Daeth yr ymgynghoriad i ben 19 Mai 2024.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod eich barn am gynigion ac opsiynau i ddiwygio rheolau rhyddhadau y dreth trafodiadau tir (TTT).
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar gynigion i:
- ddiddymu rhyddhad anheddau lluosog y TTT
- ehangu un o ryddhadau presennol TTT i awdurdodau lleol yng Nghymru pan fyddant yn prynu eiddo at ddibenion tai cymdeithasol
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn ar y rheolau sy'n gysylltiedig â phrynu chwe annedd neu fwy mewn un trafodiad, a rhyddhadau eraill TTT.