganlyniad i’r cwynion hynny ac a gawsant eu cadarnhau.
Pwy fydd yn cael eu heffeithio gan y ddeddfwriaeth?
- Bydd y newidiadau yn effeithio ar berchnogion ysgolion annibynnol, eu staff, eu dysgwyr a’u rhieni. Byddant hefyd yn effeithio ar Estyn pan fydd yn cynnal ei archwiliadau ac yn asesu cydymffurfedd â’r safonau.
- Ar gyfer perchnogion, bydd y Rheoliadau yn adlewyrchu mai’r perchennog yw’r endid atebol. Byddant yn codi lefel y disgwyliad o ran ansawdd yr addysg a ddarperir drwy newid ansawdd a safon yr addysgu, o ‘digonol’, ‘boddhaol’ a ‘priodol’ i lefel a fydd yn cyrraedd safon ‘da’ neu ‘effeithiol’. Golyga hyn y bydd gwell darpariaeth yn ofynnol er mwyn sicrhau cydymffurfedd. Bydd yn ofynnol i’r perchennog sicrhau bod pawb sydd â chyfrifoldebau arwain a rheoli yn yr ysgol yn mynd ati i hybu llesiant eu disgyblion, gan gynyddu lefelau iechyd a diogelwch, lles a llywodraethu.
- Bydd y Rheoliadau yn cyflwyno gofyniad ar berchnogion i gynnal cofnod o’r hyfforddiant a ddarperir i staff, gwirfoddolwyr a’r corff llywodraethu er mwyn dangos ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus ar gyfer pawb.
- Mewn perthynas ag athrawon, bydd y Rheoliadau yn gosod gofyniad newydd o dan Safon 3 (lles, iechyd a diogelwch disgyblion) ac yn creu amgylchedd ym mhob ysgol lle mae gan bawb y lefel briodol o hyfforddiant fel eu bod yn deall polisi diogelu’r lleoliad addysg; yn deall eu cyfrifoldebau ac yn gwybod sut mae ymateb yn effeithiol pan fydd ganddynt bryder neu pan fydd gwybodaeth yn cael ei datgelu iddynt.
- Ar gyfer dysgwyr, bydd mesurau diogelu ychwanegol gan y bydd y Rheoliadau yn cyflwyno gofyniad i ddiweddaru gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bob tair blynedd. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y bydd cyflwyno gwiriadau rheolaidd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn rhoi ffocws ar ddiogelu a phwysigrwydd cael mesurau rheolaidd ar waith sy’n cryfhau diogelwch dysgwyr yn barhaus. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ysgolion byrddio, lle mae’r risgiau yn uwch gan fod y disgyblion sy’n byrddio yn aml yn byw yn bell oddi wrth eu teuluoedd, o dan awdurdod oedolion yn yr ysgol, ac yn ddibynnol arnynt am eu lles.
- Bydd ffocws ar yr angen i adeiladau a’r holl gyfleusterau yn yr ysgol fod yn hygyrch, gan sicrhau y gall pob dysgwyr eu defnyddio’n gyfartal. Dylai disgyblion ag amhariadau hefyd gael mynediad at ddysgu a gweithgareddau allgyrsiol ar sail gyfartal â phob dysgwr arall. Nod sylfaenol pob diwygiad rheoleiddiol yw cryfhau diogelu a lles disgyblion drwy sicrhau bod pob aelod o staff yn cael hyfforddiant diogelu ac yn cydymffurfio â’r holl ofynion statudol a gorfodol eraill i ddiogelu lles, iechyd a diogelwch disgyblion.
- Bydd y Rheoliadau yn cryfhau trefniadau llywodraethu’r ysgol ac yn gwella lefel yr wybodaeth sydd ar gael i ddisgyblion a rhieni drwy ddiwygio’r geiriad i’w gwneud yn glir mai’r perchennog sy’n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfio â’r safonau. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i’r ysgol gyhoeddi ei gweithdrefn gwyno ar ei gwefan neu, pan na fo hynny’n bosibl, i ddarparu copi o’r weithdrefn i ddisgyblion, disgyblion sy’n byrddio a’u rhieni a’i roi ar gael i ddarpar ddisgyblion, darpar ddisgyblion sy’n byrddio a rhieni darpar ddisgyblion neu ddarpar ddisgyblion sy’n byrddio. Yn ogystal, rhaid i ysgolion gadw cofnod o unrhyw gamau a gymerwyd ganddynt o ganlyniad i’r cwynion hynny ac a gawsant eu cadarnhau.
- Bydd y Rheoliadau yn cyd-fynd â gwaith arall sy’n cael ei wneud i gyflwyno Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023, a fydd yn rhoi’r pŵer i Gyngor y Gweithlu Addysg i reoleiddio grwpiau ychwanegol o weithwyr proffesiynol, gan gynnwys athrawon mewn ysgolion annibynnol, a’u cynnwys yng nghofrestr y gweithlu addysg. Gyda’i gilydd, bydd hyn yn rhoi lefel uchel o hyder i’r cyhoedd y bydd plant a phobl ifanc sy’n dysgu mewn ysgolion annibynnol yn gwneud hynny mewn amgylchedd diogel.
