Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn ceisio eich barn ar newidiadau i’r fframwaith i apelio yn erbyn y Dreth Gyngor yng Nghymru.

Sut i ymateb

Ymgynghoriad yn cau:
3 Ebrill 2025
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar:

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i wella’r broses apelio a rhoi mwy o dryloywder, bwriadwn wneud y newidiadau canlynol:

  • Diffinio cyfrifoldebau gweithredol pob sefydliad yn glir, sef Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru, er mwyn helpu trethdalwyr i ddeall yn well pwy sy’n gwneud beth a phryd.
  • Galluogi Asiantaeth y Swyddfa Brisio i roi data ar eu heiddo eu hunain i drethdalwyr ynghyd ag unrhyw dystiolaeth sydd ar gael a ddefnyddiwyd i benderfynu ar eu bandiau yn gynharach yn y broses, gan felly roi mwy o dryloywder a galluogi pobl i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth mor gynnar â phosibl. 
  • Sicrhau bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru yn nodi’n glir y dewisiadau a’r camau nesaf mewn gohebiaeth â’r trethdalwr a’u bod yn rhoi opsiwn i drethdalwyr dynnu’n ôl ar ôl edrych ar y data ar yr eiddo a’r dystiolaeth a ddarparwyd. 
  • Cael gwared ar y broses o atgyfeirio cynnig heb ei benderfynu at Dribiwnlys Prisio Cymru yn awtomatig, gan roi ymreolaeth i drethdalwyr benderfynu pa mor bell i mewn i’r broses y maent am fynd. 

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 3 Ebrill 2025, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Ffurflen ar-lein

Post

Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.

Cwblhewch a dychwelwch i:

Polisi’r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