Daeth yr ymgynghoriad i ben 29 Mawrth 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 yn darparu canllaw ar ystyried effeithiau ar ddefnydd o'r Gymraeg wrth gynllunio datblygu ac wrth reoli datblygu.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Polisi Cynllunio Cymru a TAN 20 yn datgan fod y Gymraeg yn ystyriaeth yn y system gynllunio. Mae’r newidiadau i TAN 20 yn cael eu cynnig yn sgil dod â darpariaethau Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 i rym.
Mae’r prif newidiadau arfaethedig yn ymwneud â’r materion canlynol:
- Y cyswllt rhwng cynllunio ar gyfer y Gymraeg mewn cynllunio defnydd tir a chynllunio cymunedol
- egluro y gellir ystyried effeithiau ar y Gymraeg lle mae’n berthnasol i’r cais
- galluogi awdurdodau cynllunio lleol i wneud asesiad effaith ieithyddol mewn rhai amgylchiadau penodol.
Rydym am glywed barn awdurdodau cynllunio lleol datblygwyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch a yw’r diwygiadau i’r TAN yn rhoi eglurdeb ar oblygiadau darpariaethau yn y Ddeddf Cynllunio (Cymru) ar gynllunio a’r Gymraeg.