Ymgynghori
- Cynhaliwyd Galwad am Dystiolaeth cychwynnol rhwng 9 Rhagfyr 2021 a 4 Chwefror 2022 a bydd ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal rhwng Mai a Gorffennaf 2023.
Y Cais am Dystiolaeth
- Ym mis Hydref 2021, gwnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyniad yng nghynhadledd Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru i dynnu sylw at ein cynlluniau i adolygu’r Rheoliadau. Yn dilyn hyn cyhoeddwyd Cais am Dystiolaeth ar 9 Rhagfyr 2021, a chynhaliwyd cyfres o sesiynau ymgysylltu rhithwir ategol ag ysgolion annibynnol, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill fel y Comisiynydd Plant, y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Daeth cyfnod y Cais am Dystiolaeth i ben ar 4 Chwefror 2022. Cafwyd un ar ddeg o ymatebion, a chyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion hynny ar 30 Mawrth 2022. Dangosodd prif ganfyddiadau’r Cais am Dystiolaeth bod y mwyafrif yn cytuno bod angen diweddaru’r Rheoliadau. Dangoswyd hefyd mai’r prif feysydd pryder oedd cryfhau rheoliadau cysylltiedig â llywodraethu a rheoli ysgolion, a sicrhau diogelwch a llesiant dysgwyr. Roeddent yn cefnogi’r cynigion ar gyfer:
- cryfhau’r gofynion sy’n ymwneud â hyfforddiant diogelu ar gyfer staff, arweinwyr ysgolion, a dysgwyr
- ystyried pwy ddylai ymgymryd â gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chynnal y gwiriadau hynny yn fwy aml, hy bob tair blynedd
- cryfhau’r Rheoliadau i sicrhau bod ysgolion yn mynd ati i hybu diogelu dysgwyr
- diwygio’r geiriad mewn safonau i’w gwneud yn glir mai’r perchennog sy’n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfio
- trafod y gwaith o ddatblygu fframwaith ymyriadau a chamau gorfodi rhwng yr adeg pan na fydd cynllun gweithredu yn datrys y methiant i gydymffurfio â’r safonau a’r adeg pan fydd ysgol yn cael ei thynnu oddi ar y gofrestr
- cysoni’r Rheoliadau â’r gofyniad sydd ar ddod i staff gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg
- gwneud set newydd o reoliadau, sef Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli) (Cymru) 2023
- Ym mis Medi 2022, gwnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyniad arall am y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yng nghynhadledd Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru.
- Hefyd, comisiynwyd Estyn gan Lywodraeth Cymru i gynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid ym mis Ionawr 2023, gyda’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o’r newidiadau arfaethedig ac annog y rhai a oedd yn bresennol i leisio eu barn yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Yn ystod y sesiynau hyn, rhoddwyd manylion y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig i’r rhanddeiliaid, ynghyd â chyfle i wneud sylw arnynt.
Ymgynghoriad Ffurfiol
- Bydd ymgynghoriad wyth wythnos ar y Rheoliadau drafft a’r canllawiau ategol yn rhedeg rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2023. Mae hwn yn ymgynghoriad byrrach na’r rhai y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnal fel arfer. Fodd bynnag, mae hynny’n gyfiawn yn rhinwedd yr ymgysylltu helaeth sydd eisoes wedi digwydd gyda’r sector, ee y Cais am Dystiolaeth a’r digwyddiadau rhanddeiliaid a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2023. Tynnwyd sylw cynulleidfa eang o randdeiliaid allweddol at yr ymgynghoriad, gan gynnwys ysgolion, awdurdodau lleol, Comisiynydd Plant Cymru, Estyn a’r undebau addysgu.
Risgiau peidio â gwneud yr is-ddeddfwriaeth hon
- Pe na bai’r Rheoliadau a’r canllawiau ategol yn cael eu gwneud, byddai’r pryderon mewn perthynas â chadernid mesurau diogelu mewn ysgolion annibynnol ac ansawdd y rheoli yn parhau.
- Byddai methiant i gryfhau ansawdd safonau addysg yn rhoi dysgwyr mewn risg o ddeilliannau gwael; byddai methu mynd i’r afael â’r bylchau mewn mesurau diogelu a chryfhau llywodraethu ysgolion yn gallu peryglu lles, iechyd a diogelwch plant a phobl ifanc sy’n dysgu mewn ysgolion annibynnol yng Nghymru. Bydd y newidiadau deddfwriaethol, ynghyd â’r gwaith o ddatblygu fframwaith ymyrryd, gyda’i gilydd yn ceisio codi safonau a helpu i fynd i’r afael â’r bwlch deddfwriaethol sy’n bodoli i Weinidogion Cymru o fod heb bwerau ymyrryd digonol.
- Mae risg i enw da Gweinidogion Cymru hefyd, gan fod methiant i ddarparu’r newidiadau rheoleiddiol hyn yn debygol o ddenu beirniadaeth bellach gan Gomisiynydd Plant Cymru pe na bai’r Rheoliadau yn llwyddo i fynd i’r afael â’u hargymhellion yn ddigonol.
Rhan 2: asesiad effaith rheoleiddiol
- Mae ugain mlynedd bron ers i’r mwyafrif o reoliadau llywodraethu ysgolion annibynnol gael eu gwneud. Dros y cyfnod hwnnw, mae nifer o ddiffygion wedi dod i sylw Llywodraeth Cymru. Mae arolygiadau craidd gan Estyn wedi nodi achosion niferus o ysgolion yn methu cydymffurfio â’r safonau yn Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003 mewn perthynas ag ansawdd yr addysg a ddarperir, a lles, iechyd a diogelwch disgyblion.
- Mae Estyn wedi gwneud nifer o arsylwadau yn ei adroddiadau blynyddol mewn perthynas ag ysgolion annibynnol. Er enghraifft, pan fo ysgolion yn methu cyrraedd yr ansawdd a ddisgwylir o ran y safonau addysg, gwraidd y broblem yn aml yw nad oes gan staff ddigon o wybodaeth i gynllunio’n effeithiol ar gyfer cefnogi cynnydd disgyblion mewn dysgu. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyrhaeddiad blaenorol disgyblion sy’n golygu nad yw’r ysgol yn gallu cynllunio’n ddigon da i helpu disgyblion i wneud cynnydd yn unol â’u gallu. Nid yw cynnydd yn cael ei asesu’n iawn ychwaith fel rhan o broses barhaus, ac mae angen i'r broses honno fwydo’n ôl i wersi.
- Mae’r safon sy’n ymwneud â lles, iechyd a diogelwch disgyblion yn canolbwyntio ar ba mor bwysig yw ysgol sy’n darparu amgylchedd diogel ar gyfer dysgu a datblygu. Mae rhai o’r pethau y mae ysgolion sy’n methu cydymffurfio â’r safon hon yn eu gwneud yn cynnwys peidio â dadansoddi a lliniaru risgiau i ddisgyblion, peidio â sefydlu na gweithredu polisïau sy’n darparu ar gyfer lles disgyblion pan fyddant yn yr ysgol, a pheidio â sicrhau bod gan ddisgyblion fynediad at adnoddau lles y tu allan i oriau ysgol. Mae’r bylchau yn y trefniadau diogelu presennol a’r cysylltiadau â’r gwendidau uchod yn nhrefniadau llywodraethu ysgolion wedi bod yn achos pryder penodol.
- Mae’r diffygion hyn yn y fframwaith rheoleiddio wedi’u cydnabod gan Weinidogion Cymru drwy ymatebion i adolygiad Comisiynydd Plant Cymru o sut mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau o dan adran 72 o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Gwnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod yr angen am ddiwygiadau sylfaenol i ddiweddaru’r system reoleiddio ar gyfer ysgolion annibynnol.
- Cafodd yr un ymrwymiad i adolygu’r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol ei wneud yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion yn Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2021.
- Edrychodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol ar achosion o gam-drin plant yn rhywiol mewn ysgolion preswyl yn y sector a gynhelir a’r sector annibynnol. Roedd y dystiolaeth a roddwyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2020 yn cydnabod bod gwendidau yn y Rheoliadau presennol. Cyhoeddodd yr ymchwiliad ei adroddiad ar 1 Mawrth 2022 a, lle y bo’n gymwys, mae’r argymhellion wedi’u hystyried wrth ddatblygu’r Rheoliadau hyn.
- Yn unol â bwriad y polisi, yr adborth a gafwyd, a’r dystiolaeth a gasglwyd yn rhan o’r Cais am Dystiolaeth, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o’r fframwaith deddfwriaethol presennol.
- Mae rhai o’r Rheoliadau wedi’u diwygio ers iddynt gael eu gwneud, ond mae rhai wedi dyddio ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu’r arferion da, y canllawiau a’r polisïau cyfredol. Cynigir diwygiadau i fynd i’r afael â’r bylchau hyn, er enghraifft, dileu cyfeiriadau at ddogfennau penodol yn ôl enw o’r Rheoliadau ac yn eu lle roi cyfeiriadau at fwriad polisi y canllawiau er mwyn sicrhau bod y Rheoliadau’n addas at y dyfodol a chadw’r geiriad yn gyfredol. Mae rhywfaint o’r geiriad yn y Rheoliadau hefyd wedi’i newid i adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd mewn perthynas ag iaith yn ymwneud â rhywedd.
- Mae pa mor aml y mae ysgolion yn methu cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003, ac yn benodol y rhai sy’n ymwneud ag ansawdd yr addysg a ddarperir, a lles, iechyd a diogelwch disgyblion, yn dangos angen am ddiwygio’r Rheoliadau. Yn y pum mlynedd ers blwyddyn academaidd 2015 i 2016, mae Estyn wedi ymgymryd â 150 o ymweliadau (50 o arolygiadau craidd, 90 o ymweliadau monitro a 15 o ymweliadau â ffocws mewn ysgolion annibynnol). Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol i ysgol ddarparu cynllun gweithredu ôl-arolygu ar tua un rhan o dair o’r achlysuron hyn.
- Nod y cynllun gweithredu yw mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed gan Estyn yn ei adroddiadau arolygu. Er enghraifft, bydd geiriad y gofynion yn Safon 1 yn cael ei newid – codi lefel y disgwyliad o ran ansawdd yr addysg a ddarperir drwy newid ansawdd a safon yr addysgu, o ‘digonol’, ‘boddhaol’ a ‘priodol’ i lefel a fydd yn cyrraedd safon ‘da’ neu ‘effeithiol’.
- Mae arolygiadau wedi nodi enghreifftiau lle mae ysgol wedi gwneud newidiadau i’r manylion a geir yn ei chofrestriad heb fod wedi gwneud cais amdanynt a heb iddynt fod wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn unol â’r broses a bennwyd. Gall hyn arwain at ysgol yn torri telerau ei chofrestriad.
- Pan fydd methiannau difrifol, lluosog neu niferus gan ysgol annibynnol i fodloni un neu ragor o'r safonau, gall y dystiolaeth awgrymu bod hyn oherwydd gwendidau yn strwythur rheoli a phrosesau llywodraethu yr ysgol. Pan fo angen gwelliannau yn y maes hwn mae hynny fel arfer oherwydd nad yw gweithgareddau cynllunio gwelliannau a hunanwerthuso yn ddigon trylwyr ac nad yw’r prosesau sicrhau ansawdd yn ddigon cadarn i sicrhau y gall arweinwyr nodi cryfderau’r ysgol a’r meysydd i'w datblygu yn fanwl. Mae hyn yn golygu nad yw blaenoriaethau allweddol yn cael eu nodi’n ddigon da, ac nad yw’r cynllunio yn ddigon effeithiol i gryfhau’r ddarpariaeth a gwella deilliannau i ddysgwyr. Mae llawer o’r newidiadau arfaethedig i’r Rheoliadau wedi’u dylunio i fynd i’r afael â’r meysydd pryder hyn a nodwyd.
- Ar wahân i hynny, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio delio, drwy’r canllawiau, â bwlch posibl yn y ddarpariaeth ddeddfwriaethol bresennol mewn perthynas â phwerau Gweinidogion Cymru rhwng yr adeg pan nad yw cynllun gweithredu ôl-arolygu yn datrys pryderon ac adeg y gosb derfynol o dynnu ysgol oddi ar y gofrestr. Tynnwyd sylw at gyfyngiadau’r camau gweithredu sydd ar gael i Weinidogion Cymru ar gyfer delio â phryderon difrifol mewn ysgol yn y Gogledd yn 2021 i 2022. Gellir gosod cyfyngiadau i gau rhan o’r lleoliad neu i atal derbyn disgyblion newydd, ond nid yw’r rhain o reidrwydd yn mynd i’r afael â sefyllfaoedd pan fydd y pryderon yn ymwneud ag ymddygiad staff, sut mae’r ysgol yn cael ei rheoli, neu iechyd, diogelwch a lles dysgwyr yn yr ysgol.
- Ni allwn ragnodi pwerau na sancsiynau ychwanegol y tu hwnt i ddatblygu deddfwriaeth sylfaenol newydd. Er hynny, cynigir datblygu, fel rhan o’r ddogfen ganllaw, fframwaith ymyrryd a gorfodi clir gyda gweithdrefnau clir ar gyfer sicrhau cydymffurfedd â chamau gweithredu ac amserlenni penodol, gyda manylion y sancsiynau posibl y gallai Llywodraeth Cymru eu gosod.
Opsiynau
Opsiwn 1: Gwneud dim
- Pe bai’r ddeddfwriaeth yn parhau heb ei newid, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod potensial o hyd i beryglu diogelwch dysgwyr. Rhaid i ddiogelu plant a phobl ifanc ym mhob lleoliad fod yn flaenoriaeth ac mae diwygio’r Rheoliadau yn un cam tuag at hyn. Hefyd, byddai risg o niweidio enw da Gweinidogion Cymru pe na baent yn gweithredu ar argymhellion Comisiynydd Plant Cymru a’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol i wella trefniadau diogelu.
Opsiwn 2: Gwneud rhai newidiadau deddfwriaethol
- Mae gwneud rhai newidiadau deddfwriaethol yn opsiwn. Fodd bynnag, byddai’r effaith yn dibynnu ar ba newidiadau yn union a wneir. Gallem, er enghraifft, ganolbwyntio yn syml ar gael perchnogion i gadw cofnod o hyfforddiant a ddarperir i staff, cyrff llywodraethu a gwirfoddolwyr. Neu, gallem ganolbwyntio ar gael ysgolion i gyhoeddi eu dyddiadau tymhorau ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol ar eu gwefan. Er hynny, rhaid inni ganolbwyntio ar ddiogelu dysgwyr fel ein prif flaenoriaeth yma; a dyna ydym wedi’i ddehongli fel ‘gwneud rhai newidiadau deddfwriaethol’, drwy wiriadau rheolaidd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a hyfforddiant diogelu i staff.
Opsiwn 3: Gwneud y ddeddfwriaeth yn llawn
- Drwy ddiwygio’r Rheoliadau yn llawn, bydd Llywodraeth Cymru nid yn unig yn cryfhau’r ddeddfwriaeth bresennol, ond bydd hi hefyd yn gallu mynd i’r afael ag argymhellion Comisiynydd Plant Cymru a’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn ysgolion annibynnol yn cael eu diogelu’n briodol a bod safonau dysgu a llywodraethu uchel yn bodoli yn y lleoliad hwnnw.
Costau a manteision
Opsiwn 1: Gwneud dim
Costau
- Mae’r risgiau o ran cyllid ac enw da sy’n gysylltiedig ag anwybyddu’r diffygion hysbys hyn yn y gyfundrefn reoleiddio bresennol, ac argymhellion Comisiynydd Plant Cymru a’r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol, yn rhy uchel i’w hanwybyddu. Mae hyn yn arbennig o wir pe bai plentyn neu berson ifanc yn cael ei niweidio a hithau yn hysbys bod y ddeddfwriaeth sy’n fod i’w diogelu yn ddiffygiol. Ni fyddai’r opsiwn hwn felly yn bodloni bwriad y polisi.
Manteision
- Nid oes gan yr opsiwn hwn fanteision.
Opsiwn 2: Gwneud rhai newidiadau deddfwriaethol
Costau
- Mae costau gwneud rhai newidiadau deddfwriaethol yn debyg ar y cyfan i gostau gwneud yr ystod lawn o newidiadau deddfwriaethol o ran amser swyddogion Llywodraeth Cymru a hefyd costau i’r sector am bethau fel ymgyfarwyddo a gweithredu. Byddai’r costau hyn, a nodir yn Opsiwn 3, yn effeithio ar wahanol ysgolion mewn gwahanol ffyrdd, gan ddibynnu ar ba mor agos i’r safonau diwygiedig y maent hwy eisoes.
Manteision
- Mae manteision cyflwyno rhai newidiadau deddfwriaethol yn debyg i’r rhai a nodir yn Opsiwn 3, ond ar raddfa lai. Byddai gwneud rhai newidiadau cyfyngedig i’r gyfundrefn reoleiddio bresennol drwy, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol cynnal gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn fwy aml, yn gallu arwain at welliannau o ran diogelwch uwch i ddysgwyr. Er hynny, ni fyddai hyn yn mynd i’r afael â’r diffygion a amlygwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru nac yn adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
Opsiwn 3: Gwneud y newidiadau deddfwriaethol yn llawn
Costau
- Mae nifer o wahanol gostau yn gysylltiedig â’r opsiwn hwn.
- Yn gyntaf, mae costau sydd i’w priodoli i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Rheoliadau a’r canllawiau cysylltiedig, yn enwedig y gost yr aiff swyddogion polisi a’r gyfraith iddi wrth eu datblygu a chost y wefan sy’n lletya’r canllawiau hyn. Mae’r ddogfen ganllaw hon wedi’i datblygu o dan gontract ag Estyn sy’n dod i gyfanswm o £30,000. Mae’r contract hwn yn cwmpasu’r gwaith o ddatblygu’r canllawiau, cynnal nifer o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth rhanddeiliaid a llunio’r ddogfen ymgynghori ar y newidiadau rheoleiddiol drafft i’r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol. O ran y costau am amser swyddogion i ddatblygu’r Rheoliadau hyn a’r dogfennau ategol, bydd y cyllidebau presennol yn talu am y rhain.
- Mae’r costau am yr amser y bydd swyddogion yn ei dreulio yn cyfieithu’r Rheoliadau drafft, y ddogfen ymgynghori a’r canllawiau cysylltiedig yn cael eu talu o gyllidebau presennol Llywodraeth Cymru, yn benodol o gyllideb yr Uned Cyfieithu Deddfwriaethol ac o ganlyniad yn dod o fewn y gweithgarwch rhedeg busnes arferol.
- Ni fydd effeithiau’r Rheoliadau drafft yn arwain at unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ond ni fydd unrhyw gostau i’r ysgolion annibynnol eu hunain. Bydd y rhain yn cynnwys y costau sy’n gysylltiedig â’r angen i berchnogion, penaethiaid ac athrawon ymgyfarwyddo â’r canllawiau. Fodd bynnag, er y bydd angen i benaethiaid a pherchnogion ymgyfarwyddo â gofynion y Rheoliadau diwygiedig, nid yw llywodraethwyr yn cael eu cyflogi fel arfer. O ran athrawon a phenaethiaid, mae eu cyflogau hwy yn gost sefydlog.
- Nid yw’n bosibl nodi’r costau yn fanwl ar gyfer y gwaith ymgyfarwyddo hwnnw gan fod pob ysgol annibynnol yn ymrwymo i berthynas gontractiol â’i staff ac felly bydd costau staff yn amrywio o ysgol i ysgol. Yn yr un modd, gan fod ysgolion annibynnol yn amrywio’n fawr o ran maint, nid yw’n bosibl nodi’n fanwl nifer cyfartalog y staff fesul ysgol. Mae swyddogion yn credu na fyddai’n cymryd mwy na hanner awr o amser perchennog, pennaeth neu athro i ymgyfarwyddo â gofynion y Rheoliadau.
- O ran y costau sy’n gysylltiedig â mangreoedd, efallai y bydd angen i rai ysgolion annibynnol ymbaratoi neu addasu eu mangreoedd fel eu bod yn bodloni’r gofynion ar gyfer hygyrchedd i bob disgybl. Bydd hyn yn amrywio o ysgol i ysgol gan ddibynnu ar eu trefniadau presennol; ar gyfer ysgolion sydd eisoes yn hygyrch bydd y costau yn isel, ond bydd y costau’n llawer uwch i’r rhai sydd angen gwneud addasiadau. Nid yw Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid cyfalaf i ysgolion annibynnol. Busnesau preifat ydynt ac nid ydynt yn gymwys i wneud cais am gyllid cyfalaf drwy’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
- Bydd costau rheolaidd yn cynnwys hyfforddiant – gyda phob aelod o staff, er enghraifft, angen hyfforddiant diogelu a chydymffurfio â phob gofyniad statudol a mandadol arall i ddiogelu lles, iechyd a diogelwch disgyblion; staff mewn rolau arwain a rheoli yn mynd ati i hybu llesiant dysgwyr; a pherchnogion yn cynnal cofnod o’r hyfforddiant a ddarperir i staff, gwirfoddolwyr a’r corff llywodraethu i ddangos ymrwymiad i ddysgu proffesiynol parhaus i bawb. Fodd bynnag, mae eisoes ddisgwyliad o dan y safonau presennol y bydd gan ysgolion annibynnol brosesau addas yn eu lle i sicrhau bod plant yn ddiogel, felly disgwylir mai costau bach iawn fydd y rhain.
- Bydd y Rheoliadau yn rhoi beichiau gweinyddol ychwanegol ar ysgolion annibynnol – er enghraifft, bydd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi dyddiadau tymhorau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol ar eu gwefannau a’i gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi eu gweithdrefnau delio â chwynion ar eu gwefannau. Ni ddisgwylir i hyn greu llawer o waith ychwanegol o ystyried bod y trefniadau hyn eisoes yn eu lle gan y rhan fwyaf o ysgolion annibynnol.
- Un maes amlwg lle bydd costau ychwanegol i ysgolion annibynnol yw o ran ychwanegu at y rhai a ddylai fod yn ddarostyngedig i wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chynnal y gwiriadau hynny yn fwy aml. Bydd y Rheoliadau yn cyflwyno gofyniad i adnewyddu gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bob tair blynedd, sy’n arwain at gostau i’r ysgol.
- Nid yw’n bosibl nodi’n union faint fydd y costau ychwanegol ar draws y sector, oherwydd mae ymestyn a chynyddu gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd eisoes yn arfer effeithiol mewn rhai ysgolion annibynnol. Er enghraifft, efallai bod yr ysgolion hynny eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i lywodraethwyr ymgymryd â’r gwiriadau hyn ac yn adnewyddu’r gwiriadau ar gyfer pob aelod o staff cysylltiedig bob tair blynedd. Ar gyfer yr ysgolion hyn, ychydig o gostau, os o gwbl, fydd yn deillio o’r Rheoliadau diwygiedig hyn. Mewn ysgolion eraill nad yw’r trefniadau hyn ar waith ganddynt eisoes, bydd y costau yn gyfatebol uwch.
- Mae’r Rheoliadau yn cyflwyno gofyniad newydd i adnewyddu gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd bob tair blynedd. Er hynny, ni fydd Llywodraeth Cymru yn rhagnodi sut y gwneir hynny. Felly, bydd hi’n ddyletswydd ar bob ysgol i benderfynu a wneir y gwiriadau drwy wasanaeth diweddaru y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (ar hyn o bryd yn £13 y person, y flwyddyn = yn cyfateb i £39 dros 3 blynedd) ynteu drwy wiriad newydd bob tair blynedd (ar hyn o bryd yn £44 = yn cyfateb i £14.66 y flwyddyn).
