Newid i'r corff dynodedig sy'n goruchwylio Arolygwyr Cymeradwy (WGC 008/2024)
Dynodi pŵer i reoleiddio Arolygwyr Cymeradwy yn ystod cyfnod pontio diogelwch adeiladu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cylchlythyr rheoliadau adeiladu
Rhif y cylchlythyr: WGC 008/2024
Dyddiad cyhoeddi: 21/05/2024
Statws: Er gwybodaeth
Teitl: Newid i'r corff dynodedig sy'n goruchwylio Arolygwyr Cymeradwy
Cyhoeddwyd gan: Kevin Davies, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheoli Adeiladu
Ar gyfer:
Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Cymdeithas yr Arolygwyr Corfforaethol Cymeradwy
I'w anfon ymlaen at:
Swyddogion Rheoli Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau Senedd Cymru
Crynodeb:
Dynodi pŵer i reoleiddio Arolygwyr Cymeradwy yn ystod cyfnod pontio diogelwch adeiladu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru
Merthyr Tudful
CF10 3NQ
Llinell uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: Adeiladu a chynllunio
Cyflwyniad
- Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i dynnu eich sylw at y canlynol: mae y corff dynodedig sy'n rheoleiddio Arolygwyr Cymeradwy wedi newid.
Cwmpas y Cylchlythyr hwn
- Mae'r Cylchlythyr hwn yn berthnasol i adeiladau a gwaith adeiladu yng Nghymru, yn ogystal ag i weithwyr rheolaeth adeiladu proffesiynol sy'n gweithredu yng Nghymru.
Hysbysiad am newid y corff sy'n goruchwylio Arolygwyr Cymeradwy
- Fel rhan o'r gyfres o newidiadau a gyflwynwyd mewn perthynas â Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 lle y bydd Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (RBCAs) yn disodli Arolygwyr Cymeradwy at ddibenion gweithredu rheolaeth adeiladu'r sector preifat, rhoddodd Gweinidogion Cymru rybudd y byddai dynodiad Cofrestr Arolygwyr Cymeradwy Cyngor y Diwydiant Adeiladu (CICAIR) fel y corff sy'n rheoleiddio Arolygwyr Cymeradwy yn cael ei ddirymu.
- O 31 Mawrth 2024 peidiodd CICAIR â bod y corff a ddynodwyd i gymeradwyo arolygwyr.
- Ar gyfer y cyfnod pontio, mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi cael ei ddynodi gan Weinidogion Cymru fel y corff newydd i oruchwylio Arolygwyr Cymeradwy at ddibenion Rhan 2 o Ddeddf Adeiladu 1984 a'r Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010.
- Daeth y dynodiad hwn i rym ar 5 Ebrill 2024 a daw i ben ar 1 Hydref 2024. Ar ddiwedd y cyfnod pontio ni chaiff Arolygwyr Cymeradwy barhau i weithredu.
- Er mai'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch bellach yw'r corff dynodedig ar gyfer rheoleiddio Arolygwyr Cymeradwy, ni fydd unrhyw Arolygwyr Cymeradwy newydd yn cael eu cofrestru yn ystod y cyfnod pontio, gan fod y diwydiant yn symud tuag at holl swyddogaethau rheolaeth adeiladu'r sector preifat yn cael eu cyflawni gan Gymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu.
- Bydd rôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn hyn o beth yn cael ei chyfyngu i gofrestriadau sy'n bodoli eisoes – gan gynnwys monitro cofrestriadau sydd wedi dod i ben neu sydd wedi cael eu tynnu'n ôl – ymchwilio i gwynion a defnyddio sancsiynau lle bo hynny'n berthnasol ac yn briodol.
- Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad yr oedd CICAIR yn ei ddefnyddio yn flaenorol pan gawsant eu dynodi, a byddant yn mabwysiadu a gweithredu'r weithdrefn gwynion a'r drefn sancsiynau yr oedd CICAIR yn eu defnyddio wrth ddatrys unrhyw gwynion a wneir mewn perthynas ag Arolygwyr Cymeradwy.
Ymholiadau
Anfonwch unrhyw ymholiadau am y Cylchlythyr hwn at:
Rheoliadau Adeiladu,
2il Lawr,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd CF10 3NQ
E-bost enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Yn gywir,
Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu