Daeth yr ymgynghoriad i ben 6 Mai 2024.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.
Er ei bod yn cymryd mwy o amser nag arfer inni gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion, ein nod yw ei gyhoeddi cyn gynted â phosib.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym eisiau eich barn ar y ffordd y mae pryderon a chwynion am ofal y GIG yn cael eu codi, eu harchwilio ac ymateb iddynt.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori: fersiwn hawdd ei darllen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r broses Gweithio i Wella’n bwriadu:
- gosod cleifion yng nghalon y broses
- gwella’r ffocws ar gyfathrebu tosturiol sy'n canolbwyntio ar gleifion
- gwella’r broses Gweithio i Wella i fod yn fwy cynhwysol
- cynnwys proses uwchgyfeirio am bryderon brys am gam-drin neu niwed bwriadol
- darparu atebion ar ôl i rywun farw
- ailwampio’r trefniadau i ddarparu cyngor cyfreithiol am ddim ac adroddiadau arbenigwyr meddygol
Cewch ddarllen y ddeddfwriaeth bresennol sy’n llywodraethu’r broses Gweithio i Wella.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau am drin a thrafod pryderon i staff sy’n gweithio yn y GIG.
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.