- Felly mae’n anodd iawn cyfrifo’r costau gwirioneddol gan fod cynifer o newidynnau mewn ysgolion unigol ar draws y sector. Er enghraifft, efallai y bydd angen i nifer o ysgolion gyflwyno gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i lywodraethwyr, ond efallai na fydd y costau hyn yn berthnasol i eraill gan nad oes ganddynt lywodraethwyr neu’r hynny sy’n cyfateb iddynt. Hefyd, bydd y gost yn amrywio yn dibynnu ar nifer y staff a gyflogir, er enghraifft rhai ysgolion mwy o faint a chanddynt niferoedd mawr o staff angen y gwiriadau hyn, ac ysgolion eraill llai o faint a chanddynt lawer llai o staff angen y gwiriadau. Hefyd, efallai y bydd angen i oblygiadau o ran cost y gwiriadau ychwanegol hyn gael eu hystyried ochr yn ochr â ffactorau cysylltiedig ag incwm ffioedd a osodir yn eu herbyn, fel lleoliadau sydd, er enghraifft, yn codi ffioedd uwch, â statws elusennol, yn gweithredu fel cwmni nid-er-elw, etc.
- Bydd costau monitro a gorfodi cyfyngedig i Estyn, yn gysylltiedig â sicrhau bod ysgolion annibynnol yn cydymffurfio â’r gofynion newydd. Fodd bynnag, gan ei bod hi eisoes yn ofynnol i Estyn wirio yn erbyn cydymffurfedd â’r gyfundrefn reoleiddio bresennol, mae Estyn wedi cadarnhau mai bach iawn fydd y costau hyn.
- Mae gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid yn parhau er mwyn deall orau beth allai cyfanswm y costau hyn fod, a bydd y Memorandwm Esboniadol hwn yn cael ei ddiweddaru yn dilyn yr ymgynghoriad. Bydd costau i ysgolion annibynnol o ganlyniad i’r newidiadau deddfwriaethol yn y Rheoliadau hyn, ond yr ysgolion eu hunain sydd i sicrhau eu bod yn gweithredu eu busnesau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â gofynion y Rheoliadau. Mae hi hefyd yn hollbwysig nodi bod y gwelliannau i brosesau llywodraethu ysgolion a’r gwell trefniadau diogelu i blant a phobl ifanc mewn ysgolion annibynnol yn llawer pwysicach na’r costau.
Manteision
- Mae manteision cyflwyno’r Rheoliadau yn llawn yr un fath ag a nodwyd yn flaenorol.
- Mae diwygio’r Rheoliadau yn un o elfennau hanfodol sicrhau y cynhelir ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y sector ysgolion annibynnol yng Nghymru; yn ogystal â diogelu buddiannau plant a phobl ifanc sy’n dysgu yn y lleoliad annibynnol. Bydd cydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio diwygiedig yn rhoi sicrwydd i ddisgyblion a rhieni bod lleoliad yr ysgol annibynnol yn ddiogel. Hefyd, bydd y Rheoliadau yn helpu i ennyn hyder ymysg y gweithlu ei hun o ran cynnal safonau proffesiynol. Mae hynny yn ei dro yn cyfrannu at wella safon yr addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru.
Crynodeb o ganfyddiadau proses yr Asesiad Effaith Integredig
Y Gymraeg
- Nid oes disgwyl i’r newidiadau deddfwriaethol i’r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol gael unrhyw effeithiau, negyddol na chadarnhaol, ar y Gymraeg. Mae Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg wedi’i lunio.
Hawliau Plant
- Bydd y newidiadau deddfwriaethol yn arwain at well trefniadau diogelu mewn ysgolion annibynnol yng Nghymru ac felly yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cadw’n ddiogel. Nid oes unrhyw oblygiadau negyddol wedi’u nodi. Mae Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant wedi’i lunio.
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Plant a phobl ifanc yw’r grŵp a fydd yn elwa ar y trefniadau diogelu ychwanegol a roddir yn eu lle drwy’r newidiadau deddfwriaethol hyn, a fydd yn sicrhau bod mesurau cofrestru a chydymffurfio llym a gaiff eu monitro yn cael eu gorfodi drwy ddeddfwriaeth ac archwiliad. Bydd y Rheoliadau hyn yn helpu i sicrhau bod merched a menywod ifanc ac aelodau o’r gymuned LHDTRh, sydd ymysg y bobl sydd fwyaf tebygol o wynebu pryderon diogelwch, sy’n dysgu mewn lleoliad ysgol annibynnol, wedi’u diogelu’n well yn sgil trefniadau diogelu mwy effeithiol. Nid oes unrhyw effeithiau negyddol ar unrhyw ran o gymdeithas â nodweddion gwarchodedig wedi’u nodi. Hefyd, bydd y newidiadau deddfwriaethol yn cael effaith gadarnhaol ar blant anabl gan eu bod yn cyflwyno gofyniad i fangreoedd ysgol fod yn gwbl hygyrch i bob disgybl. Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i gwblhau.
Preifatrwydd
- Mae ysgolion annibynnol eisoes yn darparu i Lywodraeth Cymru wybodaeth am eu gweithrediad fel rhan o’r cyfrifiad ysgolion blynyddol. Mae’r newidiadau deddfwriaethol i’r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol yn gosod ychydig o ofynion ychwanegol ar ysgolion annibynnol i gyflenwi gwybodaeth yn rhan o’r cyfrifiad ysgolion blynyddol ond ni fydd yn arwain at gadw’r wybodaeth bresennol mewn ffordd arall.
Asesiad o’r Effaith ar Gyfiawnder
- Mae’r newidiadau deddfwriaethol i’r Rheoliadau Ysgolion Annibynnol yn gyfystyr â dirymu a disodli dwy set o reoliadau a gwneud un set bellach. Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol newydd yn cael ei chyflwyno, nac unrhyw droseddau yn cael eu creu, eu dileu na’u diwygio. Mae lle i apelau newydd i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf ar wneud y Rheoliadau Gwaharddiad ar Gymryd rhan mewn Rheoli gan y bydd apelau adran 167B yn gymwys. Ni fydd y Rheoliadau drafft yn arwain at unrhyw effaith arall ar y system gyfiawnder. Mae disgwyl i nifer y cyfarwyddydau a wneir a'r apelau dilynol fod yn isel iawn. O ganlyniad i hynny nid ystyrir bod Asesiad o’r Effaith ar Gyfiawnder yn angenrheidiol.
Asesu’r gystadleuaeth
- Nid oes unrhyw oblygiadau o ran y farchnad yn gysylltiedig â gwneud y newidiadau deddfwriaethol hyn. Bydd effaith ariannol gyfyngedig ar ysgolion annibynnol, ond nid oes unrhyw effaith o safbwynt cystadleuol.
Adolygiad ôl-weithredu
- Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Estyn i fonitro, adolygu a gwerthuso’r rheoliadau yn dilyn dyddiad dod i rym y newidiadau rheoleiddiol hyn. Nod y ffordd hon o weithredu fydd mesur effeithiolrwydd y Rheoliadau diwygiedig a gweld eu gwir effaith ac, yn benodol, a yw nodau’r polisi yn cael eu cyflawni.
- Fel y corff cofrestru, caiff Llywodraeth Cymru, unrhyw amser, ei gwneud yn ofynnol i Estyn arolygu unrhyw ysgol gofrestredig mewn perthynas ag unrhyw un neu bob un o’r Safonau Ysgol Annibynnol. Bydd hi’n ofynnol i Estyn adrodd i Lywodraeth Cymru ynghylch i ba raddau y mae’r ysgol yn bodloni’r Safonau Ysgol Annibynnol a threfnu i gyhoeddi’r adroddiad arolygu pe bai angen.
- Diben yr adolygiad fydd asesu pa un a lynir wrth y Rheoliadau ac a ydynt yn addas i’r diben. Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru fydd yn gyfrifol am gynnal y gwaith adolygu hwn yn eu harolygiadau nesaf. Bydd yr adolygiad yn un parhaus oherwydd, ym mhob cyfarfod tymhorol rhwng Llywodraeth Cymru, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru, bydd yr arolygiaeth yn darparu rhaglen o’r arolygiadau sydd wedi’u trefnu ar gyfer ysgolion annibynnol ar gyfer y tymor a ganlyn. Ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru, mae hyn yn cynnwys ysgolion arbennig preswyl a byrddio a, phan fo modd, cartrefi gofal ar gyfer plant sy’n gysylltiedig â darpariaeth ysgolion arbennig annibynnol.
- Bydd Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd yn darparu cyngor bob tymor ar gyhoeddi amserlen ar gyfer adroddiadau arolygu adran 163 a nodiadau ymweliadau monitro blynyddol. Bydd hyn yn galluogi swyddogion i roi gwybod i Weinidogion Cymru am unrhyw faterion dadleuol cyn i’r adroddiad ddod ar gael i’r cyhoedd, ac i ddechrau ar unrhyw gamau gweithredu dilynol sydd eu hangen.
Crynodeb
- Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i Opsiwn 3, sef gwneud y newidiadau deddfwriaethol yn llawn. Bydd mabwysiadu’r dull hwn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn y sector ysgolion annibynnol yn cael y manteision mwyaf o ran gwell diogelwch a llesiant. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddangos eu bod yn cydymffurfio ag argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol a rhai Comisiynydd Plant Cymru.